Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Lwfans Ceisio Gwaith

Beth yw'r Lwfans Ceisio Gwaith gyda phrawf modd?
Beth yw'r amodau ar gyfer hawlio Lwfans Ceisio Gwaith gyda phrawf modd?
Beth yw'r Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau?


Gweler hefyd Gwybodaeth am Lwfans Ceisio Gwaith ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau



Beth yw'r Lwfans Ceisio Gwaith gyda phrawf modd?

Mae'r Lwfans Ceisio Gwaith gyda phrawf modd yn gyfystyr â Chymhorthdal Incwm i'r bobl sy'n gorfod arwyddo eu bod ar gael i weithio, ond nad ydynt yn bodloni'r amodau ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau. Hawlir Lwfans Ceisio Gwaith gyda phrawf modd trwy Swyddfa leol y Gwasanaethau Cyflogaeth.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth yw'r amodau ar gyfer hawlio Lwfans Ceisio Gwaith gyda phrawf modd?

Gellir talu Lwfans Ceisio Gwaith gyda phrawf modd yn ychwanegol at Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau pan nad yw hwnnw'n ddigonol i ddiwallu anghenion yr hawliwr (a'r teulu).

Yr un yw'r amodau a'r dull o gyfrifo'r swm, ag a ddefnyddir ar gyfer Cymhorthdal Incwm.

Rhaid i'r hawliwr fod ar gael i weithio a dangos tystiolaeth ei fod yn chwilio am waith cyflogedig amser llawn.

Telir y Lwfans fel rheol bob pythefnos mewn ôl-daliadau. Bydd cais am y budd-dâl hwn fel rheol yn ymyriad gan yr Asiantaeth Cynnal Plant.

Rhaid i gyplau nad oes ganddynt blant, sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar sail eu hincwm, wneud cais ar y cyd, os yw un neu'r ddau ohonynt wedi ei eni ar ôl 19 Mawrth 1976.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

Beth yw'r Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau?

Y Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau sydd wedi cymryd lle'r Budd-dâl Diweithdra.

Mae'r Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau yn dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol. Nid yw'n amodol ar brawf modd, ond mae'n drethadwy. Hawlir y Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau trwy Swyddfa leol y Gwasanaethau Cyflogaeth.

Telir cyfraddau gwahanol ar gyfer pobl sydd:

  • o dan 18

  • 18 - 24 oed

  • 25 a throsodd

Ni thelir y lwfans am gyfnod hwy na 6 mis.

Rhaid i'r hawliwr fod ar gael i weithio a dangos tystiolaeth ei fod yn chwilio am waith cyflogedig amser llawn.

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint