|
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol (y Bartneriaeth Strategol) i ddatblygu 'Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles' a fydd yn nodi ac ymdrin â'r ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a lles y gymuned leol.
Wrth lunio'r strategaeth, mae gan y Bartneriaeth Strategol ddyletswydd i ymgynghori a chydweithredu ag ystod o bartneriaid lleol, gan gynnwys ymddiriedolaethau GIG, cynghorau iechyd cymunedol, y sector gwirfoddol ac unrhyw gorff busnes neu breifat arall sydd â diddordeb mewn iechyd a lles.
Mae'r cyfarwyddyd hefyd yn gosed allan y broses ar gyfer datblygu'r strategaeth a'r cam cyntaf yw cyflawni asesiad anghenion cynhwysfawr. Pwrpas yr asesiad anghenion yw nodi anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a lles y gymuned leol nas diwallwyd a chynorthwyo'r Bartneriaeth Strategol i osod blaenoriaethau'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gorfodi amserlen gaeth ac, yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad, mae'r dyddiadau allweddol ar gyfer y strategaeth gyntaf fel a ganlyn:-
Cynhyrchu'r strategaeth ddrafft erbyn 31 Mawrth 2004
Mabwysiadu'r strategaeth ddrafft erbyn 31 Rhagfyr 2004
Gweithredu'r strategaeth derfynol o 1 Ebrill 2005
Bydd y strategaeth gyntaf yn weithredol am gyfnod o 3 blynedd. Ar ôl hyn, bydd y strategaethau'n para 5 mlynedd.
Lawrlwytho'r dogfennau
Mae'r ddogfennau ar gael ar y gwefan Bwrdd Iechyd Lleol.
|