Tir ac Eiddo
Sut allan ganfod os yw'r Cyngor yn berchen ar eiddo neu ddarn o dir?
Dylech wneud unrhyw ymholiadau am berchnogaeth tir neu adeilad yn ysgrifenedig i’r Prif Swyddog Cludiant a Rheoli Asedau, Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG. E-bost webmaster@wrexham.gov.uk
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad i weld swyddog, cysylltwch ag un o’r canlynol:
- Prif Swyddog Cynorthwyol (Rheoli Asedau) Ffôn: 01978 297214;
- Uwch Dechnegydd Ffôn: 01978 297213
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Rwyf wedi clywed bod y tir ger fy eiddo i'n dir comin. Sut allaf ganfod os yw hyn yn wir?
Mae'r mapiau/gofrestr tir comin yn cael eu cadw gan yr Adran Cyfraith a Gweinyddiaeth sydd wedi'i lleoli yn Neuadd y Dref. Mae'r mapiau ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau swyddfa yn rhad ac am ddim. I weld y mapiau, rhaid gwneud apwyntiad â'r Rheolwr Costau/Hawliadau Tir ar 01978 292214. Gellir gwneud chwiliad tir comin drwy gyfreithiwr am gost o £14.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
A oes gan y Cyngor unrhyw dir neu eiddo i'w rentu neu ei werthu?
Bydd unrhyw dir neu adeiladau y mae’r Cyngor am eu gwerthu neu eu prydlesu yn cael eu hysbysebu trwy werthwyr tai neu’r cyfryngau lleol.
Gallwch wneud unrhyw ymholiadau am eiddo diwydiannol, manwerthu a stondinau marchnad sy’n perthyn i’r Cyngor trwy ffonio Ystadau Masnachol ar 01978 757257.
Gallwch wneud unrhyw ymholiadau am dir ac adeiladau anfasnachol trwy gysylltu â’r Adran Rheoli Asedau:
- Prif Swyddog Cynorthwyol (Rheoli Asedau) Ffôn: 01978 297214;
- Uwch Dechnegydd Ffôn: 01978 297213
Mae gan yr Adran Datblygiad Economaidd restr o’r holl eiddo masnachol sydd ar osod neu ar werth yn ardal Wrecsam. I gael copi o’r rhestr hon, ffoniwch 01978 366366 neu anfonwch e-bost at business@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
A oes gan y Cyngor unrhyw wybodaeth am eiddo masnachol neu dir arall a allai fod ar gael?
Mae gan yr Adran Datblygiad Economaidd restr debyg. Ffoniwch 01978 366366 neu e-bostiwch: business@wrexham.gov.uk.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
A oes gan y Cyngor unrhyw dir pori i'w rentu?
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â phori'n ysgrifenedig at y Prif Swyddog Cludiant a Rheoli Asedau, Adeiladau'r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam LL13 8BG. Dylech anfon cynllun/braslun sy'n dangos y darn o dir dan sylw gyda'r ymholiad ynghyd ag unrhyw fanylion. Fel arall, cysylltwch â'r Prisiwr Cynorthwyol ar 01978 297254 neu e-bostiwch webmaster@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf rentu garej gan y Cyngor?
Dylech wneud ceisiadau i rentu garejys yn uniongyrchol i'r Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, rhif ffôn 01978 315328; e-bost: housing@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf rentu gardd gan y Cyngor?
Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â gerddi gosod at yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol ar 01978 729635. Am fwy o wybodaeth ewch i: wrecsam.gov.uk/welsh/env_services/community_services/allotments/allotments.htm.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf ganfod pwy sy'n berchen ar dir nad yw'n perthyn i'r Cyngor?
Cysylltwch â swyddfa'r Gofrestrfa Tir ar 01792 458877 Cysylltwch â swyddfa'r Gofrestrfa Tir ar 01792 458877 www.cofresrtrfatir.gov.uk.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
|