Cymhorthdal Incwm
Gweler hefyd Gwybodaeth
am Gymhorthdal Incwm ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Pwy sy'n gymwys
am Gymhorthdal Incwm?
Ni thelir Cymhorthdal Incwm ar sail cyfraniadau, ond mae'n amodol ar
brawf modd. Hynny yw, nid yw'n gysylltiedig â chyfraniadau Yswiriant
Cenedlaethol. Fodd bynnag, os oes gennych gyfalaf, (gan gynnwys cynilion,
cyfranddaliadau ac eiddo heblaw eich ty eich hunan) sy'n fwy nag
£8,000 ni ellwch hawlio cymhorthdal Incwm fel rheol. Ar gyfer pensiynwyr,
(pawb sydd dros 60), y terfyn cyfalaf yw £12,000. Nid yw Cymhorthdal
Incwm yn drethadwy. Mae'n daladwy i bobl dros 18 oed, ond gall ambell
un sy'n 16 ac 17 oed fod yn gymwys. Hawlir Cymhorthdal Incwm gan yr Asiantaeth
Budd-daliadau a gall eich gwneud yn gymwys ar gyfer budd-daliadau eraill
yn ogystal.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut mae'r swm yn cael ei gyfrifo?
Anwybyddir y £3,000 cyntaf o gynilion. Ychwanegir
tariff o £1 at eich incwm wythnosol am bob £250 neu ran ohono
rhwng £3,000 ac £8,000. Mae'r cyfrifiad yn cynnwys ychwanegiadau
ar gyfer llog morgais, rhent tir a rhai taliadau penodol eraill. Anwybyddir
cynilion pensiynwyr hyd at £6,000.
Mae'r cyfrifiad yn seiliedig ar amgylchiadau'r hawliwr a'i deulu, a gall
gynnwys ychwanegiadau ar gyfer oedolion a phlant.
Mae Cymhorthdal Incwm ar gael i'r rhai nad ydynt yn gweithio (nad oes
rhaid iddynt arwyddo eu bod ar gael i weithio) ac i rai sy'n gweithio
llai nag 16 awr yr wythnos, er enghraifft:
Telir Cymhorthdal Incwm yn wythnosol neu bob pythefnos mewn ôl-daliadau.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw'r premiymau sy'n daladwy
yn rhan o Gymhorthdal Incwm?
Gellir talu'r premiymau canlynol yn rhan o'ch Cymhorthdal
Incwm yn ogystal â'ch lwfansau personol ac unrhyw gostau lletya.
Ychwanegir y premiymau at eich lwfansau personol sylfaenol a bwriedir
hwy yn gymorth ar gyfer y costau ychwanegol a achosir oherwydd oedran,
anabledd neu'r gost o fagu plant. Mae saith premiwm wythnosol gwahanol.
Mae gan bob un ei amodau cymhwyster penodol:
1) Premiwm Teulu
Telir hwn os oes gennych blentyn dibynnol o dan 19 oed. Nid yw'n berthnasol
i hawlwyr newydd.
2) Premiwm Plentyn Anabl
Telir hwn am bob plentyn sy'n byw gyda chi, sydd naill ai wedi ei gofrestru'n
ddall neu'n derbyn Lwfans byw i'r Anabl.
3) Premiwm Gofalwr
Yr ydych yn gymwys i gael hwn os ydych chi neu'ch partner yn derbyn, neu'n
cael eich trin fel pe baech yn derbyn, Lwfans Gofal Anabledd.
4) Premiymau Pensiynwr
Yr ydych yn gymwys i gael premiwm pensiynwr os ydych chi, neu'ch partner,
yn 60 oed neu drosodd. Mae premiwm ar gyfer person sengl a phremiwm ar
gyfer cwpl (hyd yn oed os mai un partner yn unig sy'n gymwys).
5.) Premiwm Anabledd
Mae hwn yn daladwy pan fo'r person sy'n gymwys o dan 60 oed, yn unig.
Bodlonir yr amodau cymhwyster am bremiwm anabledd os ydych chi neu eich
partner:
-
Wedi cofrestru'n ddall, neu
-
Yn cael un o'r budd-daliadau canlynol: Lwfans Gweini Cyson, Lwfans
Byw i'r Anabl, Lwfans Gweithio i'r Anabl, Budd-dâl Analluogrwydd
hirdymor, Lwfans Symudedd, Lwfans Anabledd Difrifol, neu
-
Yn parhau i gael cymorth yn unol â'r cynllun cerbydau cyn-1976,
e.e. treisicl i'r anabl.
6) Premiwm Anabledd Mwy
Gallech fod yn gymwys i gael hwn os oes o leiaf un aelod o'r teulu
yn cael y gyfradd uwch o'r gydran gofal yn y Lwfans Byw i'r Anabl.
7) Premiwm Anabledd Difrifol
Gellir talu hwn yn ychwanegol at y Premiwm Anabledd neu'r Premiwm
Pensiynwr.
I fod yn gymwys:
-
Rhaid i chi fod yn Hawliwr Cymhorthdal Incwm, sy'n cael y gyfradd
ganol neu'r gyfradd uwch o'r gydran gofal yn y Lwfans Byw i'r Anabl,
y Lwfans Gweini neu'r Lwfans Gweini Cyson, ac
-
Nad oes unrhyw un yn derbyn Lwfans Gofal Anabledd am ofalu amdanoch,
ac nad oes neb dros 18 oed yn byw gyda chi, nad yw'n derbyn un o'r
budd-daliadau cymwys.
|