Over a thousand hills I walk with you gan Hanna Jansen
Mae Over a thousand hills I walk with you yn dilyn merch ifanc, Jeanne, drwy’r dyddiau cyn yr hil-laddiad yn Rwanda ym 1994 a’r daith wedyn – sef un o’r erchyllterau mwyaf a welwyd erioed. Gyda dewrder rhyfeddol, craffter a lwc, llwyddodd Jeanne i oroesi, er iddi golli ei theulu cyfan yn yr hil-laddiad.
Ysgrifennwyd y llyfr hwn, ffuglen yn seiliedig ar ffeithiau, gan fam fabwysiadol Jeanne i adrodd yr hanes a elwir yn aml yn holocost modern. Fel gyda’r holocost gwreiddiol, gadawyd llawer o blant i ofalu amdanynt eu hunain i geisio dod o hyd i ffordd newydd o fyw; dyma hanes Jeanne.
Mae hwn yn llyfr rhyfeddol, un a fydd yn aros yn eich cof yn hir ac a ddylai fod ar y cwricwlwm ysgol ochr yn ochr â dyddiadur Anne Frank.
Debbie Salisbury
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Devil may care gan Sebastian Faulks
Dyma enw a fydd yn treiddio i ymwybyddiaeth James Bond. Enw dyn sy’n drachwantus ymhob ystyr, nid yn unig o ran cyfoeth ond un na fydd yn rhoi’r gorau iddi nes y bydd wedi distrywio Prydain Fawr yn gyfan gwbl.
Wedi’i ysgrifennu gan un o’r nofelwyr Prydeinig a edmygir fwyaf, mae Sebastian Faulks yn dechrau cyfnod newydd i Bond. Dyma’r James Bond penigamp a gallwch deimlo ysbryd Fleming yn y cefndir. Mae’n darllen fel y gorau o’i lyfrau, gyda phlot sy’n symud yn gyflym, digonedd o’r bwydydd a’r diodydd gorau a dihiryn eithriadol. Dyma stori Boys Own go iawn, sydd wedi’i hysgrifennu â steil a rhwysg sy’n dal naws y chwedegau fel rhai o lyfrau gorau Ian Fleming. Mae’n bryd cael blas o’r ddrama… rŵan!
Eirlys Williams
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
The Pools gan Bethan Roberts
Mae’r stori wedi’i lleoli yn Lloegr Ganol ganol y 1980au yn y math o le lle nad oes dim byd byth yn digwydd; hynny yw, nes y daw rhywun o hyd i gorff. Mae bachgen yn ei arddegau, Robert, wedi’i ladd ger y pyllau, a’i gorff yn arnofio yn y dŵr.
Mae’r stori wedi’i chanoli ar hanner dwsin o gymeriadau sydd â’u bywydau’n gysylltiedig â Robert. Nid y manylion achlysurol sy’n codi gyfrifol am gyfoeth y gyfrol ond yn hytrach y darlun o’r berthynas rhwng Howard druan a Kath annaliadwy. Mae’r awdur hefyd wedi creu’r hanes yn glyfar fel ein bod yn cael dau berspectif gwahanol.
Fel y daw’r llyfr i’w ganlyniad anorfod (fel y datgelir ar y dudalen gyntaf un), mae’n amhosibl peidio â theimlo’r bwlch poenus o alar a cholled, nid yn unig mewn cydymdeimlad â Howard a Kath ond hefyd bod rhywun yn dod i ddiwedd perl llenyddol.
Debbie Salisbury
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Plague ship gan Clive Cussler a Jack Du Brul
Dyma’r bedwaredd nofel sy’n dilyn campau’r Oregon, llong ysbïo ddirgel sydd â golwg hollol ddadfeiliedig arni o’r tu allan, ond y tu mewn mae’n llawn arfau soffistigedig ac offer casglu gwybodaeth. Ei chapten yw’r cyn-asiant CIA, Juan Cabrillo, a chriw o gyn-filwyr ac ysbïwyr. Menter breifat ydyw, ar gael i unrhyw asiantaeth llywodraeth a all ei fforddio.
Mae Cussler yn anfon yr Oregon ar ei thaith bwysicaf erioed. Mae’r criw newydd gwblhau ymgyrch gwbl gyfrinachol yn erbyn Iran yng Ngheufor Persia, pan maen nhw’n dod ar draws llong wyliau yn nofio gyda’r llif. Mae cannoedd o gyrff ar hyd ei bwrdd, ac wrth i Cabrillo geisio penderfynu beth sydd wedi digwydd, mae ffrwydradau’n tanio ar hyd y llong. Cael a chael yw iddo ddianc yn fyw gyda’r unig oroeswr o’r llong. Mae Cabrillo’n ymladd cwlt dirgel sydd â chynlluniau angheuol ar gyfer y ddynoliaeth... cynlluniau y gall ef a’i dîm eisoes fod yn rhy hwyr i’w hatal.
Efallai nad yw Cussler a Du Brul ar eu gorau yma ond mae’n sicr yn adloniant gwerth chweil ac yn gyffrous i’w ddarllen.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Remember Me? gan Sophie Kinsella
Beth fyddech chi’n ei wneud pe bai eich bywyd delfrydol yn troi’n wirionedd?
Pan fydd Lexi Smart, sy’n ugain ac ychydig, yn syrthio i lawr y grisiau ar ôl noson o feddwi gyda ffrindiau, mae ei bywyd yn newid am byth… a daw’n wraig i filiwnydd, gyda llyfr siec a dillad i gyd-fynd â hyn. Yr unig broblem ydy nad ydy Lexi’n cofio’i bywyd blaenorol.
Mae Lexi’n ecstatig pan fydd ei gŵr anhygoel, Eric, yn cyrraedd i’w chasglu. Bellach, nid yw’n cael ei llesteirio gan ei ‘chyn’ gariad “Loser Dave”, mae Lexi Smart yn dychwelyd i’w bywyd gyda’i ‘gŵr’, nad yw hi’n gwybod fawr ddim amdano, gan feddwl bod ei bywyd wir yn freuddwyd. Dydy hi ddim yn sylweddoli mai breuddwyd yw ei bywyd hyd nes iddi ddeall mai ei llysenw yw “Cobra” a bod ei gyrfa ddelfrydol yn hunllef mewn gwirionedd. Bryd hynny mae Lexi’’n penderfynu bod rhaid iddi un ai ailddysgu caru ei gŵr neu ddechrau cael perthynas anonest gyda Jon, cydweithiwr ei gŵr…
Nofel gyffrous i’r merched, a fydd yn eich swyno o fore gwyn tan nos.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Steel Witches gan Patrick Lennon
Mae Tom Fletcher, a welwyd ddiwethaf yn y llyfr ‘Corn Dolls’, wedi gadael yr heddlu ac mae o’n gweithio fel ditectif preifat yng Nghaergrawnt. Caiff ei dynnu’n ôl at hanes cythryblus ei deulu gan neges oddi wrth ei dad coll. Mae’n ymddangos fod gan y neges gysylltiad â diflaniad a llofruddiaeth myfyriwr ifanc y gyfraith a oedd yn gweithio fel gweinyddwraig mewn bar.
Sut mae cwmni technoleg gyfoes Americanaidd ynghlwm wrth stori o’r Ail Ryfel Byd a guddiwyd yn swyddogol? Ble mae maes llu awyr yr UD sydd, mae’n ymddangos, yn allwedd i’r dirgelwch hynafol, a phwy yw’r chwiorydd sy’n codi ofn ac a oedd yn rhan bwysig yn y ddrama sy’n parhau i geisio meddiannu Tom Fletcher?
Wrth i storm anferth ymledu ledled Ewrop a dechrau dyrnu’r corsdiroedd isel, mae ymholiadau Tom yn dechrau ymledu i hyd yn oed gynllwyniau mwy difrifol byth. Mae hon yn stori lofruddiaeth yn rhannol ac yn stori gynllwyn hefyd ac mae digon o droeon annisgwyl ynddi i’ch gwneud chi i ddarllen hyd at y dudalen olaf.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
The girl of his dreams gan Donna Leon
Ar fore glawog, ychydig ar ôl angladd ei fam, mae’r Commissario Brunetti ac Ispettore Vianello yn ymateb i alwad frys 911 sy’n rhoi gwybod am gorff sy’n arnofio ger grisiau un o gamlesi llai Fenis. Wrth iddo ymestyn i dynnu’r corff o’r dŵr, mae arddwrn Brunetti yn bachu mewn darn o wallt euraidd a daw troed fechan i’r golwg. Gyda’i gilydd, mae o a Vianello yn codi corff geneth o’r dŵr.
Am ryw reswm annirnadwy, fodd bynnag, ni chafwyd gwybod am blentyn coll, nac am ladrad y gemwaith aur y mae’n ei gario. Felly, caiff Brunetti ei dynnu nid yn unig i achos ei marwolaeth ond hefyd i geisio gwybod pwy yw hi, pwy yw ei theulu ac am y cyfrinachau y mae pobl yn eu cadw er mwyn diogelu eu plant – os ydyn nhw’n euog ai peidio.
Yn ystod yr ymchwiliad, mae Brunetti’n mynd o gamlesi a phalasau Fenis i wersyll sipsiwn ar y tir mawr, drwy sugndraethau o gysylltiadau a pherthnasau agored a chuddiedig, wrth iddo ymdrechu yn erbyn rhagfarn sefydliadol a’r byd troseddol er mwyn ceisio datgelu tynged y plentyn marw.
Hon yw nofel ddiweddaraf a thywyllaf cyfres Donna Leon am Brunetti a’i gydweithwyr. Mae’n rhoi mwy o bwyslais ar bersonoliaethau nag ar y drosedd ei hun.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Ritual gan Mo Hayder
Mae deifiwr yr heddlu’n darganfod llaw ddynol yn harbwr Bryste. Yn fuan wedyn, maen nhw’n dod o hyd i’r llaw arall wedi ei chladdu o dan dŷ bwyta. Mae’r dwylo gwahanedig yn perthyn i adict ifanc sy’n gaeth i heroin a aeth ar goll o’r sîn gyffuriau ym Mryste yn ddiweddar. Mae’n ymddangos iddo gael ei ddal mewn marchnad ddu sinistr yn tarddu o Affrica, lle dywedir bod rhannau o gyrff dynol yn dal nodweddion hudol ac yn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd.
Mae deifiwr arall o’r heddlu, Flea Marley, yn ymuno gyda’r Arolygwr Dditectif Jack Caffrey. Mae gan y ddau ohonynt faterion personol dwfn sy’n ganolog i ddatrys rhediad y stori.
Dyma’r gyntaf mewn cyfres newydd sy’n cynnwys ‘y dyn sy’n cerdded’, sy’n gwneud cyfres o ymddangosiadau byr mewn sgwrs gyda Caffrey, er nad eglurwyd ac ni ddatblygwyd ei rôl yn iawn o gwbl.
Os ydych chi wedi darllen y rhagflaenwyr grymus i’r nofel hon (fel Birdman a The Treatment) byddwch yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Gellir dibynnu ar Mo Hayder bob amser i gyflwyno darlleniadau gafaelgar (os anghyfforddus iawn).
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
The Parting gan Beverly Lewis
Mae bron gan niwrnod wedi mynd heibio ers marwolaeth ddisymwth chwaer annwyl ieuengaf Nellie Mae Fisher, Suzy, cyn i Nellie fentro unwaith eto i freuddwydio am ddyfodol gyda’r Caleb Yoder golygus. Ond gyda’r straeon am Suzy yn parhau i ledaenu ymhlith y Bobl, mae rhai’n dymuno cadw'r pâr ifanc sy'n caru ar wahân… gan gynnwys tad Caleb ei hun.
Yn y cyfamser, mae nifer cynyddol o ffermwyr Amish Honeybrook yn galw am gael tractors a chyfleusterau cyhoeddus eraill a waherddir. Pan fydd adfywiad yn ychwanegu at y tensiwn, mae dicter yn ffyrnigo a chaiff yr hen drefn gymunedol ei phrofi i’r eithaf. Mae Nellie a Caleb yn canfod eu hunain a’u teuluoedd yng nghanol rhywbeth a allai ddatblygu’n rhwyg amhosibl i’w datrys.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Katherine Swynford gan Alison Weir
Yn llyfr newydd rhyfeddol hwn, mae Alison Weir yn adrodd am un o storïau caru mwyaf Lloegr ganoloesol. Dyma stori ryfeddol Katherine Swynford, a ddaeth yn feistres, ac yn ddiweddarach yn wraig, i John of Gaunt, Dug Lancaster, un o dywysogion mwyaf grymus a charismatig y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Yn adnabyddus am ei harddwch, roedd bywyd Katherine yn ymdroi ym mywyd bywiog y llys ar uchafbwynt yr oes sifalri. Roedd yn adnabod mwyafrif enwogion yr oes - yn eu mysg ei brawd-yng-nghyfraith, sef y bardd Geoffrey Chaucer. Bu’n byw drwy’r Rhyfel Can Mlynedd, y Pla Du a Gwrthryfel y Werin. Profodd golled, trallod a thorcalon a goroesodd y cwbl yn fuddugoliaethus.
Mae gan Katherine safle allweddol ym mrenhiniaeth Lloegr, gan mai hi oedd mam y Beauforts, ac o ganlyniad roedd yn un o hynafiaid y Tuduriaid, y Stiwartiaid a phob brenin a brenhines ers hynny - etifeddiaeth sydd wedi ffurfio hanes Prydain.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Long Way Down gan Ewan McGregor a Charley Boorman
Yn dilyn eu taith anhygoel o gwmpas y byd yn 2004, nid oedd y cyd actorion a motobeicwyr brwd, Ewan McGregor a Charley Boorman, yn gallu dod dros eu hobsesiwn â theithio ac yn dilyn ymweliad ysbrydoledig ag Affrica gydag UNICEF, roedden nhw’n gwybod bod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i archwilio’r cyfandir arbennig hwn yn fanylach.
Ddechrau haf 2007, dechreuodd y ddau ar eu taith 15,000 milltir gyda dau BMW newydd wedi’u llwytho ar gyfer y daith. Gan ymuno â’r cynhyrchwyr/cyfarwyddwyr Russ Malkin a David Alexanian a gweddill y criw Long Way Round, aeth y daith â nhw o John O’Groats, ar bwynt mwyaf gogleddol Yr Alban, i Cape Agulhas, ar bwynt mwyaf deheuol De Affrica. Wrth yrru trwy olygfeydd ysblennydd ar dymhereddau eithafol ac ar draws tir anodd yn aml, wynebodd Ewan a Charley eu heriau anoddaf hyd yma. Maen nhw’n adrodd eu hanesion gyda’r hiwmor a’r gonestrwydd sy’n nodweddiadol ohonyn nhw.
Mae’r llyfr hwn yn un y mae’n rhaid i edmygwyr Long Way Round ei ddarllen ac mae’n fan cychwyn gwych i’r rheiny sydd erioed wedi profi taith sy’n ddigon i newid eich bywyd.
Debbie Salisbury
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
In Distant Fields gan Charlotte Bingham
Pan fydd Kitty’n cael ei gwahodd i aros gyda’i ffrind, Partita, yng Nghastell Bauder, mae’n gwybod bod rhaid iddi wrthod. Fodd bynnag, mae ei mam yn ystyried y gwahoddiad yn gyfle cwbl annisgwyl i’w merch ddianc o bresenoldeb bygythiol ei thad drwg-enwog ac mae’n gwystlo ei modrwy ddyweddïo er mwyn galluogi Kitty i fynd. Mae rhieni Partita’n cael eu swyno gan Kitty ac yn fuan iawn mae’n dod yn rhan o’u ffordd freintiedig a chyfareddol o fyw..
Ar ôl gwyliau eidylig ar lan y môr, mae rhyfel yn cael ei gyhoeddi. Ni all y dynion ifanc aros i wirfoddoli tra mae’r merched yn mynd ar gyrsiau nyrsio ac mae’r castell yn dod yn gartref gwella. Maen nhw’n yn siŵr y daw’r rhyfel i ben ymhen ychydig wythnosau ond wrth i’r clwyfedigion ddechrau cyrraedd o faes y gad, mae realiti caled y gwrthdaro’n dod yn eglur iddyn nhw i gyd, neb yn fwy na Kitty a Partita.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
You’ve Been Warned gan James Patterson
Mae hwn yn llyfr iasol a chyffrous gan y nofelydd rhyngwladol, James Patterson. I Karen Burns, ffotograffydd ifanc talentog, roedd hi’n gwb l naturiol ei bod hi’n mynd i Efrog Newydd i geisio gwireddu ei breuddwydion, a doedd ond yn normal - er mwyn talu rhent tra oedd hi’n disgwyl am ei chyfle mawr - i weithio fel nani, gan edrych ar ôl dau blentyn i gwpl ifanc pwerus, sef atwrnai a’i gymdeithaswraig. Ond er yr holl addewidion, y wefr a’r rhwysg, mae temtasiynau hefyd ac mae peryglon marwol sy’n dod yn sgil byw ymhlith y cyfoethog a’r grymus.
Paratowch am y Nanny Diaries from Hell.
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
My Story gan Lewis Hamilton
Am y tro cyntaf, mae Lewis Hamilton yn datgelu hanes ei fywyd ar y trac rasio ac oddi arno. Mae’r llyfr hwn yn sôn am ei dymor Fformiwla Un cyntaf, gan gynnwys ei fuddugoliaethau rasio a dorrodd sawl record, y cystadlaethau dwys wrth yrru dros dîm McLaren Ron Dennis, a dod yn un o’r personoliaethau mwyaf y siaredir amdano ym maes chwaraeon.
Mae’n dangos sut y mae’n cael ei ysbrydoli gan ei dad, Anthony, a’i frawd, Nicholas, ac mae’n crybwyll y sïon ac ymyrraeth y cyfryngau a effeithiodd ar ei deulu cyfan. Mae o’n trafod ei atgofion o’i blentyndod, ei brofiadau cynnnar mewn gwibgartio, ei gamau cyntaf ym myd hudolus rasio Grand Prix ac uchafbwynt un o dymhorau mwyaf anturus Fformiwla Un am lawer o flynyddoedd.
Mae’r gyfrol hon yn werth ei darllen, hyd yn oed os nad ydych yn ddilynwr Fformiwla 1.
Eirlys Williams
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Invisible Monsters gan Chuck Palahniuk
Croeso i fyd o hunananafu gwrthnysig, cyd-ddigwyddiadau gwallgof a newid gwedd eithafol ynghyd â gweithredoedd treisgar a chyffuriau presgripsiwn.
Model y bompren yw hi ac mae ganddi bopeth: cariad, gyrfa, ffrind gorau ffyddlon. Ond pan fydd “damwain” modur ddisymwth yn ei gadael wedi’i hanffurfio ac yn methu â siarad, mae’n troi o fod yn ganolbwynt hardd i sylw pawb i fod yn anghenfil anweledig, mor erchyll fel nad oes neb yn cydnabod ei bodolaeth.
Yna, wele Brandy Alexander nwyfus, sydd, oherwydd ei natur hudol, yn ei denu i deithio ar draws gwlad ar sbri droseddol hyfryd ac eironig. Rhaid iddi ddial ar Evie, ei ffrind gorau a’i chyd-fodel, herwgipio Manus, ei chariad twyllodrus ac yna crwydro gyda Brandy i chwilio am orffennol, presennol a dyfodol newydd sbon.
Eirlys Williams
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
Stage Fright gan Alan Dunn
Pan fydd merch Billy Oliphant, myfyrwraig drama, yn gofyn am ei gymorth i lwyfannu cynhyrchiad ei phrifysgol o Nos Ystwyll (Twelfth Night), mae’n croesawu’r cyfle i dreulio mwy o amser gyda hi. Mae cynllunio’r goleuo llwyfan yn ddigon hawdd, hyd yn oed os yw Billy’n teimlo’i oed - ac allan o le braidd - ymysg yr actorion ifanc.
Cynnyrch meddwl Jonathan Taylor yw’r cynhyrchiad, athro Saesneg brwd a gor-eofn Kristy. Yn amddiffynnol o’i ferch, nid yw Billy’n hoff o’r Taylor anllad, ond caiff yntau ei ryfeddu pan ddarganfyddir ei gorff noeth ar y llwyfan yn dilyn parti meddwol gyda’r cast.
Ond, wrth i Billy gael ei dynnu i mewn i’r ymchwiliad i’r llofruddiaeth, mae hefyd yn ymwybodol o’r ffaith bod yn rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen os ydy o’n dymuno cadw’i ferch yn hapus.
Eirlys Williams
Llyfrgell Wrecsam
Cyswllt i Gwasanaeth Gwneud Cais Arlein
|