Twyll
Beth yw twyll budd-dal?
Dyma lle mae pob yn hawlio budd-daliadau tai/treth y cyngor neu nawdd gymdeithasol arall ond nid ydynt yn gymwys i'w derbyn.
Mae sawl math o dwyll budd-dall; dyma rai enghreifftiau o'r achosion mwyaf cyffredin:
- Pobl sy'n gweithio ond nad ydynt yn datgan hyn pan fyddant yn hawlio budd-dal
- Pobl sy'n hawlio fel unigolyn sengl ond sy'n byw gyda phartner nad yw wedi ei d/datgan
- Pobl sy'n hawlio o gyfeiriad nad ydynt yn byw yno
- Pobl sy'n hawlio budd-dal tai am eiddo lle nad oes raid iddynt dalu rhent e.e. yr hawlydd neu bartner sy'n berchen ar yr eiddo
- Pobl nad ydynt yn datgan eu hincwm, cynilion neu gyfalaf llawn wrth hawlio
- Pobl sy'n darparu gwybodaeth ffug yn fwriadol wrth hawlio
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pam ddylwn boeni am dwyll budd-dal?
Bob blwyddyn, mae twyll budd-dal yn mynd â biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus.
Hyd yn oes os na thalwch treth incwm, mae pawb yn talu rhyw fath o drethi anuniongyrchol, felly mae'r bobl hyn yn dwyn oddi wrthych chi!
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth ydym yn ei wneud i atal y twyll hwn?
Mae gan Gyngor Wrecsam dîm penodol o ymchwilwyr twyll hyfforddedig sy'n defnyddio'r dechnoleg a'r systemau casglu data diweddaraf i atal a datgelu hawliadau twyllodrus.
Mae gan bob ymchwilydd gymwysterau proffesiynol llawn, gallant gyfweld â thwyllwyr honedig yn unol â'r Ddeddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a pharatoi achosion ar gyfer y llys.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw'r ymchwilwyr twyll yn gweithio gyda chyrff eraill?
Gwneir sawl achos ar ffurf cyd-ymchwiliadau gyda swyddogion o'r Adran Gwaith a Phensiynau a dwynir achosion o flaen y llys fel cyd-erlyniadau'n aml. Mae gan ymchwilwyr y Cyngor bwerau i gael gwybodaeth gan Gyllid y Wlad, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cofrestrfa Tir, cofnodion cyflogau gweithwyr, cwmnïau bancio a chredyd, darparwyr pensiynau preifat a chwmni, awdurdodau lleol eraill a sawl cofnod arall a ddelir ar systemau data amrywiol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth sy'n digwydd i bobl sy'n twyllo?
Bydd unrhyw un a euogfarnir mewn llys ynadon neu lys y Goron yn cael cofnod troseddol. Ni chyfeirir bob achos i'r llys a gellir ymdrin ag achosion llai difrifol yn weinyddol, naill ai ar ffurf rhybudd ffurfiol neu gosb weinyddol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|