|
Croeso i rifyn diweddaraf Cyswllt, cylchgrawn chwarterol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer pobl sy’n byw a gweithio yn y fwrdeistref sirol.
Mae rhifyn gaeaf Cyswllt – ein cylchgrawn i bobl sy’n byw a gweithio ym mwrdeistref sirol Wrecsam – ar gael nawr.
Mae’r cylchgrawn, sy’n cynnwys newyddion ar draws y Cyngor, yn cael ei gludo i holl gartrefi’r Fwrdeistref Sirol naill ai fel rhan o’ch papur newydd lleol am ddim neu drwy gludiad o ddrws i ddrws mewn ardaloedd lle nad yw papurau am ddim yn cael eu cludo.
Mae’r Cyngor yn cynhyrchu Cyswllt bob tri mis a gobeithiwn y bydd o ddefnydd ac yn llawn gwybodaeth ddiddorol i chi.
Yn y rhifyn hwn, edrychwn ar ystod eang o newyddion gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau Nadoligaidd yn Wrecsam, canllaw arbennig i bobl hŷn ar sut i gadw’ch hun yn iach, cynnes a diogel a chanllaw ailgylchu gwastraff y Nadolig.
Yng nghanol y cylchgrawn hwn, ceir Crynodeb o’n Cynllun Gwella, sy’n nodi ein cyflawniadau dros y 12 mis diwethaf a’n cynlluniau i dargedu ein blaenoriaethau yn y dyfodol.
Ac, yng nghanol y cylchgrawn, mae taflen yn rhoi crynodeb o’n Cynllun Gwella, sy’n gosod allan ein llwyddiannau yn y 12 mis diwethaf a’n cynlluniau i dargedu meysydd blaenoriaeth.
Yn y cyfamser, os ydych yn 60 oed neu hŷn ac yn ystyried dechrau cadw’n heini yn y Flwyddyn Newydd, beth am fanteisio ar y cynllun nofio am ddim. Darllenwch yr erthygl ar dudalen 12 i gael mwy o wybodaeth.
Gobeithiwn eich bod yn mwynhau darllen Cyswllt. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn amdano trwy gysylltu â’n Huned Gyfathrebiadau yn y ffyrdd canlynol:
Ffôn: 01978 292274
E-bost: connect@wrexham.gov.uk
Post: Cyswllt
Uned Gyfathrebiadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1WF
Cyhoeddir rhifyn nesaf Cyswllt ym mis Mawrth 2007.
Cyswllt - Rhagfyr 2006
Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:
Cyswllt - Rhagfyr 2006 - fersiwn PDF 1.9Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |