Un o gryfderau mwyaf Wrecsam yw ei lleoliad sy’n ei gwneud yn hawdd mynd i farchnadoedd ledled y DU a gweddill y byd.
Wedi ei lleoli ger cytrefi enfawr gogledd-ddwyrain Lloegr a ger ffyrdd sy’n ei gwneud yn hawdd cyrraedd Birmingham a Chanolbarth Lloegr, mae Wrecsam o fewn awr neu ddwy o draean o boblogaeth y DU a hanner ei diwydiant cynhyrchu.
Mae lleoliad Wrecsam tu allan i’r canolfannau poblogaeth a diwydiant enfawr hyn yn rhoi mantais amlwg iddo gan nad yw hi’n dioddef gormod o dagfeydd ar ei ffyrdd.
Mae amserau gyrru o fewn y DU yn arbennig o fyr a rhoddir detholiad o’r rhain isod:
| PEN TAITH | PELLTER | AMSER GYRRU |
|---|---|---|
|
Llundain |
217 milltir |
3 awr 30 munud |
|
Birmingham |
73 milltir |
1 awr 30 munud |
|
Manceinion |
52 milltir |
1 awr |
|
Newcastle |
170 milltir |
3 awr 20 munud |
|
Glasgow |
230 milltir |
3 awr 20 munud |
|
Bryste |
180 milltir |
2 awr 50 munud |
|
Lerpwl |
38 milltir |
45 munud |
Yn debyg i’r rhan fwyaf o’r DU, nid yw llawer o gwmnïau’n dewis trenau ar gyfer teithio. Fodd bynnag, gan fod ffyrdd o leihau cludiant ar y ffyrdd yn cael eu harchwilio a gan fod sôn am gymhorthdal i annog symud pobl i ffwrdd o’r ffyrdd ac ar y trenau, gallai’r ffaith fod gan Wrecsam ddwy orsaf a’i bod yn gysylltiedig â dwy linell wahanol brofi i fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Yn fwy perthnasol i gwmnïau Wrecsam ar hyn o bryd yw datblygiad canolfan cludiant trenau ym Mhorthladd Mostyn ryw 30 milltir o Wrecsam. Lleolir ail orsaf fawr ym Manceinion, rhyw 40 milltir i ffwrdd.
Mae’r maes awyr hwn yn 45 milltir o Wrecsam ac yn faes awyr rhyngwladol mawr ac un o’r rhai sy’n tyfu’n gyflymaf yn y byd. Mae ei leoliad a pha mor hawdd mae i’w gyrraedd o Wrecsam yn bwysig. O safbwynt busnes, mae’r ffeithiau canlynol yn arbennig o sylweddol:
Mae’r maes awyr hwn ryw 40 munud i ffwrdd ac mae’n hedfan i ddetholiad cynyddol o ben teithiau Ewropeaidd, ynghyd â sawl maes awyr yn y DU.
Mae maes awyr cludo nwyddau Manceinion a adeiladwyd i’r pwrpas yn cynyddu ei fewnbwn a disgywlir i’r ffigwr presennol o ryw 154,000 tunnell y flwyddyn barhau i godi.
Mae nifer o opsiynau ar gael i gwmnïau Wrecsam pan ddaw i anfon pethau ar long:
Mae’r safle ym Mostyn yn cwmpasu oddeutu 75 erw, sy’n cynnwys safle datblygu o 5 erw. Mae gwaith helaeth wedi trawsffurfio Doc Mostyn o borthladd â ffenestr llanw o awr yn unig i un sy’n weithredol 24 awr y dydd erbyn hyn. Mae dyfnder y dŵr yn amrywio o 9 metr i 27 metr. Gall y porthladd ymdopi â llongau hyd at 7000 tunnell ar hyn o bryd ond bydd cwblhau’r datblygiad Cam II yn ei alluogi i dderbyn llongau hyd at 30,000 tunnell.
Mae gwasanaeth trên rheolaidd i Hull a Tilbury ac mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys darparu ‘pont dir’ i nwyddau a gludir i Fostyn o Iwerddon i’w hanfon ymlaen o borthladd arall. Mae taith nwyddau wythnosol o Fostyn i Milan trwy Dwnnel y Sianel eisoes wedi ei sefydlu a gellid estyn hon i roi mynediad i unrhyw un o’r teithiau cludo nwyddau traws-Ewropeaidd.
Prif fanteision Mostyn o safbwynt defnyddwyr yw:
Mersey Docks and Harbour Company, grŵp porthladdoedd ail mwyaf Prydain ac un o 250 cwmni mwyaf y DU, sy’n rhedeg y porthladd. Mae’n un o’r mwyaf cynhwysfawr a mwyaf o ran maint yn y Deyrnas Unedig ac mae’n trin 30 miliwn tunnell o gargo’r flwyddyn. Y prif gargo yw cynhwyswyr, pren a chynnyrch coedwigoedd, grawn a bwyd anifeiliaid, hylifau ac olew Tranmere. Gall Lerpwl dderbyn llongau hyd at 12.8 llwyth dan ddyfnder. Mae’n cynnig y cyfleusterau canlynol:
Mae Garston yn aelod o’r grŵp Associated British Ports ac mae ganddo enw da am wasanaeth effeithiol mewn lleoliad o’r radd uchaf. Mae mwy na 25,000 m sg o storfeydd dan do ar gael, ynghyd â digon o le awyr agored ger y cei, craeniau a lifftiau. Gall y porthladd drin llongau hyd at 154.2 m o hyd, 19.2 m o led ac 8.3 m o ddyfnder.
Mae gan ogledd-ddwyrain Cymru draddodiad cryf fel canolfan ddosbarthu oherwydd ei lleoliad canolog mewn perthynas â holl ardaloedd cynhyrchu mawr y DU. Mae’n gartref i nifer o gwmnïau logisteg mawr ynghyd â sawl cwmni cludo llai. Mae Wrecsam yn manteisio ar ystod fawr o ddanfonwyr nwyddau rhyngwladol sydd wedi tyfu o ganlyniad i agosrwydd Maes Awyr Manceinion, y porthladdoedd a rhanbarthau cynhyrchu mawr gogledd-ddwyrain Lloegr. Yn ogystal â chwmnïau mawr fel UPS, DHL, TNT a Parcelforce, mae rhwydwaith prysur iawn o gwmnïau cludiant lleol sy’n helpu i sicrhau prisiau cystadleuol.