Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Y Pleidleisio, Pleidleisio Drwy'r Post, Pleidleisio Trwy Ddirprwy a Canlyniadau Etholiad

Pleidleisio

Pleidleisio Drwy'r Post

Pleidleisio Trwy Ddirprwy

Canlyniadau Etholiads

Os gwelwch yn dda, gweler hefyd Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am wybodaeth cyswllt, a ffurflenni y gellir eu llwytho i lawr a'u llenwi.



Pleidleisio

Sut mae cael gwybod lle mae fy ngorsaf bleidleisio?

Bydd lleoliad eich gorsaf bleidleisio ar y cerdyn pleidleisio fydd yn cael ei anfon atoch cyn y diwrnod pleidleisio. Fel arall, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael gwybod.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut mae llenwi’r papur pleidleisio?

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu gan y clerc pleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio. Os dewisoch bleidleisio drwy’r post, bydd y wybodaeth hon yn eich pecyn pleidleisio.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth yw’r oriau pleidleisio yn yr etholiadau nesaf?

Mae’r oriau pleidleisio rhwng 7am a 10pm ar gyfer holl etholiadau. Cofiwch edrych ar eich cerdyn pleidleisio fydd yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad i weld nad yw’r amseroedd hyn wedi newid.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pam nad wyf wedi derbyn fy ngherdyn pleidleisio?

Gallwch ddal i bleidleisio hyd yn oed os nad oes gennych gerdyn pleidleisio, cyn belled ag eich bod ar y gofrestr etholwyr. Dylech gadarnhau gyda’r gwasanaethau etholiadol eich bod ar y gofrestr etholwyr a dweud na chawsoch eich cerdyn pleidleisio.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Allaf i gael help / lifft i’r orsaf bleidleisio?

Os ydych yn anabl ac angen help i gyrraedd yr orsaf bleidleisio, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i weld pa gymorth sydd i’w gael. Gallwch hefyd ofyn i rywun fod gyda chi pan fyddwch yn pleidleisio

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


A yw fy ngorsaf bleidleisio’n hygyrch?

Gwnawn ein gorau i ddefnyddio adeiladau hygyrch fel gorsafoedd pleidleisio ond, weithiau mewn rhai ardaloedd, ar waethaf ein hymdrechion gorau, nid yw hyn yn bosibl. Yn Wrecsam mae cyfleusterau parcio a man parcio penodol i bobl anabl wrth ymyl y rhan fwyaf o orsafoedd pleidleisio.

Yn dilyn pob etholiad bydd ein staff pleidleisio’n rhoi gwybodaeth am hygyrchedd adeiladau ond, os ydych yn pryderu ynghylch defnyddio unrhyw adeilad arbennig, cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yn ein hadolygiad nesaf o’n mannau pleidleisio

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pleidleisio Drwy'r Post

Byddaf dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiadau. Sut allaf i bleidleisio?

Os ydych dramor ar ddiwrnod etholiad, gallwch wneud cais i bleidleisio naill ai drwy’r post neu trwy ddirprwy (cael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan).

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pwy all wneud cais am bleidlais drwy’r post?

Pawb a gofrestrwyd i bleidleisio.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut mae cael pleidlais drwy’r post?

Gallwch ofyn am ffurflen gais pleidlais drwy’r post o’r gwasanaethau etholiadol. Llenwch hi a’i dychwelyd i’r gwasanaethau etholiadol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Am ba gyfnod mae fy mhleidlais drwy’r post yn para?

Gallwch wneud cais am un etholiad yn unig, am gyfnod penodol neu am bleidlais barhaol drwy’r post.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pam fod angen i mi roi fy nyddiad geni a llofnod i gael pleidlais drwy’r post neu trwy ddirprwy?

Cyflwynodd Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 fesurau newydd i wella diogelwch cyffredinol pleidleisiau drwy’r post a thrwy ddirprwy. Ers 1 Ionawr 2007 mae gofyn i holl bleidleiswyr drwy’r post a thrwy ddirprwy yng Nghymru a Lloegr roi eu dyddiad geni a llofnod wrth wneud cais am bleidlais drwy’r post neu trwy ddirprwy.

Mae modd gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer y rhai sy’n methu llofnodi’r ffurflen. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol.

Caiff eich llofnod a’ch dyddiad geni eu gwahanu o’ch papur pleidleisio cyn iddo gael ei wirio. Ni fydd rhoi’r wybodaeth hon yn effeithio ar gyfrinachedd eich pleidlais.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pa mor ddiogel yw pleidlais drwy’r post?

Mae’n drosedd llenwi pleidlais drwy’r post sy’n perthyn i rywun arall, a dylanwadu ar sut mae pobl eraill yn llenwi eu pleidlais drwy’r post. Os oes gennych unrhyw honiadau o dwyll, dylid eu cyfeirio at yr heddlu.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pam nad wyf wedi derbyn fy mhapur pleidleisio drwy’r post?

Dylech dderbyn eich pleidlais bost tuag wythnos cyn yr etholiad. Os nad yw’n cyrraedd, gallwch gael papur pleidleisio yn ei le yn bersonol oddi wrth y Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol i gael gwybodaeth.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwyf wedi difetha fy mhapur pleidleisio / datganiad pleidleisio drwy’r post. Beth wna’i?

Gallwch gael un yn ei le cyn 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Rhaid i chi ei gasglu’n bersonol oddi wrth y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Nhŷ Dewi Sant, Ffordd Rhosddu, Wrecsam. Hefyd bydd angen i chi ddychwelyd eich papur pleidleisio a ddifethwyd a rhannau eraill y pecyn pleidleisio a anfonwyd atoch.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwyf wedi colli fy mhapur pleidleisio drwy’r post. Beth wna’i?

Gallwch gael papur pleidleisio yn ei le yn bersonol oddi wrth y Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Os wyf wedi gwneud cais am bleidlais drwy’r post, allaf i ddal i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio?

Os ydych wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post, ni allwch bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio. Fodd bynnag, ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post i’r orsaf bleidleisio (cyn 10pm) neu i’r gwasanaethau etholiadol yn ystod oriau swyddfa. Os nad oes arnoch eisiau ei bostio neu os yw’n rhy hwyr ei bostio, cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol i gael gwybod ble mae eich gorsaf bleidleisio.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pleidleisio Trwy Ddirprwy

Pwy all wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy?

Ni allwch wneud cais am bleidlais hirdymor trwy ddirprwy os nad oes gennych reswm penodol fel anabledd neu fod dramor.

I bleidleisio trwy ddirprwy mewn dim ond un etholiad, rhaid i chi fod â rheswm, er enghraifft y byddwch ar wyliau neu oddi cartref oherwydd gwaith.

Os ydych yn mynd yn analluog neu’n sâl yn ddirybudd, gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy am resymau meddygol cyn 5pm ar ddiwrnod pleidleisio.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Mae perthynas / cyfaill wedi mynd yn analluog / yn sâl yn ddirybudd. Gaf i bleidleisio ar eu rhan?

Gallwch wneud cais i bleidleisio fel dirprwy mewn argyfwng am resymau meddygol cyn 5pm ar ddiwrnod pleidleisio.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut mae cael pleidlais trwy ddirprwy?

Gallwch wneud cais am ddirprwy newydd hyd at 6 diwrnod gwaith cyn etholiad a gallwch newid pleidlais bresennol trwy ddirprwy ar unrhyw adeg hyd at 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod pleidleisio. Os ydych yn mynd yn analluog neu’n sâl yn ddirybudd, gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy am resymau meddygol hyd at y diwrnod pleidleisio. Rhaid derbyn holl geisiadau cyn 5pm ar y diwrnod penodedig.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pwy sy’n gallu bod yn ddirprwy i mi?

Gall unrhyw un sy’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad eu hunain fod yn ddirprwy i chi. Fodd bynnag, ni allwch fod yn ddirprwy i fwy na dau o bobl nad ydynt yn aelodau o’ch teulu agos. Gall eich dirprwy wneud cais i bleidleisio drwy’r post ar eich rhan.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwyf wedi cael fy ngwneud yn ddirprwy i rywun. Beth sydd angen i mi wneud?

Mae’n hawdd iawn pleidleisio fel dirprwy rhywun. Byddwch yn cael cerdyn arbennig pleidleisio dirprwy gyda manylion lle ddylech fynd i bleidleisio. Os na allwch fynd i’r man pleidleisio gallwch bleidleisio drwy’r post. Rhaid i chi wneud cais am y bleidlais hon drwy’r post cyn 5pm ar yr 11eg diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i weld sut i wneud hyn.

Os ydych yn mynd i’r man pleidleisio, dywedwch wrth y staff yno eich bod yn pleidleisio fel dirprwy a byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud. Peidiwch ag anghofio mynd â’ch cerdyn pleidleisio dirprwy - bydd hyn yn ei gwneud yn haws i staff y man pleidleisio gael hyd i’r papur pleidleisio cywir.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

  • Rhaid i’ch dirprwy fynd i’ch man pleidleisio lleol i bleidleisio. Os na all eich dirprwy fynd i’r man pleidleisio, gall wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post. Gall wneud cais i wneud hyn hyd at 11 diwrnod cyn Diwrnod yr Etholiad. Bydd eich dirprwy’n cael cerdyn pleidleisio dirprwy, yn dweud ymhle a phryd i bleidleisio
  • Rhaid i chi ddweud wrth eich dirprwy sut ydych eisiau pleidleisio, er enghraifft, i ba ymgeisydd neu i ba blaid.
  • Os byddwch yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar Ddiwrnod yr Etholiad, gallwch ddal i bleidleisio’n bersonol cyn belled â bod eich dirprwy heb wneud hynny eisoes nac wedi gneud cais i bleidleisio drwy’r post ar eich rhan.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Canlyniadau Etholiad

Sut mae’r cyfrif yn gweithio?

Y Swyddog Canlyniadau sy’n rheoli’r cyfrif yn lleol.

Etholiadau llywodraeth leol - Mewn etholiadau lleol, trefn y ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’ sy’n penderfynu’r canlyniad. Mae hynny’n golygu mae’r ymgeisydd gyda’r mwyaf o bleidleisiau sy’n cael ei ethol.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Mewn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru caiff tua thri chwarter y seddau eu neilltuo i drefn y ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’. Rydych hefyd yn cael ail bleidlais ranbarthol dros Blaid. Mae pob Plaid yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob rhanbarth etholiadol. Caiff gweddill y seddau eu neilltuo i ymgeiswyr ar y rhestri hynny yn ôl pa Blaid sydd gan fwyaf o bleidleisiau rhanbarthol, a faint o seddau a enillodd y blaid honno eisoes. Gall unigolion sefyll fel ymgeiswyr rhanbarthol a chael eu trin fel petaent yn blaid gyda dim ond un enw ar ei rhestr. Enw’r dull pleidleisio hwn yw’r ‘Gyfundrefn Aelodau Ychwanegol’.

Etholiadau Seneddol - Mewn etholiad cyffredinol, mae pob ardal yn y wlad yn pleidleisio dros un Aelod Seneddol (AS) i’w chynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae 646 o ranbarthau daearyddol, sy’n cael eu galw’n etholaethau.

Mae gan bob pleidleisiwr cymwys un bleidlais yn eu hetholaeth leol, a’r ymgeisydd gyda’r mwyaf o bleidleisiau sy’n dod yn AS dros yr ardal honno. Enw’r drefn bleidleisio hon yw’r ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’. Fel arfer bydd y blaid wleidyddol gyda’r nifer mwyaf o AS wedyn yn ffurfio’r llywodraeth - er y gall dwy blaid neu fwy gyda mwyafrif cyfunol o AS ffurfio llywodraeth glymblaid.

Rhaid cynnal etholiad cyffredinol bob pum mlynedd o leiaf. Y prif weinidog sy’n penderfynu pryd i alw etholiad. Roedd yr etholiad cyffredinol diwethaf ar 5 Mai 2005 ac, felly rhaid cynnal yr etholiad nesaf erbyn 2010.

Os bydd AS yn marw neu’n ymddiswyddo rhwng etholiadau, mae isetholiad yn yr etholaeth honno.

Mewn etholiadau i’r Senedd cyfundrefn y ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’ sy’n penderfynu’r canlyniad. Mae hynny’n golygu mai’r ymgeisydd gyda’r mwyaf o bleidleisiau sy’n cael ei ethol.

Etholiadau Seneddol Ewropeaidd - Mewn etholiadau Ewropeaidd caiff ASE eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol. Ym Mhrydain, mae gennych un bleidlais i ethol eich holl ASE. Mae pob Plaid yn cynnig rhestr o ymgeiswyr, sy’n cael ei galw’n rhestr ranbarthol, a byddwch yn pleidleisio o blaid un o’r rhestri hyn neu dros ymgeisydd annibynnol. Yna mae nifer o ASE yn cael eu clustnodi i’r pleidiau yn unol â’u rhan o’r bleidlais.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pryd mae’r canlyniadau cael eu cyhoeddi?

Bydd hyn yn dibynnu ar yr etholiad sy’n cael ei gynnal.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint