|
Mae Ymarfer ar Gyfeiriad yn gynllun sy’n cysylltu’r 26 meddygfa leol gyda gwasanaethau hamdden y Cyngor. Gellir cyfeirio cleifion sydd mewn perygl o afiechyd coronaidd, gordewdra, iselder neu unrhyw salwch a fyddai’n cael budd o ymarfer corff at un o ymgynghorwyr ffitrwydd y Cyngor am asesiad llawn i’w ddilyn gan raglen bersonol o ymarfer corff a allai gynnwys mynd i’r gym neu gerdded mwy, mynd i nofio neu fynd i’r gym gwyrdd.
Hyn oll am gost presgripsiwn, sy’n £6.00 ar hyn o bryd.
Mae’r Cynghrair yn rhoi £5,000 i’r Cynllun Ymarfer ar Gyfeiriad i gynyddu hygyrchedd i gleifion, drwy ddarparu hyfforddiant Ymarfer ar Gyfeiriad ac Adfer Cardiac i hyfforddwyr ffitrwydd sy’n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
|