|
Croeso i gyfleuster chwilio Mynegai Priodasau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cynhyrchwyd y cyfleuster chwilio priodasau ar-lein hwn o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Cymdeithas Hanes Teulu Clwyd (cyswllt allanol) a Swyddfa Gofrestru Wrecsam er mwyn gwneud y mynegai hwn o gofnodion ar gael yn hawdd trwy'r rhyngrwyd.
-
Yn Swyddfa Gofrestru Wrecsam, mae'r Prif Arolygydd Cofrestru'n gyfrifol am gadw holl gofrestrau genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ers 1 Gorffennaf 1837 yn ddiogel (dyma pryd dechreuwyd cofnodi genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yng Nghymru a Lloegr yn swyddogol).
-
Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Teulu Clwyd yn 1980 ac mae ganddi fwy na 1100 o aelodau dros y byd.
-
Mae'r Gymdeithas yn aelod o'r Ffederasiwn o Gymdeithasau Hanes Teulu a Chymdeithas Mudiadau Hanes Teulu Cymru.
Mae'r cyfleuster chwilio priodasau'n caniatáu i chi chwilio trwy fynegai priodasau Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng y blynyddoedd 1837 a 1997.
Mae manylion llawn ar gael ar ffurf tystysgrif oddi wrth Swyddfa Gofrestru Wrecsam. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am y cyfleuster chwilio hwn, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru.
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl yn y dewisiadau chwilio a ddarperir a chliciwch y botwm 'CHWILIO'.
Gweler hefyd
Cysylltiadau allanol defnyddiol eraill
|