Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Y Gofrestr Etholwyr, Cofrestru i Bleidleisio, Pleidleiswyr o'r Lluoedd Arfog a Etholiadau yn Eich Ardal

Cofrestru i Bleidleisio

Pleidleiswyr o'r Lluoedd Arfog

Etholiadau yn Eich Ardal

Os gwelwch yn dda, gweler hefyd Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am wybodaeth cyswllt, a ffurflenni y gellir eu llwytho i lawr a'u llenwi.



Cofrestru i Bleidleisio

Beth yw’r gofrestr etholwyr?

Rhestr yw’r gofrestr etholwyr o enwau a chyfeiriadau pawb a gofrestrwyd i bleidleisio. Ni sy’n cynnal cofrestr etholwyr ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio?

Er mwyn iddynt bleidleisio, mae angen i bobl fod ar y gofrestr etholwyr. Os ydych wedi llenwi’r ffurflen gofrestru flynyddol a ddaeth drwy eich drws rhwng diwedd Awst a mis Tachwedd 2008 dylech fod wedi cofrestru. Os ydych wedi symud tŷ yna dylech gofrestru eto. Caiff y gofrestr etholwyr ei diweddaru bob mis rhwng Rhagfyr a Medi. I weld a ydych wedi cofrestru, cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut mae cofrestru i bleidleisio?

Bob blwyddyn, tua diwedd Awst a dechrau Medi, bydd y Cyngor yn anfon ffurflen Cofrestr Etholwyr i bob aelwyd yn y Fwrdeistref Sirol.

Ffurflen aelwyd yw hon a dylid ei llenwi a’i dychwelyd gan roi manylion yr holl oedolion fydd yn byw yn yr eiddo ar 15fed Hydref. Mae’r Gofrestr sy’n cael ei llunio o’r ffurflenni a ddychwelwyd yn cael ei chyhoeddi ar 1af Rhagfyr.

Fe all aelwydydd lle na fu unrhyw newid yn yr enwau a gofrestrwyd o’r blaen ailgofrestru dros y ffôn neu ar y we neu trwy decstio gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen.

Rhwng 1af Rhagfyr ac 20fed Awst y flwyddyn ddilynol, caiff y gofrestr ei newid trwy gyfres o ddiweddariadau misol, fel y gallwch wneud cais i fynd ar y Gofrestr ar unrhyw adeg. Enw hyn yw Cofrestru Treigl.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Gaf i gofrestru i bleidleisio dros y ffôn?

Nid oes modd cofrestru i bleidleisio dros y ffôn, ar y we na thrwy decstio gan fod angen llofnod y ceisydd ar geisiadau gwreiddiol i gofrestru i bleidleisio. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi cofrestru efallai y bydd modd adnewyddu eich cofnod dros y ffôn, ar y we neu drwy decstio.

Bob blwyddyn mae’r Cyngor yn cynnal ymgyrch cofrestru pleidleiswyr yn ystod mis Medi a mis Hydref. Bydd pob aelwyd yn derbyn ffurflen yn dangos yr enwau a gofrestrwyd i bleidleisio yn y cyfeiriad penodol hwnnw ar hyn o bryd.

Os yw manylion yr holl etholwr a argraffwyd ar gyfer eiddo’n mynd i aros yr un fath, fe all pwy bynnag sy’n llenwi’r ffurflen gadarnhau’r manylion presennol trwy alw rhif rhadffôn neu drwy wefan gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen. Erbyn hyn mae modd cadarnhau manylion presennol hefyd trwy decstio ond bydd angen i chi fod â’r ffurflen gyda chi wrth wneud hyn dros y ffôn, ar y we neu drwy decstio, gan fod cod diogelwch unigryw ar bob ffurflen y bydd angen ei roi. Peidiwch â dychwelyd y ffurflen argraffedig os ydych wedi cofrestru dros y ffôn, ar y neu drwy decstio – bydd hyn yn arbed costau postio i’r Cyngor.

Peidiwch â phoeni os gwnewch gamgymeriad wrth gadarnhau manylion dros y ffôn, ar y we neu drwy decstio – gallwch ddal i lenwi’r ffurflen bapur a’i hanfon atom a bydd y wybodaeth ar y ffurflen bapur yn cael blaenoriaeth dros unrhyw fanylion a roddwyd dros y ffôn neu ar y we.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Oes raid i mi fynd i rywle i gofrestru i bleidleisio?

Nac oes. Dim ond i chi lenwi ffurflen gofrestru etholiadol a’i dychwelyd i’r Gwasanaethau Etholiadol
Tŷ Dewi Sant
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1NF

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pam fod angen i mi gofrestru?

Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholwyr i bleidleisio yn holl etholiadau a refferenda’r DU. Nid ydych yn cael eich cofrestru’n ddiofyn hyd yn oed os ydych yn talu treth y cyngor. Gall bod heb gofrestru hefyd effeithio ar eich statws credyd.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pwy sy’n gallu cofrestru i bleidleisio?

Yn gyffredinol, i fod ar y Gofrestr Etholwyr rhaid i rywun fod:

  • yn byw yn y Fwrdeistref Sirol ar ddyddiad y cais
  • yn ddinesydd Prydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad neu’n ddinesydd aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd neu Diriogaethau Tramor Prydain
  • yn 18 oed a hŷn (neu’n cyrraedd 18 oed yn ystod oes y gofrestr).

NID YW dinasyddion gwledydd eraill sy’n byw yn y Sir yn gymwys i gofrestru dan ddeddfwriaeth bresennol. Er enghraifft: Tsieina, Pilipinas, Twrci, UDA ac ati.

NID YW priodi dinesydd Prydeinig neu gael preswylfa barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhoi Dinasyddiaeth Brydeinig na hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn y Deyrnas Unedig.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddinasyddiaeth ymwelwch â gwefan yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwy’n fyfyriwr a dydw i ddim yn sicr ble dylwn gofrestr i bleidleisio?

Mae gan fyfyrwyr hawl i gofrestru yng nghyfeiriad eu cartref a chyfeiriad eu prifysgol. Er ei bod yn drosedd pleidleisio mwy nag unwaith mewn etholiad cenedlaethol, gallwch bleidleisio mewn etholiadau lleol yn eich dau gyfeiriad, ond iddynt beidio â bod yn yr un ardal.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwy’n 16/17. Gaf i gofrestru i bleidleisio?

Cewch. Gallwch gofrestru i bleidleisio, ond ni chewch bleidleisio nes byddwch yn 18. Os yw eich pen-blwydd yn 18 yn union cyn etholiad mae’n syniad da cofrestru nawr fel eich bod yn gallu pleidleisio ar Ddiwrnod yr Etholiad. Mae’r etholiadau nesaf ar 4 Mehefin 2009.

Cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol i gael ffurflen.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pryd allaf i gofrestr i bleidleisio?

Bob blwyddyn, tua diwedd Awst a dechrau Medi, bydd y Cyngor yn anfon ffurflen Cofrestr Etholwyr i bob aelwyd yn y Fwrdeistref Sirol.

Ffurflen aelwyd yw hon a dylid ei llenwi a’i dychwelyd gan roi manylion yr holl oedolion fydd yn byw yn yr eiddo ar 15fed Hydref. Mae’r Gofrestr sy’n cael ei llunio o’r ffurflenni a ddychwelwyd yn cael ei chyhoeddi ar 1af Rhagfyr.

Fe all aelwydydd lle na fu unrhyw newid yn yr enwau a gofrestrwyd o’r blaen ailgofrestru dros y ffôn neu ar y we neu trwy decstio gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen.

Rhwng 1af Rhagfyr ac 20fed Awst y flwyddyn ddilynol, caiff y gofrestr ei newid trwy gyfres o ddiweddariadau misol, fel y gallwch wneud cais i fynd ar y Gofrestr ar unrhyw adeg. Enw hyn yw Cofrestru Treigl.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Fyddaf i’n cofrestru unwaith neu bob blwyddyn?

Dylech gofrestru rhwng Awst a Thachwedd bob blwyddyn pan fyddwn yn anfon ffurflen gofrestru i’ch cartref. Enw hyn yw’r ‘canfasio blynyddol’. Gallwch gofrestru ar adegau eraill y flwyddyn trwy lenwi ffurflen gofrestru.

I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth wna’i os byddaf yn symud cartref?

Os ydych wedi llenwi a dychwelyd ffurflen gofrestru flynyddol ers i chi symud i’ch cartref newydd, nid oes angen i chi gofrestru eto. Os nad ydych, mae angen i chi wneud cais am ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i’r Gwasanaethau Etholiadol.

Os byddwch yn symud rhwng diwedd Awst a mis Tachwedd yna dylech lenwi’r ffurflen ganfasio flynyddol i ddangos eich cyfeiriad ar 15 Hydref. Os byddwch yn symud ar ôl i chi lenwi’r ffurflen ganfasio flynyddol yna gallwch wneud cais am ffurflen i newid ein cofnodion o ganlyniad.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Ar ôl i mi gofrestru, sut mae pleidleisio?

Ymwelwch â’n tudalen bleidleisio i weld sut y gallwch bleidleisio.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut allaf i gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol?

Gallwch gysylltu â ni mewn un o’r ffyrdd canlynol:-

  • Dros y ffôn 01978 292020
  • Dros y ffôn 01978 292020 electoral@wrexham.gov.uk neu
  • drwy ysgrifennu at y Gwasanaethau Etholiadol, Tŷ Dewi Sant, Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1NF.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth yw’r gofrestr olygedig?

Mae dau fersiwn o’r gofrestr: y fersiwn LLAWN a’r fersiwn GOLYGEDIG. Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen gofrestru pleidleiswyr, byddwch yn gallu dewis a ydych eisiau i’ch manylion fod yn y gofrestr olygedig.

Mae’r gofrestr LAWN yn cynnwys enwau pawb yn y Sir sydd â hawl i bleidleisio ac nid oes modd ei defnyddio ond at ddibenion penodol fel etholiadau, gorfodi’r gyfraith a chadarnhau pwy ydych pan fyddwch wedi gwneud cais am gredyd. Mae’n drosedd iddynt roi’r wybodaeth hon i neb arall na’i defnyddio at unrhyw ddiben arall. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer archwilio’r gofrestr lawn i sicrhau bod modd diogelu gwybodaeth a roddwyd. Erbyn hyn nid oes modd edrych ar y gofrestr lawn heblaw dan oruchwyliaeth, yn Neuadd y Sir yn Rhuthun, trwy drefniant ymlaen llaw yn unig. Mae’n drosedd gwneud copïau heblaw trwy nodiadau ysgrifenedig. Gallai camddefnyddio data o’r gofrestr lawn arwain at ddirwy o hyd at £5,000.

Mae’r gofrestr OLYGEDIG yn cynnwys enwau pawb yn y Sir sydd â hawl i bleidleisio heblaw’r rhai a ddewisodd beidio bod yn y fersiwn hwn o’r gofrestr trwy roi tic yn y blwch priodol ar y ffurflen gofrestru. Gall unrhyw un brynu’r gofrestr hon a’i defnyddio at unrhyw ddiben.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


A fydd fy manylion yn ymddangos ar y gofrestr etholwyr?

Yr unig fanylion sy’n ymddangos ar y gofrestr yw enw, cyfeiriad a nod sy’n pennu pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt. Os ydych dan 18, bydd dyddiad eich pen-blwydd yn 18 yn cael ei ddangos hefyd.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


A fydd fy manylion yn cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw beth ar wahân i etholiadau?

Mae dau fersiwn o’r gofrestr etholwyr – y fersiwn llawn a’r fersiwn golygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata.

Bydd eich enw a chyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr lawn ond gallwch ddewis ar eich ffurflen gofrestru a ydych am ymddangos ar y gofrestr olygedig.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwy’n bryderus bod fy enw’n ymddangos ar y gofrestr; gaf i gofrestru’n ddienw?

Bellach gall pobl arbennig wneud cais i gofnodi’n ddienw ar y gofrestr etholwyr. Er bod y gofrestr etholwyr yn ôl strydoedd yn nhrefn yr wyddor ac nid yn nhrefn enwau, mae rhai pobl yn teimlo y gallai bod ar y gofrestr etholwyr effeithio ar eu diogelwch, e.e. pobl yn dianc rhag trais teuluol neu’r rhai lle byddai eu galwedigaeth yn golygu eu bod eisiau cadw eu hunaniaeth yn breifat.

Os ydych yn teimlo eich bod mewn perygl os bydd eich enw’n ymddangos ar y gofrestr etholwyr gallwch wneud cais i gael eich cofnodi’n ddienw ac, os caiff eich cais ei dderbyn, ni fydd eich enw a chyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr, dim ond eich rhif etholiadol. Gall unrhyw un sy’n byw gyda chi wneud cais i bleidleisio fel hyn hefyd.

Bydd angen i chi lenwi un o’r ffurflenni isod gan roi’r rheswm dros fod angen cofrestru’n ddienw. Mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn rhoi tystiolaeth ddogfennol ar ffurf gorchymyn llys neu waharddeb. Os nad oes gennych y naill neu’r llall o’r rhain mae’r gyfraith yn mynnu bod un o’r bobl ganlynol yn cefnogi eich cais:

  • Prif Swyddog unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr
  • Prif Gwnstabl unrhyw heddlu yn yr Alban neu Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Diogelu neu’r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Oedolion neu Wasanaethau Plant yn Lloegr neu Brif Swyddog Gwaith Cymdeithasol yn yr Alban

Nid yw’r swyddog cymhwysol yn gorfod bod yn seiliedig yn yr un ardal â chi, ond ni all rhywun o statws is yn y sefydliad lofnodi’r dogfennau ategol.
I wneud cais i gofrestru’n ddienw, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Allaf i chwilio’r gofrestr etholwyr ar-lein?

Mae cofrestru etholiadol yn cael ei wneud yn lleol gan y swyddfa leol cofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gofrestr etholwyr ganolog swyddogol y mae modd ei chwilio ar-lein.

Fodd bynnag, mae dau fersiwn o’r gofrestr etholwyr – y fersiwn llawn a’r fersiwn golygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata. Mae modd chwilio’r gofrestr olygedig trwy sefydliadau masnachol ar-lein, ond nid oes modd chwilio’r gofrestr lawn fel hyn, am nad yw’r cofrestri llawn ar gael heblaw i’w gweld fel copi caled ymhob swyddfa leol cofrestru etholiadol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Gaf i ddefnyddio’r gofrestr etholwyr i chwilio am berthynas neu gyfaill coll?

Gallai fod yn anodd cael hyd i gyfaill neu berthynas coll ar y gofrestr etholwyr gan mai swyddfa leol cofrestru etholiadol sy’n gwneud y cofrestru etholiadol ymhob ardal ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gofrestr etholwyr ganolog swyddogol i’w chwilio.

Os ydych eisiau edrych yn y gofrestr i geisio cael hyd i gyfaill neu berthynas coll, mae dau fersiwn o’r gofrestr etholwyr y gallwch edrych arnynt - y fersiwn llawn a’r fersiwn golygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig mae ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata. Mae modd chwilio’r gofrestr olygedig trwy sefydliadau masnachol ar-lein, ond nid oes modd chwilio’r gofrestr lawn fel hyn, am nad yw’r cofrestri llawn ar gael heblaw i’w gweld fel copi caled yn swyddfa’r Gwasanaethau Etholiadol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


A yw gweision y Goron, cyflogeion y Cyngor Prydeinig ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd ar ddyletswydd dramor yn cael pleidleisio?

Gall gweision y Goron, cyflogeion y Cyngor Prydeinig ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd ar ddyletswydd dramor bleidleisio yn holl etholiadau. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru a’i hanfon at y Gwasanaethau Etholiadol. Yna gallwch ddewis pleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy. Dim ond wythnos cyn etholiad y bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu hanfon. Bydd angen i chi ystyried a yw hyn yn rhoi digon o amser i chi lenwi a dychwelyd eich ffurflen atom. Gall fod yn well penodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwy’n byw neu’n gweithio dramor – gaf i ddal i gofrestru i bleidleisio?

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig ac yn byw neu’n gweithio dramor, gallwch fod â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol ac etholiadau Seneddol Ewropeaidd o’ch cyfeiriad cofrestredig diwethaf. I fod yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr tramor, rhaid i’r ceisydd fod wedi cofrestru yn y DU o fewn cyfnod o 15 mlynedd.

Unwaith y cofrestrwyd chi fel etholwr tramor, byddwch yn gallu pleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy yn holl etholiadau Seneddol ac Ewropeaidd.
Gallwch gofrestru fel etholwr tramor:

  • os ydych yn Ddinesydd Prydeinig yn byw oddi allan i’r Deyrnas Unedig
  • os oedd eich enw yn flaenorol ar y gofrestr etholwyr ar gyfer cyfeiriad yn yr ardal
  • os nad oes mwy na 15 mlynedd rhwng dyddiad cymhwyso ar gyfer cofrestru a dyddiad y cais.

Cysylltwch â’r gwasanaeth cofrestru etholiadol i ofyn am ffurflen.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Pleidleiswyr o'r Lluoedd Arfog

Rwyf yn y Lluoedd Arfog (y Fyddin, y Llynges neu’r RAF) ar ddyletswydd dramor. Sut mae cofrestru i bleidleisio?

Gall milwyr a’u gwŷr, gwragedd, neu bartneriaid sifil ar ddyletswydd dramor gofrestru i bleidleisio trwy wneud datganiad Lluoedd Arfog. Mae angen i chi wneud cais am ffurflen. Rhaid i chi adnewyddu eich datganiad lluoedd arfog bob tair blynedd.

Gallwch gofrestru yn y cyfeiriad lle byddech yn byw pe nad oeddech yn y Lluoedd Arfog neu mewn cyfeiriad lle’r ydych wedi byw yn y gorffennol. Mae angen i chi anfon eich datganiad Lluoedd Arfog i’r Gwasanaethau Etholiadol ar gyfer y cyfeiriad lle dymunwch i’w gofrestru.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Rwyf yn y Lluoedd Arfog ac yn byw yn y DU. Sut mae cofrestru i bleidleisio?

Mae milwyr a’u gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil yn gallu dewis gwneud datganiad Lluoedd Arfog, neu gofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pa ddulliau pleidleisio sydd ar gael i mi?

Gall pleidleiswyr o’r lluoedd arfog a’u gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil bleidleisio’n bersonol neu gallant ddewis pleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy.

Nid yw pleidleisiau drwy’r post yn cael eu hanfon tan yr wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Os ydych yn byw dramor, gall fod yn well penodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan rhag ofn nad oes digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post eich cyrraedd a chael ei dychwelyd cyn i’r pleidleisio gau.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Etholiadau yn Eich Ardal

Sut fyddaf i’n gwybod pan fydd etholiad yn fy ardal?

Os cofrestrwyd chi i bleidleisio, bydd y gwasanaethau etholiadol yn anfon cerdyn pleidleisio atoch ryw 3 neu 4 wythnos cyn yr etholiad yn dweud wrthych pryd fydd etholiad yn digwydd ac ymhle a phryd i bleidleisio.

Gallwch ddod i wybod a oes etholiad yn eich ardal trwy fynd i’n tudalen etholiadau.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pryd mae’r etholiadau nesaf yn Wrecsam?

Yr etholiadau nesaf a drefnwyd yw’r etholiadau Seneddol Ewropeaidd i’w cynnal ar ddydd Iau 4 Mehefin 2009.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Lle allaf i gael gwybodaeth am ymgeiswyr?

Nid oes unrhyw ffynhonnell swyddogol ac, felly, dylech ymweld ag gwefannau ymgeiswyr, gwefannau pleidiau, neu ysgrifennu at y blaid. Bydd rhestr o ymgeiswyr sy’n sefyll ymhob ardal ar gael yma.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut mae cael gwybod enw fy AS, AC neu Gynghorydd?

Gallwch ddod i wybod enw eich AS a chynrychiolwyr eraill ar ein tudalen etholiadau neu drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint