Gwybodaeth am Ganol y Dref
Beth yw oriau agor canol tref Wrecsam?
Mae'r rhan fwyaf o'r siopau yng nghanol y dref ar agor o 9.30am - 5.30pm. Maent ar agor o 11.00am - 4.00pm ar ddydd Sul, er y bydd rhai siopau ar agor tan 5.00pm.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Lle mae'r lleoedd parcio i'r anabl?
Mae gan ein holl feysydd parcio leoedd i bobl anabl a gall unrhyw un â bathodyn anabl ddefnyddio mannau parcio eraill am ddim. Ceir maes parcio arbennig i bobl anabl ar Ffordd Rhosddu y tu ôl i'r llyfrgell. Ar ben hynny, mae gan Shopmobility fannau arbennig i gwsmeriaid Shopmobility.
Edrychwch ar y map
ar-lein o Ganol y Dref - sy'n dangos gwybodaeth am feysydd parcio
a lleoliadau.
Gweler hefyd y wybodaeth
am barcio Bathodyn Glas
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw Shopmobility?
Mae Shopmobility Wrecsam yn wasanaeth sy'n darparu sgwteri a chadeiriau olwyn trydanol a rhai a ddefnyddir â llaw, ar gyfer ei gwsmeriaid. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim (croesawir rhoddion) a'r cwbl sydd ei angen arnoch i ymuno yw dau fath o adnabyddiaeth. Mae Shopmobility ar agor o 9.30am - 4.30pm o ddydd Llun - ddydd Gwener a 9.30am - 12 canol dydd ar ddydd Sadwrn. Gall aelodau barcio ar Stryt y Drindod a lleolir Shopmobility yn yr orsaf fysiau, sydd hefyd ar Stryt y Drindod. Ffoniwch 01978 312390 am fwy o wybodaeth.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Pam nad oes gennym gynllun parcio a theithio yn Wrecsam?
Gyda thros 6,000 o leoedd parcio yng nghanol y dref, gan gynnwys parcio cyfnod byr ar y ffordd am ddim, nid oes angen cynllun parcio a theithio ar hyn o bryd, er y gallai hyn newid yn y dyfodol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Lle mae'r toiledau cyhoeddus?
Lleolir toiledau cyhoeddus ym maes parcio'r Byd Dŵr, maes parcio San Silyn, Stryt y Brenin (yr orsaf fysiau), Marchnad y Bobl a'r Farchnad Gyffredinol (merched yn unig). Ceir toiledau mewn adeiladau cyhoeddus hefyd gan gynnwys Neuadd y Dref, y llyfrgell, y Neuadd Goffa a Byd Dŵr Wrecsam.
Edrychwch ar y rhestr lawn o Doiledau
Cyhoeddus y Bwrdeistref Sirol sy'n dangor y cyfleusterau a'r oriau
agor.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
|