|
Mae
Wrecsam wedi ei gwasanaethu'n eithriadol o dda, ar bob lefel o addysg.
Mae rhwydwaith dda o ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â nifer o
ysgolion dydd a phreswyl preifat gerllaw.
Mae Coleg Iâl, y darparwr Addysg Bellach lleol, wedi symud i safle newydd
£15miliwn yn agos i ganol y dref yn ddiweddar. Mae'n darparu addysg ôl
TGAU ac amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol. Mae gan Iâl gysylltiadau
agos â'r gymuned fusnes leol, ac mae'n trefnu cyrsiau hyfforddi ar ac
oddi ar y safle yn rheolaidd ar ei chyfer.
Mae Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Cymru (NEWI) yn Goleg Cysylltiol o
Brifysgol Cymru. Mae ganddo 5,000 o fyfyrwyr rhan amser a llawn amser
ac mae'n cynnig portffolio eang o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig. Mae
gan NEWI Adran Beirianneg ffyniannus ac, yn adlewyrchu crynhoad y diwydiannau
aerofod gerllaw, mae'n cynnal cyrsiau mewn Afioneg a Pheirianneg Awyrennol,
yn ogystal â changhennau mwy confensiynol peirianneg. Mae gan NEWI hefyd
draddodiad o gryfder mewn ymchwil gymhwysol ac mae'n Ganolfan Rhagoroldeb
ar gyfer Opto-Electroneg a Gwyddoniaeth Defnyddiau. Mae gan y Coleg gysylltiadau
cryf â busnesau lleol a rhanbarthol, mae'n trefnu cyrsiau hyfforddi yn
ôl y gofyn ac mae'n ymwneud â phrosiectau ymchwil a datblygiad gyda chwmnïau
wedi eu noddi gan y Llywodraeth. Mae hefyd yn ymwneud â nifer o flaengareddau
sy'n ymwneud â gosod graddedigion ac is-raddedigion i weithio gyda chwmnïau.
O edrych ar yr ardal ehangach, mae Wrecsam o fewn taith awr o 10 prifysgol
gan gynnwys, yn fwyaf nodedig, Manceinion a Lerpwl. Mae'r holl brifysgolion
hyn yn gweithio'n agos â'r gymuned fusnes ac maent yn awyddus i wneud
eu harbenigedd ar gael i gwmnïau. Mae hefyd yn werth nodi bod gan nifer
fawr o'r sefydliadau yn yr ardal arbennig hon adrannau ymchwilio hynod,
a dderbyniodd y statws uchaf posibl dan yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf.
Cyswllt i gwybodaeth bellach Addysg
|