| |
|
|
|
|
 |
Amodau Hurio Canolfannau Cymunedol |
|
|
|
|
| |
- Rhaid i'r unigolyn sy'n gyfrifol am dalu ar gyfer hurio canolfan gwblhau Ffurflen Neilltuo a'i llofnodi. Rhaid iddynt fod dros 18 oed, mae angen gwarantwr ar gyfer unigolion sy'n iau na hyn.
- Bydd yr unigolyn(ion) neu'r sefydliad sydd â'r hawl i hurio cyfleusterau yn gyfrifol am unrhyw ddifrod neu doriadau a geir yn ystod y cyfnod hurio. Bydd gofyn iddynt adael y ganolfan yn lân ac mewn cyflwr boddhaol ar ddiwedd y cyfnod hurio yn ogystal â gadael y ganolfan ar yr amser cytunedig. Gofynnir am flaendal o £25.00 ar gyfer hurio a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os bydd y Pwyllgor Rheoli'n fodlon eich bod wedi cydymffurfio â'r rheol hon. Rhaid talu'r flaendal yn llawn cyn y gellir hurio'r ganolfan.
- Nid yw'r Pwyllgor Rheoli'n derbyn cyfrifoldeb am ddwyn neu golli eitemau neu gyfarpar ac ati sy'n dod i mewn i'r ganolfan.
- Mae'r Pwyllgor Rheoli wedi yswirio'r ganolfan ar gyfer risg arferol, ond dylai pob unigolyn sy'n hurio'r ganolfan sicrhau bod unrhyw risgiau yswirio sy'n ymwneud â damweiniau, atebolrwydd personol ac ati yn cael eu cynnwys gan yr huriwr. Dylai'r huriwr nodi, yn arbennig, y defnyddir y ganolfan, yr holl gyfarpar, cyfleusterau a'r adnoddau ar ei fenter ei hun, ac ni fydd y Pwyllgor Rheoli'n gyfrifol am farwolaeth neu am anaf personol i unrhyw ddefnyddiwr, neu am golled ôl-ddilynol a achosir am reswm arall nad yw'n ymwneud â chyflwr diffygiol y ganolfan neu'r offer ynddi neu esgeulustod y pwyllgor rheoli a'i swyddogion, gweision neu gynrychiolwyr.
- Mae'r huriwr yn gyfrifol am gael trwyddedau achlysurol lle gellir cael cyfleusterau bar ac am sicrhau y cydymffurfir â'r deddfau trwyddedu. Mewn canolfannau cymunedol lle mae ardal y bar ar wahân i ardal y gegin efallai bydd angen talu pris ychwanegol am ddefnyddio'r ardal hon.
- Rhaid i'r huriwr sicrhau bod unrhyw fwyd sy'n cael ei baratoi neu sy'n cael ei gludo i'r ganolfan wedi'i baratoi, ei storio a'i weini'n briodol gan ddefnyddio canllawiau a osodir yn y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Nid yw swyddogion, gweision na chynrychiolwyr y pwyllgor rheoli yn gyfrifol am farwolaeth neu salwch unrhyw berson sy'n bwyta yn y ganolfan pan nad yw hynny o ganlyniad i safon ddiffygiol o lanweithdra yn ardal paratoi bwyd briodol y Canolfannau Cymunedol.
- Ni fydd yr hawliau perfformio'n cael eu torri. Cyfrifoldeb yr huriwr yw cael Trwydded Hawliau Perfformio pan gynhelir digwyddiadau cyhoeddus ac ati sy'n gofyn am y drwydded hon.
- Rhaid i'r huriwr sicrhau nad oes unigolion yn achosi poendod neu gynnwrf yn ardal y ganolfan gymunedol. Ni ddylid defnyddio'r ganolfan at unrhyw ddibenion anghyfreithlon neu at ddibenion a all ddigio'r cyhoedd.
- Y prisiau hurio presennol yw'r rheini sy'n cael eu nodi yn y ffurflen gais ac maent yn cael eu harolygu'n flynyddol.
- Bydd sesiynau ar gael yn y bore, prynhawn neu nos. Dim ond ar yr amser hurio cytunedig y gall yr huriwr ddod i'r ganolfan ac mae'n rhaid gadael yn brydlon ar ddiwedd yr amser hurio cytunedig. Os na chydymffurfir â hyn bydd tâl ychwanegol yn cael ei godi.
- Ni ellir dod â na defnyddio unrhyw offer trydanol (h.y. y gellir eu gosod mewn soced pwer) i'r ganolfan oni bai fod y Pwyllgor Rheoli wedi rhoi caniatâd. DYLAI trydanwr cymwys fod wedi archwilio a chymeradwyo bod pob offeryn yn ddiogel i'w ddefnyddio. (Bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig o hyn). Yn amlwg, mae'r rheol hon yn berthnasol i unrhyw berson neu grwp sy'n cymryd rhan yn eich digwyddiad neu i'r sawl rydych yn ei hisosod, fel masnachwyr, arlwywyr, disgos, bandiau ac ati.
|
|
|
|
|
|
|