Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Dysgu Gydol Oes

 

Ffordd hyblyg i chi ddysgu

Ydych chi eisiau:

  • Sgiliau newydd?
  • Gwybod sut i ddefnyddio cyfrifiadur?
  • Dychwelyd i'r gwaith?
  • Gwella'r boddhad rydych yn ei gael o'ch swydd?

Mae ein Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn darparu ffordd hyblyg i chi ddysgu. Mae'n rhoi rhyddid i chi astudio ble, pryd a sut bynnag y dymunwch. Gallwch ddysgu sgiliau newydd neu ddiweddaru eich gwybodaeth bresennol.

Ble i ddod o hyd i ni

Lleolir y Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn Llyfrgell Wrecsam. Mae casgliadau llai o ddeunyddiau Dysgu Agored yn Llyfrgelloedd Y Waun a Rhos. Mae Llyfrgell Y Waun yn ganolfan Cyswlltdysgu hefyd.

Mae pecynnau dysgu agored yn cynnwys meysydd fel:

  • Dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur
  • Dysgu sut i ddefnyddio'r Rhyngrwyd
  • Sgiliau Busnes a Rheolaeth
  • Ieithoedd
  • Gofal Plant
  • Cyrsiau â chymwysterau e.e. TGAU.

Mae pob pecyn Dysgu Agored yn uned gyflawn sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i astudio'n llwyddiannus. Gall y cynnwys fod yn llyfrau gwaith, casetiau, fideos neu feddalwedd cyfrifiadur.

Ble mae'r fagl?

Nid oes un!! Gellir benthyca unrhyw becyn yn rhad ac am ddim a gellir ei gadw am dri mis ar y tro.

Mae cyfrifiaduron ar gael ymhob llyfrgell - am ddim!

Mae mwy!

Mae gennym wybodaeth am gyrsiau lleol a chenedlaethol a manylion cyswllt ar gyfer darparwyr addysg lleol. Gellir gwneud trefniadau ar gyfer cyfarwyddyd pellach, cefnogaeth tiwtor neu ennill cymwysterau.

Mae ein staff yn hapus i helpu a chynghori ar ddewis a defnyddio deunyddiau.

Cyswlltdysgu

Mae Llyfrgell Y Waun yn gartref i ganolfan Cyswlltdysgu hefyd. Mae Cyswllt Dysgu yn ffordd newydd o ddysgu - darperir cyrsiau ar y Rhyngrwyd a gellir mynd atynt pryd bynnag y mae'r llyfrgell ar agor. Y pynciau sy'n cael eu cynnwys ar y cyrsiau hyn yw Technoleg Gwybodaeth, Busnes a Rheolaeth a Sgiliau Sylfaenol, ac mae cyrsiau newydd yn cael eu hychwanegu drwy'r amser. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Llyfrgell Y Waun ar 01961 772344 neu.

Clybiau Cyfrifiaduron

Clwb Cyfrifiaduron Plant Llyfrgell Cefn Mawr

Mae Clwb Cyfrifiaduron Plant Llyfrgell Cefn Mawr yn cyfarfod dydd Iau cyntaf pob mis rhwng 3.15 a 4.15. Anelir y clwb at blant 8 - 11 oed ac mae'n cael ei gynnal yn swît cyfrifiaduron y Llyfrgell. Cost y clwb yw 50c y sesiwn ac rydyn ni'n rhoi diod.

Nod y clwb ydy gwella sgiliau T.G. plant a dangos iddyn nhw y gallwch chi gael hwyl ar gyfrifiaduron.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd felly byddai'n well bwcio ymlaen llaw. Bydd sesiynau wythnosol yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau ysgol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Vicky, Alison neu Linda ar 01978 820938.

Clwb Cyfrifiaduron Llyfrgell Rhiwabon

Mae Clwb Cyfrifiaduron Llyfrgell Rhiwabon yn cyfarfod ar ddydd Llun olaf pob mis, 10.00-11.00. Anelir y clwb at bobl sy'n weddol ddibrofiad ar gyfrifiaduron ac sy'n dymuno cyfarfod â phobl eraill sydd â'r un diddordebau a thrafod mewn lle anffurfiol a chyfeillgar. Mae siaradwyr gwadd yn dod bob mis i drafod pynciau sy'n amrywio o ddatrys mân broblemau cyfrifiadurol i chwilio ar y Rhyngrwyd ac mae aelodau'n cael cyfle i ofyn cwestiynau ac i gael ymarfer. Mae lluniaeth ar gael. Mae'r clwb am ddim ac mae croeso i aelodau newydd bob amser. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Alison, Marian neu Lis yn Llyfrgell Rhiwabon ar 01978 822002.

Clwb Cyfrifiaduron Llyfrgell Y Waun

Mae Clwb Cyfrifiaduron Llyfrgell Y Waun yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrifiaduron. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar gyfrifiaduron cyn gallu ymaelodi â'r grwp - mae gallu pobl yn amrywio o ddechreuwyr pur i rai sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth a chyfarfod â phobl eraill o'r ardal sydd â'r un diddordeb. Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod ag aelodau newydd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caroline neu Natalie ar 01691 772344.

Cysylltiadau

Y Brifysgol Agored

Y Brifysgol Agored yw un o'r mudiadau mwyaf ym Mhrydain sy'n darparu addysg ran-amser. Ym mhob pwnc, bron, mae mwy o bobl yn dewis astudio'n rhan-amser gyda'r Brifysgol Agored na gydag unrhyw brifysgol arall.

 
English
 

Cyswllt i

Ein Newyddion
Digwyddiadur
Cysylltiadau Llyfrau
Llyfrgell Brymbo
Llyfrgell Brynteg
Llyfrgell Cefn Mawr
Llyfrgell Coedpoeth
Llyfrgell Gresffordd
Llyfrgell Gwersyllt
Llyfrgell Llai
Llyfrgell Owrtyn
Llyfrgell Rhiwabon
Llyfrgell Rhos
Llyfrgell Wrecsam
Llyfrgell Y Waun
Cysylltwch â Llyfrgelloedd
Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint