Croeso i dudalen ariannu gofal plant
Mae pob un ohonom yn gwybod pa mor anodd yw dod o hyd i ddarparwr gofal plant da a pha mor gostus y gall hynny fod. Rydym hefyd yn gwybod pa mor anodd ydyw i ddarparwyr gofal plant dalu eu costau er mwyn cynnal eu busnes. Lluniwyd y dudalen hon i helpu darparwyr gofal plant a rhieni ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam i fedru cael gafael ar y ffynonellau cyllid sydd ar gael.
Yng Nghymru, rydym yn arbennig o ffodus o gael nifer o ffynonellau cyllid, mae rhai yn fwy syml nag eraill.
Llwyddodd y Ganolfan Gwybodaeth am Blant sicrhau cyllid CYMORTH i roi cymorth i ddarparwyr gofal plant a oedd mewn perygl o gau, i ddarparu lleoedd a gynorthwyir i blant mewn angen, a phot bychan o arian i gynorthwyo pobl sydd yn awyddus i fod yn ofalwyr plant cofrestredig.
Lluniwyd y ddwy ddogfen y gellir cyfeirio atynt isod yn benodol i helpu darparwyr gofal plant a rhieni ddod o hyd i ffynonellau cyllid ac i egluro beth y gwnaiff y cyllidwyr ei noddi.
Gall sicrhau'r cyllid hwn fod o fudd mawr i nifer ohonoch oherwydd fe allai gadw eich busnesau gofal plant ar agor, fe all roi’r seibiant gwbl angenrheidiol hwnnw i deuluoedd sydd yn cael trafferthion, ac fe all roi lle gofal plant o safon dda i blant i'w cynorthwyo i ddatblygu.
Fe allwn ninnau eich helpu hefyd os ydych angen unrhyw gymorth i ddod o hyd i gyllid, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni yn y Ganolfan Gwybodaeth am Blant.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ffynonellau cyllid a gynigir gan y Ganolfan Gwybodaeth am Blant drwy gysylltu â:
Lynne Mort
Swyddog Cefnogi Nawdd Gofal Plant
Tŷ Avow
21 Stryt Egerton
Wrecsam
LL11 1ZT
Ffôn 01978 298343
Ebost: lynne.mort@wrexham.gov.uk
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant - Fersiwn Word 358Kb 
Cymorth Gyda Chostau Gofal Plant - Fersiwn PDF 401Kb 
Canllaw i Ffynonellau Cyllid ar Gyfer Darparwyr Gofal Plant
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Canllaw i Ffynonellau Cyllid ar Gyfer Darparwyr Gofal Plant - Fersiwn Word 396Kb 
Canllaw i Ffynonellau Cyllid ar Gyfer Darparwyr Gofal Plant - Fersiwn PDF 134Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|