Europe Direct
Os oes gennych gwestiwn am Ewrop, yna gall Europe Direct helpu i ddod o hyd i ateb. Mae Europe Direct yn wasanaeth gwybodaeth cyffredinol sy’n darparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd.
Gallwn ddarparu:
- Gwybodaeth ymarferol am ystod eang o bynciau megis sut i gael hawlyn breswylfa, sut i gael cydnabyddiaeth am eich cymwysterau, teithio, astudio neu weithio mewn un o wledydd yr UE neu sut i gwyno am gynnyrch peryglus
- Gwybodaeth gyffredinol am faterion yr UE
- Ar gyfer cwestiynau cymhleth, gallwn gysylltu chi â gwasanaethau arbenigol megis y Gwasanaeth Llywio Dinasyddion neu Solvit
- Gellir darparu peth gwybodaeth mewn ieithoedd eraill (os yw ar gael)
Yn ogystal, mae gennym:
- Fynediad rhadffôn i ganolfan galwadau Europe Direct lle bydd eich galwad yn cael ei hateb mewn unrhyw un o ieithoedd swyddogol yr UE
- Cyhoeddiadau am ddim y gallwch fynd â nhw adref gyda chi
- Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
- Llyfrau i’w benthyg o’r llyfrgell
Llyfrgelloedd a darparwyr gwybodaeth eraill
Gall Europe Direct gyflenwi taflenni i lyfrgelloedd a darparwyr gwybodaeth eraill. I wybod mwy am yr hyn sydd gennym, cysylltwch â ni.
Athrawon
Os oes angen gwybodaeth neu gyhoeddiadau am Ewrop arnoch i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, gall Europe Direct ddarparu deunyddiau perthnasol i chi. Os ydych yn cynllunio prosiect neu wersi lle mae angen gwybodaeth neu adnoddau arnoch, cysylltwch â ni i drafod ymhellach.
Pa wybodaeth na all Europe Direct ei darparu?
Nid yw Europe Direct yn wasanaeth datrys problemau. Ni all gyflwyno ceisiadau am iawndal na chyflwyno cwynion ar eich rhan – fodd bynnag, gall roi manylion cyswllt i chi o wasanaethau neu sefydliadau perthnasol.
Fel gwasanaeth gwybodaeth cyffredinol, nid oes gan Europe Direct hawl i wneud sylwadau am faterion penodol sy’n gysylltiedig â pholisïau’r UE na safbwynt yr UE mewn perthynas â sefyllfaoedd gwleidyddol.
Europe Direct Cylchlythyr Haf 2007
Mae'r cylchlythyr ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Europe Direct Cylchlythyr Haf 2007 - fformat PDF 583Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Cysylltwch â ni
Europe Direct
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU
Ffôn: 01978 292090
Ebost:
europedirect@wrexham.gov.uk
Europe Direct - Ffurflen ymateb ac ymholi
|