|
Mae'r Neuadd Goffa yn gyfleuster canol dref y gellir ei haddasu, sy'n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau ac mae ar gael i'w llogi.
Mae'r Neuadd yn cynnig ystod o gyfleusterau a all dderbyn amrywiaeth o ddigwyddiadau o arddangosfeydd, cynadleddau, seminarau, cyngherddau, dawns giniawau, disgos ac ystod o ddosbarthiadau a chyfarfodydd.
Lawrlwytho'r taflen Neuadd Goffa
Ceir llwyfan, system PA, goleuadau llwyfan a bar yn y Neuadd. Gall llogwyr arlwyo eu hunain, dod ag arlwywyr o'r tu allan gyda nhw neu archebu bwffe, lluniaeth ysgafn neu de a choffi.
Mae digwyddiadau rheolaidd y Neuadd yn cynnwys:-
- Dawnsfeydd Amser Te gydag organydd byw bob prynhawn Llun, 2.00pm - 4.00pm heblaw am Wyliau'r Banc. Tâl mynediad yw £2.00 gan gynnwys paned o de.
- Dawnsio Albanaidd gyda'r Gymdeithas Caledonian bob nos Lun yn y gaeaf, heblaw am wyliau banc.
- Dawnsio Llinell Americanaidd bob nos Fawrth 7.30pm - 10.00pm. Mynediad £3.00.
- Dosbarthiadau Karate bob nos Iau 6.00pm - 7.00pm
- Dawnsio Jeif Modern, bob nos Fercher, 7.45pm - 10.30pm. Dim angen partner. Mynediad £4.50, bar ar gael.
Mae gan y Neuadd ei maes parcio bach ei hun, y gall llogwyr ei ddefnyddio am ddim. Fe'i lleolir ger maes parcio talu ac arddangos y Byd Dwr. Mae'r cyfan ar un lefel, mae ramp ar gyfer cadeiriau olwyn, drysau awtomatig a thoiled anabl i ferched a dynion.
Am wybodaeth bellach, ffoniwch y Neuadd yn uniongyrchol ar 01978 292683, e-bost: memorialhall@wrexham.gov.uk neu galwch heibio'r Neuadd Goffa, Bodhyfryd, Wrecsam.
Taflen Neuadd Goffa
Lawrlwytho'r taflen yn y fformat canlynol:
Taflen Neuadd Goffa - Fersiwn PDF 1.2Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |