Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Mynediad i Bawb

 

Mae gennym adnoddau a chyfleusterau mewn amryw fformatau gwahanol er mwyn diwallu ystod eang o anghenion.

Llyfrau Print Bras

Ydych chi'n mwynhau darllen ond yn ei chael hi'n anodd darllen print arferol oherwydd bod eich golwg yn methu?

Rhowch gynnig ar ddarllen Llyfrau Print Bras.

Mae gennym ddetholiad o lyfrau print bras Cymraeg a Saesneg ar gael i chi eu benthyca ym mhob un o'n llyfrgelloedd. Mae teitlau newydd yn cael eu hychwanegu at ein stoc yn rheolaidd.

Gofynnwch i'r staff am gymorth os ydych yn chwilio am lyfr penodol nad ydych yn gallu ei weld ar y silffoedd. Os yw ar gael mewn print bras, fe wnawn ein gorau i gael copi i chi.

Llyfrau Llafar

Os yw eich golwg yn methu ac mae'n anodd i chi ddarllen llyfr, beth am wrando ar lyfr yn lle hynny?

Mae llyfrau llafar ar gasetiau safonol ar gael i'w benthyca ac mae teitlau newydd yn cael eu hychwanegu at y stoc yn rheolaidd. Mae gennym gasgliad o lyfrau ar gryno ddisg hefyd.

Cedwir ein casgliad o lyfrau llafar yn Llyfrgell Wrecsam ond gallwch ofyn am deitl o unrhyw un o'n llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim.

Gofynnwch am fanylion pellach am lyfrau llafar a llyfrau print bras yn eich llyfrgell leol.

Cyfleusterau eraill ar gyfer pobl sy'n drwm eu clyw neu â nam gweledol

Yn Llyfrgell Wrecsam mae gennym sganiwr Robotron sy'n darllen a recordio unrhyw destun mewn print ar gasét i chi, yn amodol ar ofynion hawlfraint. Mae system ddolen ar gyfer pobl fyddar wrth y ddesg ymholiadau yn y Llyfrgell Fenthyca ac yn y Llyfrgell Gyfeiriol.

Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam yw'r asiant lleol ar gyfer Cymdeithas y Deillion.

Gellir cael mynediad i'r llyfrgelloedd canlynol mewn cadair olwyn:

  • Brynteg
  • Cefn Mawr
  • Coedpoeth
  • Gwersyllt
  • Llai
  • Rhos
  • Rhiwabon
  • Y Waun
  • Wrecsam

Mae lifft i'r llawr cyntaf ar gael yn Llyfrgell Wrecsam.

Llyfrgell Deithiol

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth llyfrgell deithiol sy'n galw bob tair wythnos. Mae'r llyfrgell deithiol yn cario detholiad o eitemau ar gyfer oedolion a phlant, yn eu plith lyfrau ffuglen a ffeithiol, llyfrau print bras a llyfrau llafar.

Os ydych yn defnyddio'r llyfrgell deithiol, gallwch chi wneud cais am eitemau o'r llyfrgelloedd cangen - gan gynnwys fideos, casetiau a CDs am ddim os yw'r eitemau yn ein stoc.

Yn ogystal, gallwn ni drefnu i lyfrgell deithiol ymweld â llety lloches a fflatiau dan reolaeth warden yn rhad ac am ddim.

Cysylltwch â'ch llyfrgell leol os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth y llyfrgell deithiol.

Gwasanaeth Llyfrgell i Bobl sy'n Gaeth i'w Tai

Os ydych yn gaeth i'ch cartref ac yn cael anhawster i ymweld â'r llyfrgell, yna mae'n bosibl y bydd ein Gwasanaeth Llyfrgell i'r Caeth i'w Tai yn ddelfrydol i chi.

Mae gennym staff a fydd yn dod â llyfrau ac eitemau eraill o'r llyfrgell i chi bob 4 wythnos.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys mynediad i holl adnoddau'r llyfrgell, gan gynnwys llyfrau, llyfrau llafar, llyfrau print bras, casetiau a CDs cerddoriaeth, fideos, yn Gymraeg a Saesneg. Yn ogystal, gallwn gael gwybodaeth a gwneud cais am eitemau ar eich cyfer.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar e-bost llyfrgell@wrexham.gov.uk

neu ffoniwch ni yn Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.

Cyswllt Cartref

Rydym yn ymweld â llety lloches a fflatiau dan reolaeth warden yn rhad ac am ddim. Yr unig dâl a godir yw am ddod â llyfrau i gartrefi preswyl (does dim tâl os ydych yn casglu'r llyfrau o lyfrgell).

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar e-bost llyfrgell@wrexham.gov.uk

neu ffoniwch ni yn Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.

 
English
 

Cyswllt i

Ein Newyddion
Digwyddiadur
Cysylltiadau Llyfrau
Llyfrgell Brymbo
Llyfrgell Brynteg
Llyfrgell Cefn Mawr
Llyfrgell Coedpoeth
Llyfrgell Gresffordd
Llyfrgell Gwersyllt
Llyfrgell Llai
Llyfrgell Owrtyn
Llyfrgell Rhiwabon
Llyfrgell Rhos
Llyfrgell Wrecsam
Llyfrgell Y Waun
Cysylltwch â Llyfrgelloedd
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint