Cynllunio Brys
Gwybodaeth am Deddf
Argyfyngau Sifil 2004 - Proses Asesu Risg. Heddlu Gogledd Cymru (cyswllt allanol)
 Cymru Gydnerth (cyswllt allanol)
Mae gan y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng ffynhonnell ganolog o wybodaeth am gynlluniau argyfwng dinesig yng Nghymru. Mae gwefan Cymru Gydnerth yn ffenest i waith a wneir ar draws Cymru, Fforwm Dycnwch Lleol ac o fewn asiantau unigol. Yn ogystal â darparu Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng hefo newyddion a'r ymarfer gorau mae'r safle yn ffynhonnell hefyd o wybodaeth i'r cyhoedd beth i'w wneud yn ystod argyfwng.
Beth yw cynllunio brys?
Y Tîm Cynllunio Brys sy'n cydgysylltu ymateb y Cyngor i unrhyw
sefyllfa frys. Gwneir hyn trwy baratoi cynlluniau yn unol â'r gofynion
statudol, hyfforddi swyddogion yn eu swyddogaethau brys a thrwy gyswllt
gyda phartneriaid ymateb, gan gynnwys y gwasanaethau brys, y cyfleustodau
a'r asiantaethau gwirfoddol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw swyddogaeth ymateb brys y Cyngor?
Mae'r Cyngor yn rhoi cymorth ymarferol i'r gwasanaethau brys ym mhob
maes ymateb. Gan amlaf, bydd y gofalu am les aelodau'r cyhoedd sy'n gysylltiedig
â'r achos brys, yn darparu cymorth technegol ac adnoddau ar safle'r
argyfwng, ac yn cydgysylltu gwaith yr asiantaethau gwirfoddol ac adferiad
hirdymor yr ardal yr effeithir arni.
N i fydd gwaith y Cyngor yn dod i ben pan fo'r gwasanaethau brys yn ymadael.
Y Cyngor sy'n gyfrifol am glirio, glanhau ac ailadeiladu'r gymuned a'r
dioddefwyr. Gall y gofal a'r cymorth i ddioddefwyr barhau am wythnosau
neu fisoedd lawer.
Y Cyngor hefyd fydd yn sicrhau y cynhelir gwasanaethau hanfodol yn ystod
argyfyngau, ac yr adferir cymunedau i'w cyflwr a'u bywyd arferol cyn gynted
ag y bo modd.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Sut y bydd y Cyngor yn ymateb i achosion brys?
Seilir ymateb y Cyngor ar yr egwyddor o Reolaeth Argyfwng Integredig.
Mae hyn yn sicrhau ymateb cydlynol, beth bynnag fo achos yr argyfwng.
Mae'r Cyngor wedi rhannu ei ymateb i achosion brys yn bedair elfen sylfaenol,
ac wedi sefydlu Timau Ymateb i reoli'r meysydd hynny, fel a ganlyn:
Tîm Gwybodaeth Brys
Y tîm hwn sy'n rheoli'r gwaith o gasglu, gwirio a lledaenu pob gwybodaeth
yn ymwneud â'r achos brys. Mae hefyd yn rheoli ymholiadau gan y
wasg a'r cyfryngau.
Tîm Lles Brys
Y tîm hwn sy'n rheoli lles pawb yr effeithir arnynt gan yr achos
brys, gan gynnwys symud pobl o'u cartrefi a'u cynghori.
Tîm Cymorth a Gweithfeydd Brys
Y tîm hwn sy'n rheoli'r holl gymorth technegol a'r adnoddau a ddarperir
i gynorthwyo'r gwasanaethau brys i ymateb i'r sefyllfa.
Tîm Adferiad Brys
Y tîm hwn sy'n gyfrifol am waith adfer hirdymor ac am ddychwelyd
cymunedau a phreswylwyr i'w cyflwr a'u bywyd arferol.
Mewn unrhyw sefyllfa frys, daw'r pedwar tîm hyn at ei gilydd yng
Nghanolfan Frys y Cyngor yn Neuadd y Dref, i gydgysylltu ymateb y Cyngor.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Sut y gallaf gysylltu â'r Tîm Cynllunio
Brys?
Gallwch gysylltu â'r Tîm Cynllunio Brys ar:
Ffôn: 01978 292265
Neu e-bost: webmaster@wrexham.gov.uk
Cyfeiriad cyswllt y Tîm yw:
Y Tîm Cynllunio Brys
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cynllunio
Swyddfeydd Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
|