|
Croeso i rifyn diweddaraf Cyswllt, cylchgrawn chwarterol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref sirol. Mae’r rhifyn hwn yn llawn o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn y fwrdeistref sirol.
Cewch wybod sut y mae Nintendo Wii wedi ychwanegu dimensiwn newydd i fywydau cymdeithasol tenantiaid yng Nghanolfan Ddydd Plas yn Rhos, cyfarfod 131ain maer Wrecsam, dysgu sut y mae Wrecsam yn ymateb i’r genhedlaeth ‘gwlân cotwm’, cymryd mantais o gynnig prynu un, un am ddim i gael tocynnau i Ddiwrnod Rasio Wrecsam a rhoi eich barn inni ar Weledigaeth Gymunedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Yn y rhifyn hwn rydym hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ennill un o 15 casgen ddŵr sydd gennym i’w rhoi, wedi’u cyfrannu’n garedig gan Straight PLC cyflenwyr Cyngor Wrecsam.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen Cyswllt. Os hoffech gopi gallwch ei lawrlwytho yma neu gysylltu â ni a gallwn bostio un atoch.
Cyswllt:
Cyswllt
Uned Gyfathrebiadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Ffôn: 01978 292014; neu
E-bost: connect@wrexham.gov.uk
Cyhoeddir rhifyn nesaf Cyswllt ym mis Hydref 2008.
Cyswllt - Haf 2008
Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:
Cyswllt - Haf 2008 - fersiwn PDF 912Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|