Cydbwysedd Gwaith-Bywyd - Ei gael o'n Iawn!
Mae cydbwyso gwaith â gweddill ein bywydau’n rhywbeth y mae pob un ohonom yn gorfod ei wneud. Mae’n sicr bod y ffordd y trefnir ein bywyd gwaith yn gwneud gwahaniaeth i sut rydym yn rheoli ein bywydau a sut y teimlwn am ein gwaith.
Nid yw gweithio oriau hwy a hwy yn dda i fusnes - nac i chi. Bydd poeni am ofal plant ond yn ychwanegu at eich straen. Mae dychwelyd i’r gwaith yn rhy fuan neu’n rhy hwyr ar ôl genedigaeth eich plentyn neu ar ôl unrhyw ddigwyddiad anodd yn eich bywyd yn debygol o effeithio arnoch yn y pen draw.
Mae polisïau ac arferion gorau cydbwysedd gwaith-bywyd yn ymwneud â mwy na theuluoedd a gofal plant. Ac nid yw’n ymwneud â gweithio llai. Mae’n ymwneud â chael y cydbwysedd iawn rhwng yr hyn y gallwch ei gyflawni yn y gwaith ac yn y cartref a bod yn ddigon egnïol i roi eich gorau ym mhob un o agweddau’ch bywyd. Mae’n hanfodol i bob un ohonom - beth bynnag fo’n hoedran.
Mewn rhai busnesau, mae’n bosibl bod yn hyblyg o ran patrymau gwaith ac mewn eraill mae’n ymwneud â chynnig buddion eraill - megis tocynnau gofal plant neu gefnogi gofalwyr.
Os hoffech wybod mwy am gydbwysedd gwaith-bywyd a sut gall weithio i chi, llenwch y ffurflen gais ar lein neu galwch heibio i’r Ganolfan Gwybodaeth Plant i gasglu eich copi rhad ac am ddim o Gydbwysedd Gwaith-Bwyd - Ei gael o'n Iawn! Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am weithio’n hyblyg, cael seibiant o’r gwaith, deddfwriaeth sy’n effeithio ar gydbwysedd gwaith-bywyd a rhestr wirio. Mae’n cynnwys astudiaethau achos o gyflogwyr sydd wedi gweithredu arferion cydbwysedd gwaith-bywyd yn eu mudiadau.
Am wybodaeth bellach a chefnogaeth i chi neu'ch sefydliad, cysylltwch â Canolfan Wybodaeth am Blant ar 01978 312410 neu ebost cib@wrexham.gov.uk.
Gweler: Gweithio i'r Cyngor
Cydbwysedd Gwaith-Bywyd - Ei Gael O'n Iawn!
Mae’r canllaw ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat ganlynol:
Cydbwysedd Gwaith-Bywyd - Ei Gael O'n Iawn! - Fersiwn PDF 661Kb 
Diweddariad o Ddeddfwriaeth Cydbwysedd Gwaith-Bywyd 2007
Mae’r canllaw ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat ganlynol:
Diweddariad o Ddeddfwriaeth Cydbwysedd Gwaith-Bywyd 2007 - Fersiwn PDF 309Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
Cyflogwyr
Mae’r Ganolfan Gwybodaeth Plant yn cefnogi rhwydwaith o gyflogwyr lleol – Cyflogwyr Wrecsam a Sir y Fflint dros Ofal Plant a Chydbwysedd Gwaith-Bywyd. Anfonwch ebost at cib@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Os hoffai eich cwmni arolygu anghenion gofal plant eich gweithwyr, gallwn helpu. Cysylltwch â’r Ganolfan Gwybodaeth Plant i wybod mwy.
|