Awdur y mis: Medi
Owen Sheers
Ganwyd Owen Sheers yn Ffiji ym 1974 a’i fagu yn Y Fenni yn ne Cymru. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Harri VIII, Y Fenni a New College, Rhydychen. Enillodd Wobr Eric Gregory a Gwobr Ysgrifennwr Ifanc Vogue ym 1999. Roedd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, The Blue Book, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn a Chasgliad Cyntaf Gorau Forward Prize yn 2001. Roedd ei waith rhyddieithol cyntaf, The Dust Diaries, stori ffeithiol wedi’i lleoli yn Simbabwe, ar restr fer Gwobr Ondaatje y Gymdeithas Frenhinol Lenyddol ac yn enillydd Llyfr Cymreig y Flwyddyn yn 2005. Enillodd ail gasgliad Owen o farddoniaeth, Skirrid Hill, wobr Somerset Maugham yn 2006. Mae Owen hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y radio, teledu a phapurau newydd.
Resistance yw nofel gyntaf Sheers a bydd yn cael ei chyfieithu i wyth iaith. Ynddi mae astudiaeth wahanol, ryfeddol a grymus o’r natur ddynol mewn pentref Cymreig a oedd yn nwylo’r gelyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n ffocws One Book One Nation, sef ymgyrch genedlaethol i gael pob grŵp darllen yng Nghymru i ddarllen yr un llyfr ar yr un pryd.
Gellir gofyn am unrhyw un o'r teitlau uchod a llawer mwy yn eich llyfrgell leol.
|