Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Plant a Phobl Ifanc

 

Sut ydw i'n ymuno?

Gallwch ymuno â'r llyfrgell unrhyw oed, ac mae am ddim! Gofynnwch am gerdyn aelodaeth wrth y cownter. Gofynnwch i riant neu warchodwr lofnodi eich cerdyn a dewch â dau beth sy'n dangos pwy ydych chi (un sy'n dangos enw a chyfeiriad ac un sy'n dangos y llofnod). Cyn gynted ag y byddwch yn ymuno â'r llyfrgell, rydych yn dod yn 'Llowciwr Llyfrau' a gallwch chi fenthyca llyfrau ar unwaith.

Ydych chi'n mentro lawrlwytho'r taflen Llyfrgell Plant

Llyfrgell Plant - Fersiwn PDF 592Kb Adobe Acrobat Document logo

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Beth alla' i fenthyca?

  • Llyfrau Bwrdd
  • Llyfrau i Fabanod
  • Llyfrau i Ddarllenwyr Cyntaf
  • Llyfrau Lluniau
  • Llyfrau Stori
  • Llyfrau Gwybodaeth
  • Llyfrau i Bobl Ifainc
  • Storïau ar dâp

Sawl llyfr alla' i ei fenthyca, ac am ba hyd?

  • Gallwch fenthyca hyd at 10 eitem.
  • Gallwch gadw llyfrau a thapiau stori hyd at 3 wythnos. Os ydych eu heisiau am fwy o amser, dewch â nhw 'nôl i'w hailstampio neu ffoniwch i'w hadnewyddu (os nad oes rhywun arall yn aros amdanyn nhw).

Beth os na alla' i ddod o hyd i'r llyfrau rwyf eu heisiau?

  • Gofynnwch i aelod o staff am gymorth - rydym wrth law bob amser i'ch helpu chi.
  • Gallwn hefyd gadw llyfr ar eich cyfer neu gael un o lyfrgell arall i chi - gofynnwch i'r staff am fanylion.

Gwybodaeth Gyfeiriol

Mae gennym lyfrau cyfeiriol a llyfrau prosiect i chi eu defnyddio yn y llyfrgell hefyd. Gallwch ddefnyddio'r rhain i ddod o hyd i wybodaeth ac maent yn wych os oes gennych waith cartref neu brosiect. Peidiwch ag anghofio, mae gennym CD-ROMs a mynediad i'r Rhyngrwyd mewn rhai o'n llyfrgelloedd i'ch helpu gyda'ch gwaith cartref.

Beth arall alla' i ei wneud?

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer 'Llowcwyr Llyfrau' yn ein llyfrgelloedd. Dyma rai o'r pethau hwyliog rydym yn eu trefnu i chi:

  • Sesiynau stori a darllen gyda'n gilydd
  • Clybiau 'Llowcwyr Llyfrau' Lleol
  • Gweithgareddau'r Gwyliau
  • Sesiynau celf a chrefft
  • Cystadlaethau a chwisiau
  • Wythnos Llyfrau Plant
  • Ymweliadau gan Awduron

Mae gan sawl llyfrgell gyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i brosesu geiriau yn rhad ac am ddim.

Am wybodaeth am wasanaethau i blant yn ardal Wrecsam, ewch i'n tudalen ar y Ganolfan Gwybodaeth am Blant.

Llyfrau i Fabanod

Ein nod yw gwella llythrennedd, rhifedd a sgiliau cymdeithasol plant cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol.

Mae rhannu llyfrau â babanod a phlant bach yn ffordd fendigedig o wella’u sgiliau iaith a helpu plant i ddeall y byd o’u cwmpas. Yn wir, y pum mlynedd gyntaf yw’r adeg orau i ddysgu sut i siarad a daw’r rhan fwyaf o iaith plentyn gan yr oedolion o’u cwmpas.

Mae babanod a phlant bach sy’n mwynhau llyfrau yn dechrau darllen ynghynt ac yn gwneud yn well yn yr ysgol. Beth am alw heibio i’r llyfrgell leol i weld y casgliad bendigedig o lyfrau sydd ar gael i fabanod?!

Dechrau Darllen

Mae Dechrau Darllen yn rhaglen genedlaethol a gydlynir gan Booktrust. Mae’n darparu pecyn o lyfrau’n rhad ac am ddim i fabanod 7 i 9 mis oed ac i blant bach 18 i 24 mis oed, a ddosberthir gan Ymwelwyr Iechyd mewn meddygfeydd babanod. Mae’r pecyn yn cynnwys canllawiau i rieni/gofalwyr ac yn hyrwyddo hoffter gydol oes o lyfrau. Cydlynir y cynlluniau’n lleol gan y Gwasanaeth Llyfrgell, sy’n ychwanegu gwahoddiad i ymaelodi â’r llyfrgell ynghyd â gwybodaeth am lyfrgelloedd at y pecyn Dechrau Darllen.

Llyfrgellwyr Blynyddoedd Cynnar

Mae gan Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam ddau Lyfrgellydd Blynyddoedd Cynnar sef Jo Elliot ac Anna Aram. Nhw sy’n gyfrifol am Dechrau Darllen yn sir Wrecsam.

Mae Jo ac Anna yn gweithio yn y gymuned, yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn bennaf, yn cwrdd â phlant a’u rhieni/gofalwyr e.e. mewn cylchoedd chwarae, meithrinfeydd, grwpiau plant bach a meddygfeydd babanod i hyrwyddo darllen a llyfrgelloedd.

Maent yn cynnal sesiynau wythnosol mewn llyfrgelloedd gan ddod â storïau’n fyw drwy lyfrau llawn lluniau lliwgar, llyfrau rhyngweithiol, llyfrau mawr a sachau stori. Maent yn cael andros o hwyl yn creu cynnwrf yn y llyfrgell gydag offerynnau cerdd, rhigymau sydd â symudiadau bywiog a gweithgareddau crefft!

Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, blant cyn oed ysgol, dewch draw i’r sesiynau stori a rhigwm a restrir isod:

  • Dydd Llun cyntaf y mis yn Llyfrgell Cefn Mawr 9.30 - 10.15
  • Dydd Mawrth yn Llyfrgell Wrecsam 2.00 - 2.30
  • Dydd Mawrth cyntaf y mis yn Llyfrgell Rhos 1.45 - 2.30
  • Dydd Mercher yn Llyfrgell Brynteg 11.00 - 12.00
  • Dydd Iau cyntaf y mis yn Llyfrgell Rhiwabon 2.00 - 2.45

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Jo neu Anna yn Llyfrgell Wrecsam ar:
01978 292643 neu anfonwch e-bost: llyfrgell@wrexham.gov.uk

Tips ar Ddarllen i'ch Plant

  • Dylai darllen fod yn hwyl bob amser
  • Canwch a darllenwch hwiangerddi a storïau yn uchel
  • Dewiswch lyfrau sy'n cynnwys lluniau mawr
  • Tynnwch sylw at y lluniau wrth fynd drwy'r stori
  • Rhowch y gorau iddi os yw eich babi'n blino neu'n colli diddordeb

Dod o hyd i lyfrau

Cofiwch, eich llyfrgell yw'r man cychwyn gorau. Mae dewis da o lyfrau yno ar gyfer babanod, plant bach a'r teulu cyfan.

Gallwch chi ymuno am ddim. Gwnewch hynny heddiw! Clybiau Gwaith Cartref

 
English
 

Cyswllt i

Ein Newyddion
Digwyddiadur
Cysylltiadau Llyfrau
Llyfrgell Brymbo
Llyfrgell Brynteg
Llyfrgell Cefn Mawr
Llyfrgell Coedpoeth
Llyfrgell Gresffordd
Llyfrgell Gwersyllt
Llyfrgell Llai
Llyfrgell Owrtyn
Llyfrgell Rhiwabon
Llyfrgell Rhos
Llyfrgell Wrecsam
Llyfrgell Y Waun
Cysylltwch â Llyfrgelloedd
Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint