Marchnadoedd
Gwybodaeth mwy am farchnadoedd
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf gael stondin mewn marchnad awyr agored?
Trwy ffonio 01978 297050 neu trwy wneud cais personol yn y Swyddfa Farchnadoedd, Marchnad y Bobl, Stryt Caer, Wrecsam.
Ffôn: 01978 297050
E-bost: property@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw costau'r stondinau?
Marchnadoedd Awyr Agored
Y rhent lleiaf yw £13 gan gynnwys £2 am barcio cerbyd. Codir £1.10 am bob troedfedd linellol ar gyfer unedau mwy h.y. cost stondin 15 troedfedd yw £18.50.
Marchnadoedd Dan Do
Mae’r rhenti'n amrywio o farchnad i farchnad ac yn dibynnu ar faint a lleoliad y stondin. Yn ogystal â’r rhent, rhaid talu cost gwasanaeth hefyd sy'n seiliedig ar arwynebedd y llawr a ddefnyddir, sydd eto’n amrywio o farchnad i farchnad.
Rheolwr Gweithredol Ystadau Masnachol,
Cludiant a Rheoli Asedau,
Adeiladau'’r Goron,
31 Stryt Caer,
Wrecsam,
LL13 8BG.
Ffôn: 01978 297255
E-bost: property@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw'r diwrnodau marchnad ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam?
Dydd Llun: Wrecsam – Sgwâr y Frenhines
Dydd Mawrth: Brynteg – Ffordd Darby (wagen y cigydd yn unig)
Dydd Iau: Plas Madoc – Y Ganolfan Hamdden
Dydd Gwener: Johnstown - Heol Kenyon
Dydd Sadwrn: Y Waun – maes parcio Ffordd y Lofa
Marchnad y Ffermwyr
Trydydd dydd Gwener bob mis – Sgwâr y Frenhines 9 a.m. – 3 p.m.
Trefnir marchnadoedd nwyddau arbennig trwy gydol y flwyddyn, ffoniwch 01978 297050 am wybodaeth bellach neu anfonwch e-bost at: property@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf gael stondin yn un o'r marchnadoedd dan do?
Am fanylion am argaeledd, ffoniwch 01978 297050 neu galwch heibio i’r Swyddfa Farchnadoedd ym Marchnad y Bobl, Stryt Caer, Wrecsam. Fel arall, ffoniwch 01978 297255 neu ysgrifennwch at:-
Rheolwr Gweithredol Ystadau Masnachol,
Cludiant a Rheoli Asedau,
Adeiladau’r Goron,
31 Stryt Caer,
Wrecsam,
LL13 8BG.
Ffôn: 01978 297255
E-bost: property@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw'r weithdrefn ar gyfer rhentu stondin yn y marchnadoedd dan do?
Unwaith i chi dderbyn manylion am argaeledd ar hyn o bryd a phenderfynu ar stondin yr hoffech ei defnyddio, rhaid i chi gysylltu â’r Tîm Ystadau Masnachol a fydd yn anfon llythyr cynnig ffurfiol atoch, yn nodi’r holl delerau ac amodau sy’n gysylltiedig â’r stondin arfaethedig. Gyda hwn, fe welwch Ffurflen Gais am Eiddo, a dylech ddychwelyd hon at Adran Gyllid a Pherfformiad y Cyngor i asesu addasrwydd ariannol unrhyw ddarpar denant mewn perthynas â’r eiddo sydd ei angen. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff y stondin ei gadw am bedair wythnos i alluogi’r Cyngor i gynnal yr holl archwiliadau angenrheidiol.
Manylion cyswllt:-
Rheolwr Gweithredol Ystadau Masnachol,
Cludiant a Rheoli Asedau,
Adeiladau’r Goron,
31 Stryt Caer,
Wrecsam,
LL13 8BG.
Ffôn: 01978 297255
E-bost: property@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw’r amodau ar gyfer rhentu stondin yn y marchnadoedd dan do?
Cynigir yr holl stondinau ar sail tenantiaeth fusnes cyfnodol. Rhaid talu’r rhent yn fisol o flaen llaw trwy ddebyd uniongyrchol a bydd blaendal yn daladwy ar y dechrau. Gall y tenant adael y stondin ar ôl rhoi tri mis o rybudd ysgrifenedig i’r Cyngor.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw oriau agor y marchnadoedd dan do?
Marchnad y Cigyddion - Dydd Llun i ddydd Sadwrn 9:00 a.m. tan 5:00 p.m. Bydd y farchnad hon yn cau am 1:00 p.m. bob prynhawn Mercher.
Y Farchnad Gyffredinol - Dydd Llun i ddydd Sadwrn 9:00 a.m. tan 5:00 p.m. Bydd y farchnad hon yn cau am 1:00 p.m. bob prynhawn Mercher.
Marchnad y Bobl - Dydd Llun i ddydd Sadwrn 9:00 a.m. tan 5:00 p.m.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
|