Dywed dwy ferch mewn gwisg Fictoraidd” Nadolig Llawen.”
Dywed heddwas Fictoraidd “Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda wrth i San Silyn lenwi’r awyrgylch gyda hwyl yr Ŵyl……”
Clywn werthwr yn dweud “castanau….castanau poeth” wrth iddo weini i ddwy ddynes mewn gwisgoedd Fictoraidd.
Cerddoriaeth cefndir ‘Jingle Bells’ i’w glywed wrth i’r olygfa newid i bobl yn ymweld ag amrywiol stondinau.
Mae un o’r stondinwyr yn gosod eu haddurniadau Nadolig.
Ar ôl un golwg cyffredinol o’r olygfa ym mynwent San Silyn bydd cyfweliad gyda dau o’r perfformwyr mewn gwisgoedd Fictoraidd.
CYFWELYDD: “…A beth fyddwch chi’n ei chwilio amdano mewn llanc ifanc delfrydol?”
Ateb y ferch sy’n chwarae’r ferch yw “Tiriog - bonheddwr o ddewis, gyda thipyn o arian……ym…. ddim yn rhy dew!”
Bydd golygfeydd cyffredinol i ddilyn, gan gynnwys sioe Pwnsh a Jiwdi. Gellir clywed Jiwdi yn dweud “Helo fechgyn a merched”, a hwythau’n ateb “helo Jiwdi!”
Gwelir golygfa o’r awyr o ymwelwyr yn mwynhau’r farchnad Nadolig gyda’r heddwas Fictoraidd yn chwarae ei hyrdi-gyrdi gan ddweud, “Nadolig Llawen - Blwyddyn Newydd Dda wrth i San Silyn lenwi gyda hwyl yr ŵyl.”
Bydd un o’r stondinwyr yn dangos gemwaith i siopwr.
Bydd diddanwr yn chwarae ‘Winter Wonderland’ ar organ drydanol.
Gwelir golygfa o goeden Nadolig ger y fynedfa i Eglwys San Silyn ac yna merch yn edrych ar un o’r stondinau.
Mae’r triawd cerddorol yn chwarae ‘Hark the Herald Angels Sing’ ac yna gwelir y ‘Frenhines Fictoria’ yn teithio ar gerbyd Fictoriadd sy’n cael ei dynnu gan asyn.
Gwelir Maer Wrecsam yn dweud ‘Mae’r asyn yn dod” wrth y plant.
Yna gwelir tri chyfweliad.
Yn y cyntaf bydd y cyfwelydd yn gofyn i'r ‘Frenhines Fictoria,’ ”Cawsoch daith arbennig drwy ganol y dref mewn cerbyd Fictoraidd ac asyn. Sut brofiad oedd hwn?”
Ateba’r ‘Frenhines Fictoria” “Roedd hyn yn wych. Roedd hi’n braf gweld wynebau y plant i gyd a chodi llaw arnynt. Roedd yn arbennig iawn.”
Yn yr ail gyfweliad dywed dynes mewn gwisg Fictoraidd “Dyma’r drydedd tro i ni fod yma. Mae hi mor gysurus, sych a chynnes y tu mewn. Fodd bynnag, rydym wedi cael llawer o hwyl hyd yn oed pan oedd hi’n bwrw glaw y tu allan yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hi mor braf gweld pawb yma.”
Yn y cyfweliad olaf gyda Maer Wrecsam, dywed “Credaf ei fod yn syniad da i gael y noswaith Fictoraidd hon ac mae’n braf gweld cymaint o bobl yn dod iddi. Mae’n noswaith oer ac wrth i ni gyrraedd yr eglwys roedd hi’n bwrw eira felly roedd hyn yn ategu at yr awyrgylch. Mae hi mor braf gweld cymaint o bobl o gwmpas yn mwynhau’r digwyddiad.”
Yn yr olygfa olaf gwelir y Farchnad Nadolig Fictoraidd gyda’r garol ‘Hark the Herald Angels Sing’ yn y cefndir.
I gloi, gwelir ‘Filmiwyd a Chynhyrchwyd gan George Green’