|
Mae lefel diweithdra Wrecsam yn eithaf isel, o
ran cyfartaledd y DU, ac yn sefydlog ar oddeutu 3 - 4%. Ni ddylai'r lefel
isel hon atal darpar fuddsoddwr mewnol, gan fod y gweithlu yn y rhan hon
o'r DU yn anghyffredin o symudol a byddent yn teithio pellter eithriadol
am y swydd iawn. Mae pobl yn teithio i ac o Wrecsam mewn niferoedd ac
mae'r ardal teithio i'r gwaith yn ymestyn dros 30 milltir, o chyn belled
â Manceinion, Lerpwl, Arfordir Gogledd Cymru, Gogledd Sir Amwythig a Sir
Gaer.
Mae'r gweithlu nid yn unig yn symudol, ond mae ganddo hefyd enw da am
hyblygrwydd a ffyddlondeb, gyda llawer o weithwyr yn aros gyda chwmnïau
am y rhan fwyaf o'u bywyd gwaith. Mae sylfaen economaidd Wrecsam wedi
newid yn llwyr dros y blynyddoedd, oherwydd sawl lle'n cau a nifer yn
colli eu gwaith ond, yn wahanol i nifer o ardaloedd a effeithiwyd, nid
yw wedi mynd i ddirywiad. Mewn gwirionedd, mae'r sefyllfa i'r gwrthwyneb
ac mae'r economi wedi tyfu a ffynnu ac wedi amrywio i sawl maes newydd.
Mae'r busnesau sydd wedi ymsefydlu yn Wrecsam yn wahanol iawn i'r diwydiant
trwm, glo a dur a fu'r norm unwaith ac eto mae'r gweithlu wedi addasu'n
hawdd i gwrdd â'u hanghenion penodol.
|