Datblygiad Cymunedol
Cefnogir datblygiad cymunedol gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus mewn tair prif ardal yn y fwrdeistref sirol: Parc Caia, Plas Madoc a Chefn Mawr gyda chefnogaeth ychwanegol ym Mhlas Madoc, a Gorllewin Wrecsam gyda chefnogaeth ychwanegol ym Mhroughton.
Mae'r rhaglenni sydd ar waith yn yr ardaloedd hyn fel a ganlyn:
Parc Caia a Queensway
Bu'r Cyngor ynghlwm wrth gefnogi datblygiad cymunedol drwy Bartneriaeth Parc Caia (cyswllt i wefan allanol) ers blynyddoedd lawer. Mae'r gefnogaeth hon yn parhau, gan gefnogi pobl i gymryd rhan yn eu cymunedau ac i gael mynediad at hyfforddiant a chyflogaeth.
Yn ogystal â hynny, yn 2002, nodwyd ardaloedd Parc Caia a Queensway (roedd y rhain yn ddwy ward a gwmpesir gan 5 ward erbyn hyn) gan raglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru fel ardaloedd a oedd angen cefnogaeth ychwanegol. Mae Cymunedau yn Gyntaf Parc Caia Cyf (cyswllt i wefan allanol) yn gymdeithas annibynnol, a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n gweithio i ddarparu strategaeth a chynllun gweithredu a luniwyd gan drigolion y gymuned.
yn ôl i'r brig
Ardal Strategaeth Plas Madoc a Chefn
Dechreuodd y Cyngor ar y gwaith o ddatblygu'r gymuned yng Nghefn Mawr a'i bentrefi cyfagos yn 1997. Mae'r gwaith wedi parhau'n ddi-baid, ac yn 2004, cyrhaeddwyd pwynt arwyddocaol yn y broses adfywio pan sefydlwyd ymddiriedolaeth ddatblygu annibynnol, 'Partneriaeth Gymunedol Dyffryn Dyfrdwy' (DVCP) (cyswllt i wefan allanol). Ym mis Medi 2005, bydd y staff sy'n cefnogi gwaith yr ymddiriedolaeth yn symud o reolaeth yr Adran Datblygiad Economaidd i fod yn uniongyrchol atebol i fwrdd DVPC fel rhan o secondiad. Bydd y DVPC yn parhau i arwain datblygiad menter a gweithgarwch cymunedol yn yr ardal yn y dyfodol.
Strategaeth Gymunedol a Chynllun Gweithredu Dyffryn Dyfrdwy 2004-07
Strategaeth Gymunedol a Chynllun Gweithredu Dyffryn Dyfrdwy 2004-07 - fersiwn Word 2Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
yn ôl i'r brig
Plas Madoc
Yn 2002, cyflwynwyd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sydd â'r nod o ddarparu cefnogaeth sydd wedi'i thargedu at y cymunedau hynny sydd ei hangen fwyaf. O dros 800 o wardiau yng Nghymru, nodwyd bod angen cefnogaeth ychwanegol ar 140 ohonynt; nodwyd mai ward Plas Madoc oedd y drydedd ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac felly sefydlwyd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf. Mae Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc Cyf (cyswllt i wefan allanol) yn gymdeithas annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
yn ôl i'r brig
Urban II Gorllewin Wrecsam
(Broughton, Brymbo, Coedpoeth, Gwersyllt, a Llai)
Mae Rhaglen Urban II Gorllewin Wrecsam yn fenter adfywio a ariennir gan gyllid Ewropeaidd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cymuned fentergar a chyfranogol. Mae tua £6 miliwn ar gael rhwng 2000 a 2006 i gefnogi busnesau newydd a busnesau presennol yng ngorllewin Wrecsam er mwyn goresgyn y rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad at gyfleoedd gwaith. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflogi staff y tîm Urban II i gyflwyno'r rhaglen ar ran Pwyllgor Monitro'r Rhaglen Urban II.
yn ôl i'r brig
Broughton (gan gynnwys Gwenfro)
Mae Bwrdd Partneriaeth Broughton (cyswllt i wefan allanol) yn un o bum pwyllgor cymunedol yng ngorllewin Wrecsam sydd ynghlwm wrth lywio datblygiad a gweithrediad rhaglen URBAN II Gorllewin Wrecsam . O ganlyniad i Lywodraeth Cynulliad Cymru'n dosbarthu ward Gwenfro fel ardal Cymunedau yn Gyntaf, derbynia Broughton gefnogaeth ychwanegol.
Mae Bwrdd Partneriaeth Broughton (cyswllt i wefan allanol) yn canolbwyntio ar anghenion ardal Cyngor Cymuned Broughton ac yn gyfrifol am ddatblygu a chydlynu'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Gan ddefnyddio nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r rhaglen Urban II, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflogi Tîm Strategaeth Broughton i ddarparu'r Cynllun Gweithredu Strategol ar ran Bwrdd y Bartneriaeth.
Cynllun Gweithredu Strategol Cymuned Broughton 2004-07
Cynllun Gweithredu Strategol Cymuned Broughton 2004-07 - fersiwn PDF 1Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|