Atal Damweiniau ac Anafiadau
Cynhaliodd Cynghrair Iechyd Lleol Wrecsam seminar amlasiantaethol ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Damweiniau ac Anafiadau ymysg Pobl Hyn’ ym mis Medi 2002.
Sefydlwyd Grwp Atal Damweiniau ymysg Pobl Hyn gyda chynrychiolwyr o: Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus, y Bwrdd Iechyd Lleol, y Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru a Gofalu a Thrwsio.
Mae’r grwp wedi cyfarfod a blaenoriaethu meysydd gweithredu ar sail gwybodaeth gyfredol. Dyma’r meysydd targed:
- Codi proffil ac ymwybyddiaeth o atal damweiniau ymysg pobl hyn, yn enwedig o ran cwympiadau, drwy wneud asesiad sylfaen o’r adnoddau a gwybodaeth presennol, nodi bylchau ac asesu sut gall cyrff perthnasol helpu i gylchredeg y wybodaeth sydd ar gael.
- Nodi’r unigolion hynny mewn sefydliadau a chymunedau a fyddai’n briodol ar gyfer hyfforddiant atal damweiniau gan CAPIC (Collaboration for Accident Prevention and Injury Control).
- Nodi ac arolygu meysydd ychwanegol o gyllid a fyddai’n ategu at atal damweiniau ac anafiadau ymysg pobl hyn.
|