Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

TCC

 

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ynghylch Teledu Cylch Cyfyng (TCC) a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae Teledu Cylch Cyfyng (TCC) yn system deledu sy’n gweithredu ar sail “dolen gaeëdig”. Nid yw’n debyg i deledu darlledu, sydd ar gael i unrhyw un â derbynnydd addas, dim ond ar gyfer y rhai sydd â chyswllt uniongyrchol â’r ddolen mae lluniau TCC ar gael ac yn achos Wrecsam, yr ystafell fonitro ganolog. Mae’r ddolen yn gyswllt gwirioneddol, sy’n cynnwys cebl ffibr optig, sy’n cludo’r llun o’r camera i fonitor.

Gweler hefyd cwestiynau a ofynnir yn aml am TCC >>


Cefndir

Sefydlwyd cynllun TCC Canol y Dref yn Nhachwedd 1996, gyda deuddeg o gamerâu wedi’u gosod yn strategol yng nghanol tref Wrecsam.

Sefydlwyd Ystafell Reoli Ganolog o’r dechrau un er mwyn darparu gwasanaeth monitro parhaus 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.  Oherwydd bod nifer o brosiectau wedi’u gweithredu ers 1996, mae nifer y camerâu wedi cynyddu’n sylweddol ac erbyn hyn mae rhwydwaith eang Wrecsam yn goruchwylio nifer o leoliadau yng nghanol y dref ac ym mhentrefi’r fwrdeistref sirol.

O ganlyniad uniongyrchol i brosiectau ar y cyd, mae rhwydwaith Teledu Cylch Cyfyng (TCC) Wrecsam hefyd wedi’i ymestyn i ddarparu diogelwch ychwanegol yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Ysbyty Maelor Wrecsam a nifer o barciau siopa o amgylch canol tref Wrecsam.

^ yn ôl i'r brig

Effaith TCC

Mae llwyddiant TCC o leihau trosedd ac anhrefn ac ofn troseddau yn yr ardaloedd sy’n cael eu cynnwys wedi gwneud cryn wahaniaeth. Mae gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru yn nodi bod cyflwyno TCC, ynghyd â datblygu Tîm Heddlu Canol y Dref wedi arwain at leihad o 52% mewn trosedd yng nghanol y dref yn y flwyddyn gyntaf o’i gweithredu.

Mae ymchwil lleol ar drosedd ac anhrefn, a gadarnhawyd gan ddarganfyddiadau/ganlyniadau’r asesiad o anghenion cymunedol, wedi dangos yn glir bod TCC wedi cyfrannu at leihau ofn troseddau a dirnadaeth ddiogelach yn yr ardaloedd y mae camerâu ynddynt. Mae buddsoddiad arwyddocaol wedi’i wneud mewn TCC yng nghanol y dref, ac mae wedi cynhyrchu canlyniadau. Mae arolygon barn gyhoeddus wedi dangos cefnogaeth sylweddol i ddefnydd TCC yng nghanol y dref a chanran fawr o bobl yn nodi eu bod am weld TCC yn eu cymunedau.

^ yn ôl i'r brig

Cyllido TCC

Cyllidwyd cynlluniau TCC gan gyfuniad o gyfraniadau cyhoeddus a phreifat. Telir am y rhan fwyaf o’r costau cynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ond ceir cyfraniadau gan fanwerthwyr a sefydliadau eraill ar gyfer rhai camerâu.

Mae sawl trefniant cyllido partneriaeth cyhoeddus a phreifat wedi’u gweithredu’n llwyddiannus. Mae’r esiamplau’n cynnwys datblygiadau manwerthu’r Werddon a Sgwâr Henblas, lle talodd y datblygwr am gostau cyfalaf y camerâu ac mae’n cyfrannu at gostau cyllidol ac ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, mae’r busnesau’n cyfrannu at gostau cynnal a chadw a monitro. Yn y sector cyhoeddus, mae Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru’n cyfrannu at gostau cyllidol ar gyfer goruchwylio Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae nawdd y Swyddfa Gartref yn 2000 a 2002 o fenter TCC y Rhaglen Lleihau Trosedd a’r Fenter Plismona a Dargedir hefyd wedi ariannu ymestyniad rhwydwaith TCC Wrecsam i ardaloedd preswyl, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ac Ysbyty Maelor.

Cyllidwyd buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer cynlluniau blaenorol yn y gorsafoedd bysiau a threnau a chyffordd bwysig ar gylchffordd fewnol Wrecsam, gan y Swyddfa Gartref hefyd.

Bydd unrhyw ehangiad o’r system TCC yn ddibynnol ar nodi costau cyllido i gyfrannu’n gyfatebol i’r costau cyfredol am drosglwyddo, staff yr ystafell reoli, cynnal a chadw cyfarpar ac adeiladau.

^ yn ôl i'r brig

Strategaeth ar gyfer TCC

Mewn ymateb i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, sefydlwyd Grw^p Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn Wrecsam, i ffurfio partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, heddlu, awdurdod iechyd ac eraill yn dilyn nodi pum blaenoriaeth strategol ar gyfer 1999 - 2002. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ynghylch y blaenoriaethau strategol hyn yn y Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn.

Arweiniodd y Grwp archwiliad o drosedd ac anhrefn pellach, gan nodi chwe maes o flaenoriaeth strategol. Yn seiliedig ar y blaenoriaethau hyn, datblygwyd strategaeth ar gyfer y cyfnod 2002– 2005 i leihau:

  • Trosedd Ieuenctid
  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol
  • Cam-drin yn y Cartref
  • Troseddau Canol y Dref
  • Troseddau sy’n digwydd yn aml (Bwrgleriaeth, Difrod Troseddol a Throseddau i Gerbydau)

Mae gan y strategaeth lleihau trosedd cyffredinol bolisi a strategaethau deallus ar gyfer lleoli TCC, fel rhan o nifer o flaenoriaethau i leihau trosedd ac ofn trosedd.

Strategaeth y Bartneriaeth yw i ehangu TCC yng nghanol y dref ac mewn lleoliadau gwledig a phentrefi gerllaw, lle mae’r archwiliad wedi nodi bod llawer o droseddu a chredir gall TCC wneud gwahaniaeth sylweddol, fel rhan o flaengareddau lleihau troseddau eraill.

Gweler hefyd cwestiynau a ofynnir yn aml am TCC

 
English
 

Cymuned

Cysylltiadau Cymuned
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys y Gymuned
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint