Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Masnach Deg yn Wrecsam

 

Y Sir Masnach Deg gyntaf yng Nghymru!

Beth yw Masnach Deg?

Golyga Masnach Deg.

  • Pris teg am y cynnyrch
  • Dim llafur gorfodol ymysg plant nac oedolion
  • Cyflogau gweddus, tai a safonau iechyd a diogelwch digonol
  • Yr hawl i fod yn aelod o undebau llafur
  • Cytundeb masnach tymor hir na fydd yn niweidio'r amgylchedd

Mae llawer o gynhyrchwyr yn derbyn llai am eu cynnyrch na'r gost i dyfu'r cnydau. Mae hyn yn eu gadael mewn tlodi. Masnach Deg = Amodau Teg . Mae hyn yn codi pobl allan o dlodi.

Mae'r nwyddau sy'n dangos nod FAIRTRADE yn cynnwys coffi, te, coco, siocled, siwgr, bisgedi, cacenni, sudd ffrwyth, gwin, blodau, crefftau, dillad a pheli pêl-droed!

yn ôl i'r brig

Cynghrair Masnach Deg Wrecsam

Dyma'r hyn y mae llawer o bobl ledled Wrecsam wedi bod yn gweithio tuag ato. Ym mis Chwefror 2003 lansiwyd Cynghrair Masnach Deg Wrecsam yn ffurfiol gan enwogion cyhoeddus, gwleidyddion, elusennau, undebau sefydliadau addysgol, eglwysi ac eraill mewn seremoni yn NEWI. Dirprwy Faer y dref ar y pryd sef y Cyng Aled Roberts oedd y cyntaf i arwyddo'r datganiad masnach deg ar ran Cyngor Wrecsam. Erbyn hyn mae gan y gynghrair dros 30 o grwpiau neu enwogion yn aelodau.

Cyfarfodydd Cynghrair Masnach Deg Wrecsam

2007

  • Nos Fercher 25ain Ebrill am 6.00pm yn swyddfa TCC
  • Nos Fercher 13eg Mehefin am 6.00pm yn swyddfa TCC
  • Nos Fercher 5ed Medi am 6.00pm yn swyddfa TCC
  • Nos Fercher 14eg Tachwedd 7.00 CCB lleoliad i’w gadarnhau

yn ôl i'r brig

Statws Sirol Masnach Deg

Ar 16 Gorffennaf 2003 Wrecsam oedd y Fwrdeistref Sirol Masnach Deg gyntaf yng Nghymru.

Gweithiodd Cynghrair Masnach Deg Wrecsam yn galed i sicrhau bod Wrecsam yn cydymffurfio â'r meini prawf i ennill y statws hwn gan y Sefydliad Masnach Deg:

  • Roedd angen digon o siopau fesul aelodau o'r boblogaeth i gynnig o leiaf dau nwydd yn dangos nod barcud masnach deg;
  • Nifer penodol o gaffis yn cynnig te a choffi masnach deg fel dewis arall;
  • Roedd angen i fannau gwaith ei gynnig i weithwyr cyflogedig,
  • Roedd angen cefnogaeth gan y cyfryngau,
  • Mentrau addysgol; ac
  • Roedd raid i Gyngor Wrecsam gytuno ar gynnig yn cefnogi masnach deg a darparu mathau masnach deg o de a choffi yn ei gyfarfodydd.

Dim ond y dechrau oedd bodloni'r meini prawf hyn, mae'r gynghrair yn bwriadu dwysáu a datblygu'r ymwybyddiaeth a'r ymroddiad tuag at fasnach deg o fewn y Fwrdeistref Sirol.


AM Dr John Marek, AM Eleanor Burnham, Cyng. Aled Roberts, Y Maer Cyng. Michael Edwards a MP Ian Lucas

yn ôl i'r brig

Canllaw Masnach Deg

Ym mis Gorffennaf 2004 cyhoeddwyd Canllaw Masnach Deg Wrecsam a noddwyd gan y Co-op sy'n rhoi gwybodaeth am yr hyn a olyga gan fasnach deg a lle i brynu nwyddau masnach deg yn ardal Wrecsam.

Os hoffech weld eich busnes wedi ei restru yng Nghanllaw Masnach Deg Wrecsam fel cyflenwr nwyddau Masnach Deg, cysylltwch â Chynghrair Masnach Deg Wrecsam.

yn ôl i'r brig

Beth ellwch chi ei wneud

  • Wrth siopa gofynnwch am nwyddau sy'n dangos y marc FAIRTRADE.
  • Pan fyddwch mewn tafarn, caffi, Ty bwyta neu westy gofynnwch am de, coffi, win neu sudd ffrwyth Masnach Deg.
  • Rhowch wybod i eraill
  • Ymunwch â'r Ymgyrch Cyfiawnder Masnachu
  • Yn ogystal â phrynu nwyddau gyda'r logo FAIRTRADE gellwch hefyd gefnogi cynhyrchwyr lleol drwy brynu eu nwyddau.

Cysylltwch â Masnach Deg

Os byddwch am gael gwybod mwy, neu am ymuno â'r gynghrair cysylltwch â Chynghrair Masnach Deg Wrecsam yn:

37 Ffordd Melin y Brenin
Wrecsam
LL13 8NH

Ffôn: 01978 262588
Ebost: cpilsbury@lineone.net

Gellir cael gwybodaeth bellach gan y wefan Masnach Deg: www.fairtrade.org.uk.

 
English
 

Cyswllt i

Masnach Deg yn Wrecsam
Lle i Brynu
Digwyddiadau Masnach Deg
Pythefnos Masnach Deg
Ysgol Masnach Deg
Busnes a Diwdiant
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint