Mae cwmnau gwasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu preifateiddio ers sawl blwyddyn sy'n beth da, o safbwynt cwsmeriaid, gan ei fod yn caniatu rhyddid i ddewis a'r gallu i chwilio am y fargen orau posibl o amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth. Ni fydd cwmnau gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu tynnu i ddatgan pris uned fesul awr ond dywedant fod rhestr brisiau penodol yn cael ei thrafod ar gyfer pob cwsmer, yn seiliedig ar broffiliau llwythi unigol, h.y. ystyrir meini prawf megis cyfaint, cyfradd defnydd a phatrwm amser ei ddefnyddio. Am y rheswm hwn, dylid defnyddio'r wybodaeth ganlynol fel canllaw yn unig.
Mae nifer o ddarparwyr yn yr ardal hon, a bydd pob un yn cynnig prisiau gwahanol a chynigion arbennig. Mae'r rhif cyffredinol yn debygol o fod yn 4.5 - 5 c/kWh. Mae trydan yn llawer is yn y nos (11.30 pm - 7.30 am) pan fydd yn costio oddeutu 1.8 - 2 c/kWh. Mae trydedd cyfradd ar gyfer penwythnosau. Cyn sefydlu cyfradd ar gyfer defnyddwyr diwydiannol, yn gyffredinol bydd y darparwr gwasanaeth yn archwilio'r proffil llwythi yn fanwl iawn dros gyfnod o rai misoedd.
Eto, mae nifer o ddarparwyr, pob un 'u prisiau a'u cynigion arbennig eu hunain. Gellir defnyddio'r ffigwr 25c/therm neu 0.9c/kWh fel canllaw i'r pris.
Mae'r rhain wedi eu prisio fel un eitem ac, ar gyfer dibenion prisio, fe'u mesurir mewn metrau ciwbig (1 metr ciwbig = 220 galwyn neu 1000 litr). Mae cyfradd o tua 1.95/metr ciwbig yn gyfwerth chyfradd gyfunol o ddwr yn mynd i mewn i adeilad a gwastraff yn cael ei ryddhau. Rhagdybir y bydd defnyddwyr yn arllwyso mwy neu lai yr un faint o ddwr ag y maent yn ei gymryd i mewn. Fodd bynnag, os cymerir swm mawr o ddwr yn y broses cynhyrchu, sydd felly'n lleihau'r arllwysiad yn sylweddol, mae'n bosibl trafod y gyfradd is, sy'n cymryd hyn i ystyriaeth.