Ddydd Iau 30ain Hydref 2008 bu i ganol tref Wrecsam ymestyn wrth i’w ddatblygiad siopa a hamdden newydd sbon agor ei ddrysau. Agorodd y Maer yr ardal newydd am 10am ac fe grëwyd swyn carnifal gyda dawnswyr, cerddoriaeth a dathliadau yno.
Bydd Dôl yr Eryrod yn cynnwys dros 306,000 troedfedd sgwâr o le manwerthu gydag enwau pwysig o’r stryd fawr gan gynnwys M&S, Next a River Island i’w gweld yno. Er nad yw’r siopau hyn yn newydd i’r dref, maent yn cymryd y cyfle i symud i adeiladau llawer mwy a byddent felly yn gallu cynnig mwy o ddewis o nwyddau i bobl Wrecsam. Er enghraifft bydd siop newydd M&S yn cynnwys eu casgliadau Per Una ac Autograph. Bydd siopau mawr eraill yn ymddangos yn y dref am y tro cyntaf gan gynnwys Debenhams, H&M, Starbucks, Bank a Jane Norman. Bydd yr unedau manwerthu ychwanegol yn ychwanegu oddeutu 25% at ganol y dref.
Flythrough Fideo Dôl yr Eryrod
Yn ogystal â chynyddu masnach Wrecsam, bydd y datblygiad yn ychwanegu dimensiwn newydd i ganol y dref, gan greu ardal y gall teuluoedd dreulio eu nosweithiau yn y cyfleuster bowlio deg, y sinema aml sgrin fydd yn agor yng ngwanwyn 2009 neu yn y bwytai megis Pizza Express, Nando’s a Frankie & Benny’s.
Mae’r buddsoddiad hefyd yn parhau y tu allan i Ddôl yr Eryrod gyda Laura Ashley a’r masnachwr ffasiwn merched annibynnol, Nia, yn agor yn ddiweddar ac mae siopau newydd eraill ar fin agor eu drysau yn y Werddon.
I baratoi i agoriad cyfleusterau hamdden a siopau newydd Wrecsam,
Mae Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Wrecsam wedi bod yn cydweithio â’r Ganolfan byd Gwaith i sicrhau bod pobl leol yn cael y cyfle gorau i elwa o’r busnesau newydd a’r cyfleoedd gyrfa ddaeth i’r dref. Yn ystod mis Gorffennaf bu sawl ffair swyddi gyda sawl cyflogwr o ganol y dref megis ASDA, Debenhams, Boots, Next a’r Odeon, yn arddangos ac yn rhoi cyngor am y broses o wneud cais yn yr amgylchedd manwerthu. Amcangyfra’r trefnwyr bod oddeutu 500 wedi eu llenwi o ganlyniad i’r digwyddiad a bu cyfleoedd pellach i bobl leol mewn ffair swyddi arall a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ar 20fed Hydref fel rhan o Wythnos Fusnes Wrecsam.
Mae’r buddsoddiad yn y dref yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfleusterau hamdden a manwerthu gan fo’r Cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus i Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r seilwaith ffyrdd, gan wella llif y traffig, gwella’r ymddangosiad a lleihau tagfeydd mewn nifer o ardaloedd o amgylch canol y dref. Ymysg y rhain mae:
Golau stryd gwyn sy’n fwy cyfeillgar tuag at yr amgylchedd a gyflwynir ar Gilgant San Siôr ynghyd â phafin newydd, seddi a gwaith tirweddu.
Parcio ar y stryd, arhosiad byr am awr newydd yn cael ei lunio ar Gilgant San Siôr i helpu’r rheiny sy’n ymweld â’r feddygfa, y fferyllfa a busnesau bychain eraill.
Bydd camau gwella i’r arwyddion traffig ar gyffordd y Green Dragon a’r gyffordd ar Ffordd Salop a Ffordd San Silyn.
Croesfannau newydd i gerddwyr.
Ffordd newydd i San Silyn i leihau tagfeydd y traffig.
O ystyried y sefyllfa economaidd ansicr, mae’r buddsoddiad sylweddol, mewn cyflogaeth a strwythur yn dangos yr hyder sydd gan fanwerthwyr yng ngallu Wrecsam i gynnal twf yn ystod y ‘wasgfa gredyd’ bresennol ac mae’n hynod galonogol o ystyried y ffaith bod prosiectau mewn trefi eraill wedi eu hoedi, neu eu cadw at y dyfodol.
Cyswllt â’r Dref
Mae rhai trigolion wedi mynegi pryder ynghylch mynd o’r dref i ddatblygiad Dôl yr Eryrod ac er mwyn mynd i’r afael â hyn mae gwasanaeth bws Townlink Wrecsam wedi ychwanegu’r datblygiad newydd i’w llwybrau sy’n golygu y bydd gwasanaeth bws rheolaidd o Stryt y Brenin. Am ragor o wybodaeth am lwybrau Townlink Wrecsam ewch i’r adran cludiant ar y wefan hon.