Anghenion Addysgol Arbennig
Gweler hefyd mwy o wybodaeth am Addysg a Cwestiynau Cyffredin Addysg.
Beth yw anghenion addysgol arbennig?
Mae hyn yn golygu:
- bod y plentyn yn ei chael hi'n anoddach dysgu na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran, neu
- bod gan y plentyn anabledd sy'n ei rwystro rhag defnyddio'r cyfleusterau addysgol arferol a ddarperir gan ysgolion i blant o'r un oedran
- bod y plentyn dan yr oedran ysgol gorfodol ond y byddai'n disgyn i'r categorïau uchod pe na fyddai darpariaeth addysgol arbennig yn cael ei gwneud ar ei gyfer
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n credu bod gan fy mhlentyn anghenion addysgol arbennig?
Os ydych yn credu bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, galwch heibio i ysgol eich plentyn i siarad â'r athro/athrawes (d)dosbarth, y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA) neu'r pennaeth. Byddant yn gwrando ar eich pryderon â chymdeimlad ac yn trafod y materion y byddwch yn eu codi. Gellwch ofyn sut mae'r ysgol yn cefnogi plant ag anghenion addysgol arbennig a bydd y wybodaeth hon hefyd ar gael ym Mholisi AAA yr ysgol. Os nad ydych yn teimlo bod Polisi AAA yr ysgol yn addas ar gyfer eich plentyn, gellwch drafod hyn â Llywodraethwr AAA yr ysgol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Os oes gan fy mhlentyn anghenion addysgol arbennig, a yw hyn yn golygu bod angen datganiad arnynt?
Dim ond canran fechan o blant ag anghenion arbennig sydd angen asesiad statudol a datganiad. Mae'r Côd Ymarfer AAA yn nodi ymagwedd gam wrth gam tuag at fodloni anghenion arbennig plant. Mae gofyn i ysgolion fabwysiadu ymateb raddedig tuag at anghenion arbennig sy'n cynnwys ystod o strategaethau ac ymyriadau ar lefelau amrywiol. Fel rhiant, dylai'r ysgol roi gwybod i chi bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig a sut maent yn bodloni'r anghenion hyn. Mae'r Côd Ymarfer AAA yn nodi'r camau ar gyfer adnabod a bodloni anghenion addysgol arbennig fel a ganlyn:
- Monitro
- Gweithred Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol
- Gweithred Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
- Asesiad Statudol
- Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut fyddaf yn gwybod os yw fy mhlentyn ar un o'r camau hyn ar gyfer anghenion arbennig?
Mae'r ysgol yn gyfrifol am y camau monitro, Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Mae'r ysgol yn gyfrifol am hysbysu a chynnwys rhieni wrth gynllunio a bodloni anghenion addysgol arbennig eu plant. Os bydd eich plentyn yn cael ei roi ar Weithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy bydd ganddynt Gynllun Addysgu Unigol (CAU) a fydd yn gosod targedau i'w cyflawni ac yn nodi sut y cyflawnir y rhain. Gall rhieni gyfrannu at y CAU a byddant yn cael copi ohono. Dylid monitro cynnydd eich plentyn ac adolygir y CAU yn rheolaidd - mae'r mwyafrif o ysgolion yn adolygu bob yn dymor neu bob hanner tymor. Bydd yr ysgol yn gofyn am eich barn bob amser ac yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr adolygiadau. Os yw'r ysgol yn teimlo na all eu hadnoddau nhw na'r adnoddau sydd ar gael gan yr Is-adran Cefnogi Dysgu fodloni anghenion eich plentyn, byddant yn siarad â chi ynghylch gofyn i'r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) gwblhau asesiad statudol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Os oes gan fy mhlentyn anghenion addysgol arbennig, a fydd raid iddynt fynychu ysgol arbennig?
Dim ond canran fechan o blant ag anghenion addysgol arbennig fydd yn gorfod mynychu ysgol arbennig. Mewn nifer o achosion, gall y plant barhau mewn ysgolion prif ffrwd lle byddant yn derbyn y gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen arnynt i fodloni eu hanghenion addysgol arbennig.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw adolygiad blynyddol?
Bydd datganiad eich plentyn yn cael ei adolygu'n flynyddol. Bydd yr AALl yn rhoi gwybod i'r ysgol pryd y dylid cynnal yr adolygiad a bydd yr ysgol yn pennu dyddiad ac yn trefnu'r adolygiad. Pwrpas yr adolygiad yw edrych ar y cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf mewn perthynas ag amcanion y datganiad.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw Adolygiad Trosglwyddo a Chynllun Trosglwyddo?
Enw'r adolygiad blynyddol cyntaf yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn 14 oed yw'r Adolygiad Trosglwyddo 14+. Yn ogystal ag adolygu cynnydd eich plentyn dros y flwyddyn ddiwethaf, nod yr adolygiad hwn yw dechrau cynllunio at y dyfodol. Datblygir y Cynllun Trosglwyddo i helpu'ch plentyn ystyried a chynllunio ar gyfer symud o'r ysgol i fywyd fel oedolyn.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw asesiad statudol?
Mae'r AALl yn ystyried yr angen am asesiad statudol ac, os yw'n briodol, yn cwblhau asesiad amlddisgyblaeth.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw datganiad o anghenion addysgol arbennig?
Mae'r AALl yn ystyried yr angen am ddatganiad o AAA ac, os yw'n briodol, yn llunio datganiad ac yn trefnu, monitro ac yn adolygu'r ddarpariaeth.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw Gwasanaeth Partneriaeth y Rhieni?
Mae Gwasanaeth Partneriaeth y Rhieni yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac yn rhoi manylion mudiadau amrywiol yn yr ardal. Maent yno i helpu rhieni, i gyfryngu ar eu rhan ac i esbonio gweithdrefnau.
Gellwch gysylltu â Gwasanaeth Partneriaeth y Rhieni yn:
Canolfan Cyngor ar Bopeth Wrecsam
35 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BT
Ffôn: 01978 364639
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
|