Y Meini Prawf
Sefydlu Grwp Llywio Masnach Deg yn yr Ysgol
Rhaid i’r grwp:
- gynnwys o leiaf 50% disgyblion/myfyrwyr gyda phobl ifanc yn derbyn cymaint o gyfrifoldeb â phosibl dros gynllunio, gwneud penderfyniadau, trefnu digwyddiadau a gohebiaeth
- gyfarfod o leiaf unwaith y tymor
- fod ag un aelod o staff wedi ei enwi ac un disgybl wedi ei enwi fel cyswllt yn ystod y broses o wneud cais
- gynnwys cymysgedd o fyfyrwyr/disgyblion, staff dysgu, staff arlwyo. Gall y grwp gynnwys hefyd lywodraethwyr, rhieni, cynrychiolwyr Masnach Deg lleol ac eraill
- weithredu fel y grym i sicrhau a chynnal statws Ysgol Masnach Deg
- fod yn gyfrifol am lunio polisi Ysgol Masnach Deg
Ysgrifennu a mabwysiadu polisi Masnach Deg ysgol gyfan
Rhaid i’r polisi:
- gael ei gynnwys yng nghynllun datblygu’r ysgol
- gael ei gymeradwyo gan y Llywodraethwyr/Bwrdd yr Ysgol, Cyngor Disgyblion a phob corff ysgol arall ar gyfer trafodaeth
- ymrwymo i hyrwyddo, gwerthu a defnyddio cymaint o gynnyrch Masnach Deg â phosibl
- gynnwys ymrwymiad i barhau i wneud mwy i hyrwyddo Masnach Deg wedi i’r ysgol ddod yn ysgol Masnach Deg
Ymrwymo i werthu, hyrwyddo a defnyddio cynnyrch Masnach Deg
I sicrhau hyn rhaid i chi:
- werthu ym mhob man gwerthu posibl
- ei ddarparu a’i ddefnyddio ym mhob digwyddiad
- ei ddefnyddio yn ystafell y staff ac ystafelloedd cyffredin
- gynllunio i gynyddu’r cynnyrch sydd ar gael flwyddyn ar ôl blwyddyn
- fonitro gwerthiannau a chofnodi cynnydd yn nhermau ystod a gwerth y cynnyrch Masnach Deg a werthir, yn flynyddol
- gynllunio i gynyddu’r cynnyrch Masnach Deg sydd ar gael flwyddyn ar ôl blwyddyn
- annog mannau gwerthu lleol eraill i ddarparu cynnyrch Masnach Deg
Sicrhau bod yr ysgol gyfan yn dysgu am faterion yn ymwneud â Masnach Deg, drwy ddefnyddio gwersi yn seiliedig ar y cwricwlwm a gweithgareddau dysgu ehangach
Rhaid i hyn gynnwys
- gwersi mewn o leiaf 3 o’r meysydd cwricwlwm
- gwersi mewn o leiaf 2 grwp blwyddyn
Ymrwymo i hyrwyddo a gweithredu dros Fasnach Deg yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach
Rhaid i hyn gynnwys o leiaf
- tri gweithgaredd neu fenter ysgol gyfan, un fesul tymor, yn cynnwys un yn ystod Pythefnos Masnach Deg
- un weithred i fynd â’r materion i’r gymuned ehangach
- profiadau dysgu priodol eraill yn cynnwys o bosibl grwpiau mentrau ysgolion, cyfarfodydd boreol, arddangosfeydd, dramâu ysgol, cylchlythyr ysgol neu wefan ayyb.
Be' nesaf?
Wedi i chi sicrhau Statws Ysgol Masnach Deg i’ch ysgol chi, cofiwch gynnal parti, ysgrifennwch i’r papurau newydd – mwynhewch eich hunain. Ond nid yw’n dod i ben yma! Cofiwch fod eich polisi Masnach Deg yn eich ymrwymo i barhau i ehangu eich gweithgareddau Masnach Deg. Er mwyn i’ch statws Ysgol Masnach Deg gael ei adnewyddu bob blwyddyn, rhaid i chi ddangos eich bod yn parhau gyda’ch gweithgareddau ac yn eu hymestyn.
I sicrhau’r adnewyddiad, bydd angen i chi wneud o leiaf tri pheth newydd bob blwyddyn:
- un o fewn yr ysgol
- un yn ymwneud â’r gymuned ehangach
- un yn ymwneud â materion bydeang ehangach.
yn ôl i'r brig
Cynllun Gweithredu i ddod yn Ysgol Masnach Deg
Mae amryw o ffyrdd y gallwch ddod yn Ysgol Masnach Deg. Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r meini prawf a amlinellwyd gallwch wneud hyn mewn unrhyw ffordd sy’n briodol i chi! Os nad ydych yn sicr lle i gychwyn yna dyma syniadau isod...
- Cysylltwch gyda Fforwm Masnach Deg Cymru (www.fairtradewales.com neu www.masnachdegcymru.com) i gael gafael ar becyn ysgolion sy’n cynnwys gwybodaeth am ddod yn ysgol masnach deg, a llwyth o syniadau ac adnoddau.
- Sefydlwch grwp gweithredu Masnach Deg. Yn ddelfrydol dylai gynnwys pobl sydd â diddordeb ym mhob agwedd o Masnach Deg o safbwynt bywyd yr ysgol – disgyblion, rhieni, athrawon a llywodraethwyr. Peidiwch â phoeni os na fydd pob un o’r rhain ar gael i ddechrau. Efallai y bydd y grwp yn cychwyn gyda dau ddisgybl ac yna’n tyfu o hynny; ac ambell dro gall grwp gweithredu disgyblion dros Fasnach Deg gyfarfod ar wahân er mwyn trefnu gweithgareddau.
Nid oes fformiwla bendant ynglyn â pha mor aml y dylai eich grwp gyfarfod – mor aml ag sydd raid i wneud Masnach Deg yn rhan ganolog o fywyd eich ysgol!
- Cysylltwch â’ch grwp gweithredu Masnach Deg lleol i weld a allent hwy helpu gyda’ch ymgyrch, ac a allwch chi eu helpu hwy. Gallwch ddod o hyd i’w manylion drwy gysylltu â Fforwm Masnach Deg Cymru.
- Edrychwch ar y meini prawf angenrheidiol ar gyfer sicrhau statws Masnach Deg. Yna penderfynwch beth yw’r rhai hawsaf fel man cychwyn. Bydd y rhain yn wahanol mewn gwahanol ysgolion.
- Edrychwch ar y ‘Polisi Masnach Deg’ sampl a’i addasu ar gyfer eich ysgol. Yna gofynnwch i staff, cyngor myfyrwyr a llywodraethwyr ei arwyddo.
- Edrychwch ar y rhestr o weithgareddau Masnach Deg a phenderfynwch ba un sydd fwyaf hwyliog, yna dechreuwch ei drefnu. Neu efallai y byddwch yn gallu meddwl am well syniadau eich hun ac, os felly, cofiwch adael i ni wybod ar ôl i chi eu cwblhau!
- Unwaith y byddwch yn teimlo’n hyderus gallwch gynnal cyfarfod boreol yn yr ysgol i adael i bawb wybod am Fasnach Deg. Gallwch ofyn i’r staff os gewch chi roi cyflwyniad byr iddynt hwythau hefyd.
- Cofiwch sicrhau bod Masnach Deg yn cael ei grybwyll yn y gwersi perthnasol. Mae’n bur debyg mai rhywbeth i un o’r athrawon ar y Grwp Gweithredu Masnach Deg ei drafod gyda’i gydweithwyr, y prifathro, a phenaethiaid adrannau yw hyn.
|