Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Ymgyrchoedd Iechyd

 

Mae’r Cynghrair wedi cymeradwyo cyllid o £3,000 i nodi a chefnogi ymgyrchoedd sy’n ymwneud ag iechyd. Mae’r ymgyrchoedd canlynol wedi derbyn arian gan y Cynghrair:-

Y Groes Goch Brydeinig

Lleolir y Groes Goch Brydeinig mewn uned symudol ar dir Ysbyty Maelor Wrecsam. Maent yn rhoi benthyg cadeiriau olwyn am dymhorau byr. Yn chwe mis cyntaf eleni, maent wedi rhoi benthyg 70 cadair olwyn i 204 claf, mae 98% o’r cleifion hyn yn farwol sâl neu wedi eu rhyddhau o’r ysbyty.

Derbyniodd y Groes Goch Brydeinig £600 o Gynghrair Iechyd Lleol Wrecsam a alluogodd hwy i brynu 5 cadair olwyn newydd.


AVOW – Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam

AVOW yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Wrecsam ac mae’n gweithredu fel y prif gorff ar gyfer holl sefydliadau gwirfoddol a chymunedol Wrecsam. Mae AVOW yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i gyrff gwirfoddol ac mae’n anelu at bartneriaeth effeithiol gydag asiantaethau statudol.

Derbyniodd Avow £1,060.00 i ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gweithle a chyrsiau iechyd a diogelwch i 12 o’i aelodau.


Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam / Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae mwy a mwy o dystiolaeth fod plant sy’n bwydo o’r fron yn dioddef llai o afiechydon plentyndod ac yn llai tebygol o ddioddef o afiechydon y galon a rhai ffurfiau o ganser yn hwyrach yn eu bywydau.

Mae’r Grwp Datblygu Bwydo o’r Fron yn anelu at hybu bwydo o’r fron fel dewis iach ac annog datblygu polisi bwydo o’r fron. Mae’r grwp hefyd yn arwain menter, sef y gofrestr cyfeillgar i fwydo o’r fron. Yn ei hanfod, mae hon yn rhwydwaith o siopau, banciau, swyddfeydd y Cyngor a chanolfannau hamdden sy’n cefnogi merched sy’n bwydo o’r fron.

Rhoddodd Cynghrair Iechyd Lleol Wrecsam £600 i’r grwp hwn i ailgynllunio a chyhoeddi taflenni sy’n rhestru’r lleoedd hynny sy’n gyfeillgar i fwydo o’r fron.


NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru)

Lleolir NEWCIS yn y Ganolfan Gyrfaoedd ar Stryt y Rhaglaw, Wrecsam. Mae’n wasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr. Mae’n cynnal cyfarfodydd cefnogi gofalwyr lle mae gofalwyr yn dod i drafod unrhyw broblemau/materion sydd ganddynt. Mae NEWCIS wedi derbyn cyllid gan y Grant Arbennig i Ofalwyr i roi seibiannau i ofalwyr a grantiau unigol i’w galluogi i brynu eitemau megis peiriannau golchi a gwasanaethau garddio.

Rhoddodd Cynghrair Iechyd Lleol Wrecsam £740 i NEWCIS ar gyfer hyfforddiant symud a chodi i ofalwyr.

Mynychwyd y digwyddiad hyfforddi dau ddiwrnod a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2002 gan 9 gofalwr. Ei bwrpas oedd ‘gwella eu sgiliau’. Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn gydag atborth positif iawn.


Siop Wybodaeth i Bobl Ifanc

Mae Siop Wybodaeth i bobl ifanc Wrecsam wedi symud i Stryt Caer. Rhoddodd Cynghrair Iechyd Lleol Wrecsam gyllid o £12,000 iddi i helpu i ailwampio’r eiddo.

Mae’r Siop Wybodaeth yn rhywle lle gall pobl ifanc fynd am gyngor ar unrhyw beth. Gallant hyd yn oed fynd i glinig iechyd rhywiol am gyngor a thriniaeth. Mae’n rhywle lle gall pobl alw heibio a gofyn am gyngor neu gasglu taflen ar fater sy’n eu poeni.

Prif feysydd diddordeb y Siop yw:

  • Addysg
  • Gwaith a hyfforddiant
  • Teulu a pherthynas
  • Iechyd ac iechyd rhywiol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Tai
  • Arian
  • Hawliau
  • Teithio
 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Prosiectau
Maes Blaenoriaeth ar Gyfer 2002/03
Maes Blaenoriaeth ar Gyfer 2001/02
Cyflawniadau
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint