|
Canol Tref Wrecsam - Profiad siopa newydd gyda gwerthoedd traddodiadol.
Mae mwy i Wrecsam na siopa'n unig. Mae'n ganolfan ar gyfer busnes, addysg, hamdden a diwylliant neu i fwynhau a dim mwy.
Ym 1999, ag un ergyd mwy neu lai, ychwanegodd Wrecsam dros 250,000 troedfedd sgwâr o le siopa adwerthu at ei hamrediad cystadleuol iawn o siopau adnabyddus a busnesau teuluol. Parhaodd y duedd hon i'r Milflwyddiant wrth i ddatblygiadau ar gyfer tair siop bwysig (Tesco, Asda a Homebase) gael eu gwireddu.
Er gwaethaf y datblygiadau diweddaraf, mae cyfaredd yr hen strydoedd a'r rhodfeydd fel Stryt y Banc, Camfa'r C.n a Rhodfa Owrtyn yn parhau i swyno'r rhai hynny y mae gwasanaeth personol gan fusnesau bach yn well ganddynt. At hyn, mae gennym farchnadoedd traddodiadol - tair marchnad dan do a marchnad awyr agored fwyaf Gogledd Cymru a gynhelir ar ddydd Llun (gan gynnwys Gwyliau'r Banc) ar Ddôl Eryrod - beth arall allai'r siopwr craff fod ei angen? Felly os ydych eisiau siopa, Wrecsam yn ddiau yw'r dewis gorau yng Ngogledd Cymru.
O ran yr anabl, yn Wrecsam gwneir y defnydd mwyaf o Wasanaeth Shopmobility yng Ngogledd Cymru - ac mae'n rhad ac am ddim! Mae llawer o Ganol Tref Wrecsam wedi ei phedestreiddio, felly mae symud o gwmpas yn hawdd - hyd yn oed mewn cadair olwyn. Gall pob deilydd bathodyn oren barcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam!
Mae Wrecsam yn gyrchfan hwylus i'w chyrraedd - yn ganolbwynt priffyrdd da, mae o fewn taith deng munud o Gaer ac yn llai nag awr o Eryri i'r gorllewin a'r Amwythig i'r de.
Mae yma ddigonedd o leoedd hwylus i barcio, gyda Meysydd Parcio Cyfnod Byr yn ymyl canol y dref. Gellir parcio am gyfnodau hir ym maes parcio Sant Marc (NCP) ym mhen gogleddol Stryt y Rhaglaw neu yn y maes parcio mwy yn Nôl Eryrod (WCBC), ychydig lathenni o'r Stryt Fawr.
Ond, os ydy'n well gennych deithio ar y trên, mae dwy orsaf reilffordd yn Wrecsam, mae un ohonynt - yr Orsaf Ganolog a adnewyddwyd yn ddiweddar - yn swatio yng nghanol y dref rhwng dwy o'r siopau newydd yng Nghanolfan Siopa'r Werddon a cham bychan o weddill Canol y Dref
Mae'n werth talu ymweliad ag Amgueddfa Wrecsam a Llyfrgell y Fwrdeistref Sirol, ond os ydych yn teimlo'n fwy egnïol, beth am ddod i'r Byd Dwr i nofio - mae'r cyfan yng Nghanol y Dref.
Mae bwyta allan yn Wrecsam yn un o hoff bleserau hamdden nifer o bobl, ceir amrediad o dai bwyta, tafarndai a lleoedd prydau parod i ddewis ohonynt yng nghanol y dref.
Mae'n amhosibl anwybyddu prif dirnod Wrecsam, eglwys San Silyn, mae ei thwr sy'n un o Saith Rhyfeddod Cymru wedi edrych lawr ar y newidiadau niferus i'r Stryt Fawr dros bum canrif. Er hynny, rydym yn amau na fu'r un cyfnod yn hanes Wrecsam mor ddeinamig â'r ychydig flynyddoedd diwethaf, a dyna phaham y mae Wrecsam yn brofiad newydd - hyd yn oed i'r ymwelwyr rheolaidd!
|