|
Mae
rhai adnoddau gwych i blant i’w helpu i ddarganfod, creu a chysylltu
â phlant eraill ledled y byd. Mae’r rhyngrwyd yn ddefnyddiol,
hwyliog ac addysgol. Os defnyddir ef yn ddiogel, gall fod yn arf gwerthfawr.
Cymorth i gadw’ch plant yn ddiogel ar-lein:
-
Cadwch y cyfrifiadur mewn ystafell lle gall y teulu cyfan ei ddefnyddio.
-
Trafodwch a gosodwch reolau a chanllawiau rhesymol ar gyfer defnyddio’r
cyfrifiadur a chadwch y rhain ger y cyfrifiadur i atgoffa’ch
plant.
-
Dywedwch wrth eich plant NA ddylent ddatgelu manylion personol (enw,
cyfeiriad, cyfrineiriau na chyfeiriadau ebost) na lluniau oni bai
eich bod chi a’ch plentyn yn adnabod ac yn ymddiried yn yr unigolyn
dan sylw.
-
Peidiwch â gadael i’ch plant gyfarfod â rhywun
maent wedi eu cyfarfod ar y rhyngrwyd heb eich caniatâd a dim
ond pan allwch chi neu oedolyn cyfrifol arall fod yn bresennol.
-
Gadewch i’ch plant wybod y gallant siarad â chi os teimlant
yn anghyfforddus neu’n ofnus am rywbeth maent wedi ei ddarllen
neu ei weld ar y rhyngrwyd. Dywedwch wrthynt nad eu bai nhw yw hyn.
-
Dysgwch gymaint ag y gallwch am y rhyngrwyd a’r gwasanaethau
sydd arno. Ceisiwch ddeall y gwefannau y mae eich plant yn eu defnyddio
a dewch i adnabod eu ffrindiau ar-lein fel y byddech eu ffrindiau
eraill.
-
Os yw eich plant yn derbyn negeseuon ac atodiadau neu’n dadlwytho
ffeiliau gan bobl neu gyrff nad ydynt neu nad ydych chi’n eu
hadnabod, dilëwch nhw ar unwaith. Gallent gynnwys feirysau neu
negeseuon drwg.
Cysylltiadau
Defnyddiol
thinkuknow.co.uk
Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth i helpu rhieni
a gofalwyr i gynghori eu plant ar sgwrsio’n ddiogel ar-lein.

chatdanger.com
Cynhyrchwyd y wefan hon gan Childnet
International, corff nid-er-elw sy’n gweithio gydag eraill i
helpu i wneud y rhyngrwyd yn lle gwych i blant.

Internet
Watch Foundation
Mae’r Internet Watch Foundation yn gweithio gyda
darparwyr, cwmnïau ffonau arferol a symudol, darparwyr meddalwedd,
yr heddlu a’r llywodraeth i leihau cynnwys anghyfreithlon ar y rhyngrwyd.

Parents Centre (formerly Parents Online)
Crewyd Parents Centre gan yr Adran Addysg a Sgiliau i hybu
cysylltiadau cartref ac ysgol drwy helpu rhieni i ddeall rôl Technoleg
Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGC) mewn dysgu. Mae gan y rhyngrwyd fanteision
addysgol gwych i’r teulu cyfan ac mae syrffio gyda’ch gilydd
yn brofiad dysgu yn ei hun.

Ymgyrch
National Children's Home 'Internet safety'
Mynediad diogel a chyfartal i bobl ifanc.

ChildLine
ChildLine yw’r llinell gymorth 24 awr am ddim i blant
a phobl ifanc yn y DU. Gall plant a phobl ifanc ffonio ein llinell gymorth
ar 0800 1111 am unrhyw broblem, ar unrhyw adeg – dydd a nos. Gall
plant sy’n fyddar neu sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio
ffôn arferol ddefnyddio ein gwasanaeth ffôn testun ar 0800
400 222. Mae cynghorwyr ChildLine yno i’ch helpu i ddatrys pob problem.

Llinell
Gymorth Diogelu Plant yr NSPCC
Yr NSPCC (National Society for the Prevention of Cruelty
to Children) yw prif elusen y DU yn arbenigo mewn diogelu plant ac atal
creulondeb i blant. Rydym wedi bod yn ymroddedig i ddiogelu plant ac ymgyrchu
ar eu rhan ers 1884.

Llinell
Wybodaeth Pornograffi Plant yr Heddlu
Mae’r Gwasanaeth Heddlu, drwy’r Uned Pedoffilia
yn New Scotland Yard, yn dal yn ymroddedig i ganlyn yr unigolion hynny
sy’n torri’r gyfraith dan Ddeddf Diogelu Plant 1978.


|