Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cynghorion Ar Atal Tanau Bwriadol i Fusnesau

 

Gwnewch Yn Siwr Nag Ydi'ch Busnes Chi Yn Darged

Sgipiau, biniau a deunyddiau llosgadwy

  • Ydych chi’n cael gwared ar wastraff mewn biniau a sgipiau, ac yn trefnu i’r awdurdod lleol neu gontractwyr ddod i’w gasglu’n rheolaidd?

  • Oes gennych chi le arbennig ar gyfer sgipiau a biniau lle mae yna ddigon o olau?

  • Oes caead â chlo ar eich bin neu sgip er mwyn gallu cau’r cynnwys yn ddiogel ar ddiwedd y dydd?

  • Ydych chi’n cadw biniau sbwriel/sgipiau mewn lle caeedig neu ystafell arbennig?

  • Os nad ydi hyn yn bosib, clymwch y biniau wrth rywbeth na fyddai’n gallu symud, a draw oddi wrth unrhyw adeiladau.

  • Ydych chi’n cadw biniau sbwriel neu sgipiau sydd ag unrhyw ddeunyddiau llosgadwy ynddynt o leiaf 10 metr draw oddi wrth adeiladau neu eiddo er mwyn er mwyn rhwystro tân rhag lledu oherwydd gwres pelydrol?

  • Ydych chi’n cadw 2 fetr o leiaf rhwng biniau neu sgipiau ac unrhyw derfyn? Dylai hyn rwystro llosgwyr posib rhag gael atynt o’r tu allan i’ch eiddo?

  • Ydych chi’n gadael i sbwriel neu gynwysyddion fod yn rhwystr i ddiangfeydd?

  • Ydych chi’n cadw caniau aerosol, cynwysyddion hylif fflamadwy a silindrau nwy draw oddi wrth ddeunyddiau llosgadwy?

Paledi

  • Ydych chi’n cadw’r paledi y tu allan, yn daclus draw o’r adeiladau a’r terfyn allanol?

  • Ydych chi’n pentyrru nhw heb fod yn rhy uchel fel nad ydyn nhw’n dymchwel os bydd tân neu wynt cryf?

  • Ydych chi’n cadw’r paledi plastig draw o’r rhai pren?

  • Ydych chi’n trefnu i’ch cyflenwr ddod i symud y paledi cyn gynted ag y bo modd?

Teiars a gwastraff peryglus

  • Ydych chi’n cael gwared ar unrhyw wastraff peryglus ar wahân yn unol â chanllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd?

Silindrau nwy gwag neu ddiangen

  • Ydych chi’n trin silindrau nwy yn ofalus yn unol â’r safonau cyfredol?

  • Ydych chi’n rhagbaratoi gan fod silindrau gwag hyd yn oed yn dal i gynnwys olion y cynnwys gwreiddiol, ac os bydd yn dod i gysylltiad â gwres FE ALLAI SILINDRAU NWY GWAG FFRWYDRO HEFYD?

  • Os nad ydych yn gallu gosod hen silindrau mewn lle penodol a diogel ar gyfer silindrau nwy, dylech eu storio ar eu traed, draw oddi wrth adeiladau, cerbydau, deunyddiau llosgadwy a ffensys, a threfnu i rywun ddod i’w casglu.

Ymwelwyr a diogelwch

  • Oes gennych chi arwyddion clir i ddangos i ble i fynd a ble i beidio?

  • Ydych chi’n rhoi mynediad gydag arwyddion clir a heibio derbynfa.

  • Ydych chi’n gofyn am brawf adnabod a chadw cofrestr o bawb sy’n dod i mewn
    ac allan?

  • Ydych chi’n mynnu bod ymwelwyr yn gwisgo bathodyn, a rhywun yn eu hebrwng
    i lle maent angen?

  • Ydych chi’n annog staff i holi dieithriaid sydd ar y safle?

  • Ydych chi’n gofalu bod eiddo’n ddiogel trwy gael clo ar y ffenestri a’r drysau, a darparu goleuadau diogelwch?

  • Ydych chi’n gofalu bod goleuadau a diogelwch digonol yn y mannau cyffredin, fel y storfa finiau?

  • Ydych chi’n cynnal asesiad risg tân? Gosodwch larymau mwg a gwnewch gynllun dianc.

Y drefn cau

  • Ydych chi’n cloi pob drws allanol?

  • Ydych chi’n cau pob drws mewnol?

  • Ydych chi’n cau ac yn cloi pob ffenest?

  • Ydych chi’n gofalu nad oes neb ar y safle heb ganiatâd?

  • Ydych chi’n gofalu nad ydi sbwriel yn hel?

  • Ydych chi’n gofalu nad oes mynediad at hylif fflamadwy?

  • Yn rhoi’r larymau lladron ymlaen?

  • Yn rhoi’r goleuadau diogelwch ymlaen?

Trwy ddilyn yr awgrymiadau yma, gallwch leihau’r risg o dân o ganlyniad i losgi bwriadol neu faleisus I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Amanda Hughes
Warden Llosgi Bwriadol Busnesau, Tîm Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru.

E-bost: Arsonreductionteam@nthwales.pnn.police.uk
Ffoniwch: 01745 588456

Cynghorion Ar Atal Tanau Bwriadol i Fusnesau

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Cynghorion Ar Atal Tanau Bwriadol i Fusnesau - fformat PDF 280Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Lawrlwytho'r taflen
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint