|
Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Cyswllt, cylchgrawn chwarterol Cyngor Wrecsam ar gyfer pobl sy’n byw a gweithio yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd ac felly yn y rhifyn hwn o Cyswllt mae’n meddyliau’n troi at ffyrdd tymhorol o wneud ein rhan ar gyfer yr amgylchedd, fel compostio eich gwastraff o’r ardd a’r gegin.
Yn y cyfamser, mae’n siwr mai Harri Evans yw un o ddinasyddion gwyrdd ieuengaf Wrecsam sy’n gwneud ei ran i’r amglychedd trwy wisgo clytiau go iawn.
Yn y rhifyn hwn rydym hefyd yn edrych ar y newidiadau i’n polisi gosod tai er mwyn sicrhau ei fod yn deg i bawb sy’n gwneud cais ynogystal a newyddion gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.
Ar gyfer ein darllenwyr iau rydym wedi cynnwys ychwanegiad newydd – Cyswllt i Blant. Rydym yn gobeithio y bydd eich plant yn mwynhau’r ychwanegiad hwn ac rydym yn gobeithio ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.
Fel arfer, mae pob croeso i chi roi gwybod i ni beth yw eich barn am Cyswllt trwy gysylltu â Adran Gyfathrebu’r Cyngor trwy un o’r ffyrdd isod:
Ffôn: 01978 292274; neu
E-bost: connect@wrexham.gov.uk
Post: Cyswllt
Uned Gyfathrebiadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Cyhoeddir rhifyn nesaf Cyswllt ym mis Haf 2008.
Cyswllt - Mawrth 2008
Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:
Cyswllt - Mawrth 2008 - fersiwn PDF 801Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|