|
Cynhaliodd Cynghrair Masnach Deg Wrecsam gyfres o ddigwyddiadau llwyddiannus fel rhan o’i gefnogaeth am y fenter genedlaethol rhwng 26 Chwefror a 11 Mawrth 2007.
Thema Pythefnos Masnach Deg 26 Chwefror - 11 Mawrth 2007 yw Newidiwch Heddiw, Dewiswch Fasnach Deg. Mae dros 2500 o wahanol nwyddau wedi'u
tystio'n fasnach deg bellach ac mae'n haws nac erioed newid yr hyn yr ydych yn ei fwyta a'i wisgo i fasnach deg a gwneud newid cadarnhaol i
fywydau miliynau o ffermwyr mewn gwledydd datblygol heddiw.
Yn ogystal â chefnogi Pythefnos Masnach Deg, mae Cynghrair Wrecsam yn cynhyrchu canllaw Masnach Deg i Wrecsam sy'n rhestr
manwerthwyr lleol megis caffis a bwytai sy'n cefnogi masnach deg. Mae ar gael am ddim gan Adran Datblygiad Economaidd Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gallwch gael mwy o wybodaeth gyffredinol ar y wefan genedlaethol
www.fairtrade.org.uk.
Pythefnos Masnach Deg 2008 yn Wrecsam
Unwaith eto mae Clymblaid Masnach Deg Wrecsam wedi bod yn brysur yn cefnogi menter genedlaethol Pythefnos Masnach Deg gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol rhwng 25 Chwefror a 9 Mawrth.
Mae’r Bythefnos yn cael ei hyrwyddo dan y neges fasnachol “Newid Heddiw. Dewis Masnach Deg” ac mae trefnwyr yn awyddus i weld mwy o bobl yn Wrecsam yn prynu cynnyrch Masnach Deg. Yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau Masnach Deg yn NEWI megis blasu gwin a sioeau ffilm, daeth plant ysgol lleol i gynhadledd Masnach Deg ar 5 Mawrth. Dywed Chris Pilsbury, Cadeirydd clymblaid Masnach Deg Wrecsam: “Mae’n wych i blant ysgol gyfarfod â chynhyrchwyr Masnach Deg megis y cynhyrchydd grawnffrwythau a ddaeth i’r digwyddiad eleni. Y tro cyntaf i mi gyfarfod â chynhyrchydd siwgr o Malawi dysgais faint o wahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud i fywydau pobl drosof fy hun a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu i’r dyfodol. O’r diwrnod hwnnw nid oedd Masnach Deg bellach yn rhywbeth iawn a da i’w wneud ond yn hytrach yn rhywbeth sylweddol a phendant. Gobeithiaf y bydd ein pobl ifanc yn cael yr un profiad.”
Fel aelod o’r glymblaid, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn weithgar iawn o ran cefnogi’r Pythefnos gyda’r Maer, y Cynghorydd Joan Lowe, yn gwahodd plant o ddwy ysgol leol i gael te ym mharlwr y Maer. Te Masnach Deg oedd o wrth gwrs, a daeth cynrychiolwyr o Ysgol Uwchradd Bryn Alun, Ysgol Uwchradd Darland ac Ysgolion Uwchradd Sant Joseff yno. Mae Bryn Alun eisoes wedi ennill statws Masnach Deg tra bod y ddwy ysgol eraill yn gweithio i ennill y statws hwnnw eleni.
Mae’r Cyngor eisoes wedi gosod peiriannau coffi Masnach Deg ym mhob un o’i ystafelloedd cyfarfod a chymerodd Cynghorwyr amser rhwng cyfarfod yn Neuadd y Dref yn ystod y pythefnos i gael blas ar rai bisgedi Masnach Deg hefyd
|