Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

LEADER+

 

Y Rhaglen LEADER

Mae LEADER yn fenter gymunedol Ewropeaidd ar gyfer cynorthwyo cymunedau gwledig i wella safon bywyd a ffyniant economaidd yn eu hardal leol.

LEADER+ yw'r drydedd rhaglen LEADER ac mae wedi ei rhannu'n ddau gynllun busnes - 2002-2004 a 2004-2008 . Fe'i ariennir gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac arian cyfatebol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

  • Dyrannwyd a gwariwyd dros £800,00 ar brosiectau cymunedol ledled Wrecsam wledig yn y cynllun busnes cyntaf.

  • Derbyniodd yr ail gynllun busnes gymeradwyaeth ym mis Medi 2004, gan alluogi i'r rhaglen barhau yn Wrecsam hyd 2008. Bydd hyn yn ategu at lwyddiannau'r rhaglen ers 2002. Mae cyfanswm gwerth y rhaglen a gymeradwywyd dros £1,000,000.

Am wybodaeth bellach am y dair rhaglen ewch i wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Dathlu LEADER + yn Wrecsam wledig

Cafodd ystod eang o brosiectau eu cyflawni fel rhan o’r rhaglen LEADER+. Mae’r ddogfen PDF ‘Dathlu LEADER + yn Wrecsam wledig’ y gellir ei lawr lwytho, yn grynodeb o bob un o’r prosiectau hyn.

Yn ogystal â hyn gellir gweld gwybodaeth am brosiectau penodol drwy glicio ar y pynciau isod.

Dathlu LEADER + yn Wrecsam wledig

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Dathlu LEADER + yn Wrecsam wledig - Fersiwn PDF 5.1Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Prosiectau

LEADER+ yw rhaglen a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd i hyrwyddo datblygiad ardaloedd gwledig. Ei hamcan yw annog a chynorthwyo ardaloedd gwledig i ystyried potensial eu hardal yn yr hirdymor. Mae'n ceisio annog gweithredu strategaethau integredig gwreiddiol o ansawdd uchel ar gyfer datblygiad cynaliadwy yn seiliedig ar ymagweddau arloesol tuag at ddatblygiad gwledig.

Rheolir ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Awdurdod Datblygu Cymru, mae'r rhaglen LEADER+ yn derbyn cyllid drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sy'n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 
English
 

Cyswllt i

Amdan Ni
LEADER+
Erthygl 33
Newyddlen
Gweithredu Dros Gymunedau Gwledig
Cysylltwch â GGC
Cysylltiadau Defnyddiol
Gogledd Gororau Cymru
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint