|
Mae ein rhaglen gweithdai Dechrau Busnes Newydd wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer unrhyw un sy’n meddwl am ddechrau eu busnes eu hunain neu sy’n bwriadu gwneud hynny. Cyflwynir y rhaglen gan arbenigwyr busnes profiadol a rhannwyd y rhaglen yn Fodylau, pob un â nodau eglur a phwyntiau allweddol i delio â hwy.
Mae pob un o’r gweithdai AM DDIM, yn agored i unrhyw un sy’n meddwl am ddechrau eu busnes eu hunain neu sy’n bwriadu gwneud hynny ac maent yn addas i BOB math o syniad busnes.
I gael gwybodaeth am y gweithdai sydd ar ddod ac i neilltuo lle, ffoniwch Joanne Hughes ar 01978 366366 neu cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Busnes.
Manylion Gweithdai
Dechrau eich busnes eich hun – Seminar rhagflas
Mae’r seminar hwn yn rhoi sylw i fanteision ac anfanteision hunangyflogaeth ac yn dangos pam fod rhai busnesau’n methu. Bydd y sesiwn hon hefyd yn ystyried eich rhesymau dros ddechrau busnes, eich rhinweddau personol a’ch sgiliau busnes. Cewch hefyd ddealltwriaeth o gynllunio busnes, yr oblygiadau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth ddechrau busnes a pha gefnogaeth sydd ar gael a sut i ddod o hyd iddi.
Adnabod eich marchnad a’ch cystadleuwyr ar gyfer dechrau busnes
Mae’r gweithdy hwn yn gyflwyniad i’r broses farchnata a bydd yn eich cyflwyno i’r broses ddatblygu strategaethau marchnata. Cewch ddealltwriaeth am ymchwil marchnata a pham y gall ymchwil marchnad da fod yn sylfaen gadarn wrth ddatblygu eich strategaeth farchnata. Bydd y sesiwn hon hefyd yn rhoi arweiniad ar ba fath o wybodaeth y bydd angen i chi ei gwybod am eich cwsmeriaid, eich cystadleuwyr, maint y farchnad a thueddiadau’r farchnad.
Datblygu strategaeth farchnata ar gyfer dechrau busnes
Bydd y gweithdy hwn yn eich cynorthwyo i ddeall offer a thechnegau marchnata trwy eich arwain drwy’r broses o osod nodau marchnata a phenderfynu ar strategaeth farchnata.
Gweithrediadau busnes ar gyfer dechrau busnes
Mae’r gweithdy hwn yn darparu gwybodaeth allweddol ar weithrediadau busnes gan gynnwys yr adnoddau sydd eu hangen, systemau a gweithdrefnau, cynhyrchu, iechyd a diogelwch ac ansawdd. Mae’r gweithdy hefyd yn rhoi arweiniad ar feysydd eraill fel y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â gweithio o gartref a materion amgylcheddol.
Costau a phrisio ar gyfer dechrau busnes
Mae’r gweithdy hwn yn rhoi dealltwriaeth o’r broses brisio ac yn cynorthwyo i adnabod y gwahanol fathau o gostau busnes h.y. costau sefydlog, uniongyrchol a chyfalaf. Bydd y sesiwn hon hefyd yn egluro’r cysylltiad rhwng costio a phrisio lle y cynhelir gwaith ymchwil trylwyr a phroffidioldeb.
Hefyd cewch ddealltwriaeth o bwysigrwydd ymchwilio’n drylwyr i’ch costau er mwyn iddynt roi sail i’ch rhagamcanu ariannol.
Cynllunio ariannol ar gyfer dechrau busnes
Bydd y gweithdy hwn yn mynd â chi drwy’r broses o baratoi a dadansoddi datganiadau ariannol ac mae’n rhoi gwybodaeth am sut i baratoi rhagolygon llif arian, cyfrifon elw a cholled a mantolenni.
Mae’r gweithdy’n dangos sut y mae defnyddio a deall y rhain yn gallu’ch cynorthwyo i reoli cyllid eich busnes.
Gweinyddiaeth ariannol ar gyfer dechrau busnes
Mae’r gweithdy hwn yn amlygu pwysigrwydd cadw cyfrifon ac yn rhoi arweiniad ar sut i drefnu system cadw cyfrifon. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth allweddol am hunanasesiad at ddibenion treth, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, TAW, eich rhwymedigaethau dan y system PAYE a phwyntiau i’w hystyried wrth ddefnyddio cyfrifydd wrth sefydlu a rhedeg busnes.
Am fwy o wybodaeth am weithdai sydd i ddod ac i neilltuo lle ffoniwch Joanne Hughes ar 01978 366366 neu cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Busnes.
Gwybodaeth gyswllt
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adran Datblygiad Economaidd
Datblygu Busnes a Menter
Ffordd Plas Grono
Rhostyllen
Wrecsam
LL14 4EG
Ffôn: 01978 366366
Facs: 01978 263166
Ebost: business@wrexham.gov.uk
|