Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cymorth ar chwilio drwy allweddair

 

Beth yw Chwilio?

Chwilio yw'r broses o ddarganfod gwybodaeth. Rhywle mewn casgliad o ddogfennau, negeseuon e-bost, tudalennau'r we a ffynonellau eraill, bydd y wybodaeth sydd ei heisiau arnoch, ond nid oes syniad gennych ble mae. Mae'r peiriant chwilio Verity yn helpu chi i ddarganfod y wybodaeth honno.

Chwilio dyddiad Gweler "Cymorth ar chwilio drwy ddyddiad".

Chwilio Syml
Mae chwilio syml yn ymholiadau sy'n cynnwys gair unigol neu ymadrodd.

Enghreifftiau o Chwilio Syml:

Gair Chwilio Yn Darganfod Tudalennau sy'n Cynnwys
meet Y gadwyn meet ac amrywiaethau, fel meets a meeting
"meet" Y gair "meet"
"S&L" Y cadwyni S&L, S & L, ac S L (amgaewch eiriau fel S&L mewn dyfynodau dwbl)
NOW Y gadwyn NOW mewn llythrennau mawr
repetitive stress injury Yr ymadrodd repetitive stress injury
zoo* Geiriau yn dechrau gyda'r gadwyn zoo
fl??ss Geiriau'n dechrau gyda fl ac yn gorffen gyda ss ac unrhyw ddwy lythyren rhyngddynt

Chwilio gydag Ymadroddion
Mae'r peiriant chwilio'n dehongli unrhyw gadwyn o lythrennau a wahanir gan fylchau fel ymadrodd.

Tip

Byddwch yn ofalus o chwilio am ymadroddion sy'n cynnwys y geiriau canlynol oherwydd maent yn weithredwyr yn Iaith Ymholi Verity:

  • And: wedi ei ddehongli gweithredwr AND iaith ymholi Verity
  • Or: wedi ei ddehongli fel gweithredwr OR iaith ymholi Verity
  • Not: wedi ei ddehongli fel diwygiwr NOT iaith ymholi Verity

Gallwch barhau i chwilio am ymadroddion yn cynnwys y geiriau hyn os rhowch ddyfynodau dwbl o'u cwmpas.

Defnyddio Cardiau Gwyllt
Gallwch ddefnyddio llythrennau cardiau gwyllt os nad ydych yn siwr o sillafiad eich ymadrodd i ehangu eich chwiliad:

  • Serenigion (*) i gymryd lle cadwyn o lythrennau o unrhyw hyd
  • Gofynodau (?) i gymryd lle llythyren benodol

Cyfuno Termau Chwilio
Gallwch gyfuno termau chwilio drwy ddefnyddio gweithredwyr a diwygwyr Verity Query Language i goethi eich chwiliadau.

Enghreifftiau o Gyfuno Termau Chwilio

Term Chwilio Yn Darganfod Tudalennau sy'n Cynnwys
crab OR lobster OR shrimp Unrhyw un o'r geiriau crab, lobster, neu shrimp
bank AND loan AND business Pob un o'r geiriau bank, loan, a business
bank, loan, business Unrhyw un o'r geiriau bank, loan, a business. Y mwyaf o'r geiriau hyn ar dudalen, yr uchaf mae'n ymddangos yn y rhestr canlyniadau.
bank NOT river Y gair bank ond nid y gair river
HTML <near> publishing Y gair HTML yn agos i'r gair publishing
HTML <sentence> publishing Y gair HTML yn yr un frawddeg â'r gair publishing
HTML <paragraph> publishing Y gair HTML yn yr un paragraff â'r gair publishing

Gweithredwr OR
Os nad yw eich chwiliad syml wedi cael rhestr ddefnyddiol o ganlyniadau, mae'n bosibl eich bod wedi defnyddio'r gair anghywir yn eich ymholiad. I gynyddu eich cyfle o ddarganfod dogfen sy'n cydweddu eich ymholiad, gallwch ddefnyddio'r gweithredwr OR gyda sawl term sy'n gyfystyr neu sy'n perthyn yn agos.

Gweithredwr AND
Mae'r gweithredwr AND yn darganfod tudalennau sy'n cyfatebu'r holl dermau yn yr ymholiad. Os na chynhwysir unrhyw un o'r termau chwilio mewn dogfen, ni fydd y ddogfen honno'n ymddangos ar y rhestr canlyniadau.

Eithrio Termau o Chwiliadau
Os ydych wedi defnyddio term â mwy nag un ystyr mewn ymholiad, gallech gael rhestr canlyniadau gyda dogfennau nad ydynt yn berthnasol i'ch chwiliad er eu bod yn cyd-fynd â thermau'r ymholiad.

Diwygiwr NOT
I eithrio dogfennau amherthnasol o chwiliad, gallwch ddefnyddio'r diwygiwr NOT fel rhan o'r ymholiad.

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint