Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn berchen ar ac yn cynnal dau ddeg pedwar o ganolfannau cymunedol o fewn cymunedau lleol ledled Wrecsam. Cânt eu defnyddio gan bobl leol, sefydliadau a darparwyr gwasanaethau'r cyngor ar gyfer pob math o weithgareddau a digwyddiadau.

Rydym yn cynnig neuaddau o faint amrywiol ar gyfer cyfarfodydd mawr, digwyddiadau i godi arian a gweithgareddau ar gyfer grwpiau gwirfoddol.

Mae'r grwpiau sy'n hurio gennym yn cynnig pob math o weithgareddau o folddawnsio arabaidd i ddosbarthiadau allanol Coleg Iâl.

Croesewir grwpiau o blant i'r canolfannau, a byddant yn mynychu sesiynau actif 8, Jo Jingles, mam a'i phlentyn a chylchoedd chwarae tra bod oedolion ifanc yn mwynhau clybiau ieuenctid mewn canolfannau amrywiol. Cynhelir cynlluniau chwarae yn rhai o'r canolfannau yn ystod gwyliau'r haf.

Mae'r ganolfan gynghori (dolen gyswllt allanol), cynghorau cymuned, cymdeithas y trigolion a'r thenantiaid, cynghorwyr wardiau ac AauS yn cynnal cyfarfodydd yn rhai o'r canolfannau.

Rydym hefyd yn cynnig lolfeydd neu ystafelloedd cyfarfod llai ar gyfer grwpiau llai o bobl. Gallwn ddarparu uwch daflunydd, offer teledu/fideo a siartiau troi drosodd ar gais.

Mae gan yr holl ganolfannau gyfleusterau cegin er mwyn rhoi lluniaeth a gall rhai canolfannau ddarparu ar gyfer bwydlen fwy.

Ar hyn o bryd rydym yn darparu neuaddau i grwpiau amrywiol, er enghraifft cyrsiau dysgu gydol oes, cynghorau cymuned, cylchoedd chwarae, grwpiau pobl hyn, clybiau ieuenctid, clybiau crefft, grwpiau Iechyd a ffitrwydd, meddygfeydd a swyddfeydd post ac rydym yn cynnig gostyngiad yn y prisiau hurio i'r rheini sy'n neilltuo lle'n rheolaidd.

Gall grwpiau a sefydliadau ymgeisio am brisiau rhestredig is o 25% ar gyfer digwyddiadau a sefydliadau elusennol ac ar gyfer codi arian yn lleol.

Gellir hefyd hurio canolfannau ar gyfer un cyfarfod neu achlysur penodol.

Cyfnod hurio

Gellir hurio'r ganolfan ar gyfer sesiynau y bore, prynhawn neu fin nos.

Amodau hurio

  1. Mae’n rhaid llenwi Ffurflen Archebu a’i llofnodi gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am dalu am logi'r ystafell ac sy’n gyfrifol am drefnu’r gweithgaredd neu ddigwyddiad. Mae’n rhaid iddynt fod dros 18 mlwydd oed; ar gyfer unigolion sy’n iau nag 18 mae’n rhaid cael gwarantwr. Mae hwn yn gytundeb i ufuddhau i amodau llogi.
  2. Yr unigolyn (unigolion) neu’r sefydliad y caniateir iddynt logi’r cyfleusterau fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir yn ystod y cyfnod llogi. Bydd cost lawn unrhyw ddifrod i'r eiddo neu gyfarpar yn cael ei godi ar y sawl sy’n llogi.
  3. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich eiddo personol. Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw eitemau neu offer ac ati sy'n cael eu dwyn neu eu colli ar y safle.
  4. Mae’n rhaid i’r sawl sy’n llogi sicrhau na achosir unrhyw niwsans neu gynnwrf y tu mewn neu o amgylch y Ganolfan, ac mae’n rhaid iddynt gadw at unrhyw amodau trwyddedau ychwanegol i’w gweithgareddau sydd heb eu cynnwys yn y drwydded eiddo.  
  5. Bydd y sawl sy’n llogi yn sicrhau bod unrhyw weithgareddau i blant yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mai dim ond unigolion addas a phriodol sydd â mynediad at blant.
  6. Ni ddylid defnyddio’r eiddo at unrhyw ddiben anghyfreithlon nac ar gyfer unrhyw ddiben a allai dramgwyddo'r cyhoedd. Mae trefnydd y digwyddiad yn gyfrifol am atal unrhyw weithgaredd a allai beryglu diogelwch y cyhoedd, er enghraifft atal ymddygiad afreolus, gorlenwi a sicrhau y cedwir at ofynion o ran iechyd a diogelwch.
  7. Mae’n ofynnol yn yr archeb hon eich bod yn mynd â chofrestr o fynychwyr i’ch digwyddiad ac yn ymgyfarwyddo eich hun â’r gweithdrefnau diogelwch tân statudol (gan gynnwys lleoliad y larymau tân, allanfeydd mewn argyfwng, offer diogelwch tân a mannau ymgynnull oddi wrth yr adeilad) ar gyfer y ganolfan hon; mae’r rhain yn cael eu harddangos. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd y cyfrifoldeb i wneud i aelodau o'ch grŵp fod yn ymwybodol o'r gweithdrefnau hyn. Peidiwch â rhwystro unrhyw goridorau neu allanfeydd. Noder nad oes ffôn cyhoeddus wedi’i leoli yn yr adeilad hwn. Drwy wneud yr archeb hon, mae'r sawl sy'n llogi yn gyfrifol am ddarparu Cymorth Cyntaf i’w hunain ac i’w cynrychiolwyr.

  8. Ni ellir dod ag unrhyw offer trydanol i’r eiddo oni bai y bydd staff y Ganolfan yn cytuno ar hynny. Mae’n RHAID i bob teclyn gael eu harolygu a’u pasio gan drydanwr cymwys i nodi eu bod yn ddiogel i’w ddefnyddio a dylent gydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol. (Bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig o hyn gyda thystysgrif sydd wedi’i chyflwyno yn ystod y 12 mis diwethaf cyn eich archeb). Yn amlwg mae’r rheoliad hwn yn berthnasol i unrhyw unigolyn neu grŵp sy’n cymryd rhan yn eich digwyddiad neu yr ydych yn isosod iddynt megis masnachwyr, arlwywyr, disgos, bandiau ac ati.

  9. Mae’r sawl sy’n llogi yn gyfrifol am gael trwyddedau lle bo angen cyfleusterau bar ac am sicrhau y cedwir at y cyfreithiau trwyddedu. Mewn Canolfannau lle mae ardal bar ar wahân i’r ardal cegin, efallai codir tâl ychwanegol ar gyfer defnyddio'r ardal hon.

  10. Mae’n rhaid i’r sawl sy’n llogi sicrhau bod unrhyw fwyd a baratowyd neu a gymerwyd i’r safle wedi’i baratoi, ei storio a’i weini yn unol â'r rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ei Swyddogion, Gweision nac Asiantau yn gyfrifol am farwolaeth neu salwch a achosir i unrhyw unigolyn sy’n bwyta bwyd ar yr eiddo heblaw am safon ddiffygiol yng nglendid yn y Ganolfannau yr ardal baratoi bwyd priodol.

  11. Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi yswirio’r eiddo ar gyfer risg arferol, ond dylai pob unigolyn sy’n llogi cyfleusterau sicrhau bod unrhyw risgiau yswiriant yn gysylltiedig â damweiniau, atebolrwydd cyhoeddus ac ati, yn cael eu cynnwys gan y sawl sy’n llogi. Dylai'r sawl sy’n llogi nodi’n benodol bod y defnydd o’r Ganolfan a’i holl offer, cyfleusterau ac amwynderau yn cael ei ganiatáu ar risg personol y sawl sy’n llogi, ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am farwolaeth, neu anaf personol unrhyw ddefnyddiwr, nac am golled o ganlyniad, a achosir ac eithrio o ganlyniad i gyflwr diffygiol y Ganolfan neu'r offer, neu o ganlyniad i esgeulustod y Pwyllgor Rheoli, ei Swyddogion, Gweision neu Asiantau.

  12. Y costau llogi cyfredol yw’r rhai a nodwyd ar y ffurflen gais ac mae’r rhain yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Mae’r ffi yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn yr archeb neu wrth gael yr anfoneb i grwpiau gyda chytundeb archeb bloc. Codir ffi o 50% os bydd yn cael ei ganslo rhwng 28 diwrnod a 15 diwrnod. Codir ffi o 100% os bydd yr archeb yn cael ei ganslo llai na 14 diwrnod.

  13. Bydd sesiwn yn cynnwys Bore, Prynhawn neu Noswaith. Mae ffi llogi ar gyfer pob sesiwn, ac mae pob sesiwn yn 3 awr. Bydd archebion fesul awr yn cael eu hystyried a’u prisio ar gais.
    Gall y sawl sy'n llogi ond dod i’r Ganolfan ar yr amser archebu a gytunwyd yn unig ac mae’n rhaid iddynt adael yn brydlon ar ddiwedd yr amser archebu a gytunwyd yn dilyn dyfodiad aelod o staff. Mae manylion cyswllt mewn argyfwng wedi’i arddangos ar yr hysbysfwrdd yn y Ganolfan.

  14. Bydd yn ofynnol bod y sawl sy’n llogi’n gadael yr eiddo mewn cyflwr taclus a boddhaol ar ddiwedd y cyfnod llogi.

  15. Ni chaniateir ysmygu (gan gynnwys defnydd o sigaréts electronig) mewn unrhyw ran o’r adeilad neu eiddo.  Ni fydd dod â chyffuriau hamdden ac/neu gamddefnyddio sylweddau i’r eiddo yn cael ei oddef yn y Ganolfan, a bydd unrhyw archebion yn y dyfodol yn cael eu canslo neu eu gwrthod a gellir eu herlyn.

Rhestrir y prisiau

Canolfan adnoddau

Neuadd Goffa Brynteg, Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt, Canolfan Adnoddau Cymunedol Acton, Plas Pentwyn a Canolfan Adnoddau Parc Llai.

Ystafelloedd Ffi
Neuadd lawn £56.00
Hanner y neuadd (Gwersyllt, Acton) £40.00
Ystafell weithgareddau (Gwersyllt) £40.00
Ystafell hyfforddi (Acton) £38.00
Ystafell cyfarfod (Brynteg) £40.00
Ystafell y clwb ieuenctid (Llai) £40.00
Hanner yr ystafell gyfarfod (Brynteg) £25.00
Ystafell gyfarfod (Acton) £25.00
Ystafell addysg (Llai) £25.00
Ystafell talon (Plas Pentwyn) £25.00
Ystafell gyfweld (Gwersyllt, Llai) £20.00
Ystafell gyfweld (Acton, Brynteg) £20.00
Ystafell gyfarfod ardaloedd Creche (Acton) £40.00
Ystafell gyfarfod ardaloedd creche (Gwersyllt, Brynteg) £25.00
Ystafell TG Smelt (Plas Pentwyn) £40.00
Ystafell TG (Brynteg) £40.00
Ystafell TG (Gwersyllt, Llai) £25.00

Canolfannau Cymunedol

Cyfleusterau Ffi
Defnydd o gerddoriaeth fyw neu wedi'i recordio pob ystafell (fesul sesiwn) £2.00
Defnydd o gyfleusterau coginio fel sesiwn (pan eu bod ar gael) £10.00
Defnydd o lwyfan symudol pob ystafell (pan eu bod ar gael) £20.00
Cost ychwanegol am beidio gadael ar yr amser a gytunwyd pob ystafell (fesul awr neu ran o awr) £56.00

Nodiadau ar Brisiau

Cyfnod Llogi: Bore, Prynhawn neu Gyda’r Nos (sesiynau 3 awr)

Gosod yn fasnachol: Bydd cost lawn yr ystafell yn cael ei godi.

Cyfraddau Gostyngol 

  1. Grym dewisol i ostwng y ffioedd arferol o 25% ar gyfer digwyddiadau a sefydliadau elusennol ac i godi arian yn lleol.
  2. Grym dewisol i ostwng ffioedd ar gyfer archebion rheolaidd / bloc.
  3. Grym dewisol y Pennaeth Adran i ostwng ffioedd ar gyfer unrhyw archeb, yn unol â chynllun dirprwyo grymoedd i Swyddogion.

Gostyngiadau Pris

  • Dau sesiwn yr wythnos am ddim i'w rhannu gan grwpiau cydnabyddedig lleol o: -
    • Unigolion 60 oed a hyn
    • Cymdeithasau Anabl
    • Cymdeithasau Ieuenctid
    • Grwpiau Plant
  • Hawl orddewisol Pwyllgor Rheoli'r Ganolfan Gymuned i ostwng y rhestr prisiau 25% o'r prisiau safonol ar gyfer digwyddiadau elusennol a sefydliadau ac ar gyfer codi arian yn lleol.
  • Hawl orddewisol y Pennaeth yr Adran i ostwng prisiau ar gyfer neilltuadau rheolaidd/bloc.
  • Hawl orddewisol y Pennaeth yr Adran i ostwng prisiau ar gyfer unrhyw neillutadau, yn unol â'r cynllun dirprwyo hawl i Swyddogion.

Blaendaliadau

Gofynnir am dâl hurio sef blaendal o 25% na ellir ei ad-dalu wrth neilltuo'r neuadd. (Nid yw hwn yn berthnasol os byddwch yn bloclogi'n rheolaidd).

Gosodiadau masnachol

Bydd y pris llawn arferol ar gyfer yr ystafell yn cael ei godi.