Addysg
Gwler hefyd mwy o wybodaeth Addysg a Cwestiynau Cyffredin Anghenion Addysgol Arbennig.
Sut allaf hawlio prydau bwyd ysgol am ddim i fy mhlentyn/mhlant a beth yw'r meini prawf cymhwyso?
Erbyn hyn caiff prydau bwyd ysgol am ddim eu dyrannu yn flynyddol ar ddechrau pob blwyddyn ysgol. Dosberthir ffurflenni cais i bob ysgol yn ystod wythnosau olaf tymor yr haf. Dylid dychwelyd ceisiadau at Adran Gwasanaethau Cenfogi, Adran Addysg, Tŷ Henblas. Rhaid anfon prawf ysgrifenedig o fudd-daliadau/lwfansau cymwys a dylent gael eu gwirio gan aelod o'r tîm Gwasanaethau Cefnogi. Am fanylion y meini prawf cymhwyso o ran budd-daliadau/lwfansau cysylltwch â'r Gwasanaethau Cefnogi ar 01978 297407.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Mae gan fy mhlentyn anghenion dietegol arbennig, a ellir darparu ar gyfer y rhain?
Gellir darparu ar gyfer y mwyafrif o anghenion dietegol i ryw raddau ond os hoffech drafod angen penodol cysylltwch â'r Is-adran Arlwyaeth Ysgolion ar 01978 297407.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Mae gennyf ymholiad ynghylch cynnwys y fwydlen ysgol, allwch chi roi manylion i mi?
Gall yr Is-adran Arlwyaeth Ysgolion ddarparu pob bwydlen ysgol ar gais ar 01978 297407. Fel arall gall rhieni drefnu cyfarfod gyda'r prif gogydd yn ysgol eu plentyn neu gyda'r rheolwr arlwyo i drafod unrhyw ymholiad arbennig ynghylch dewisiadau'r fwydlen.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Faint mae pryd bwyd ysgol safonol yn ei gostio?
Ar hyn o bryd (2007/2008) mae prisiau prydau bwyd ysgol fel a ganlyn; Babanod £1.65, Iau £1.70 ac Uwchradd £1.66, fodd bynnag adolygir y prisiau hyn yn flynyddol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
O le mae'ch cyflenwadau arlwyo yn dod?
Rhaid i gyflenwyr gwblhau proses dendro fanwl i ennill unrhyw gontract i gyflenwi cynnyrch arlwyo a nwyddau traul. Cost ac ansawdd yw'r prif ffactorau bob tro wrth ddyfarnu contractau ond caiff materion eraill megis pa mor lleol ydynt, eu tarddiad, masnach deg ac ati eu hystyried cyn dyfarnu contract.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Faint o gynhwysion iach a maethlon a ddefnyddir mewn prydau bwyd ysgol ac a ydynt yn cyrraedd safonau cenedlaethol?
Caiff pob bwydlen ei pharatoi a'i dadansoddi yn unol â chanllawiau Maeth Cenedlaethol y Llywodraeth. Rydym yn gwella lefelau maeth ein prydau ysgol yn gyson ac yn ymroddedig i ddarparu bwydlen gyflawn ac amrywiol i bob plentyn yn ein ysgolion.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Mae fy mhlentyn yn mynd i ysgol sydd â threfn talu di-arian, allwch chi esbonio sut mae hyn yn gweithio?
Mae gennym daflen wybodaeth fanwl ar gyfer holl ddefnyddwyr y drefn ddi-arian. Gall rhieni, gwarcheidwaid neu ddisgyblion ei chael ar gais, cysylltwch â'r Is-adran Arlwyaeth Ysgolion ar 01978 297407 am gopi.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut all fy mhelntyn gymhwyso i gael cludiant ysgol am ddim?
Bydd y Fwrdeistref Sirol yn darparu cludiant ysgol am ddim i blant o dan 8 oed sy'n byw dros 2 filltir o'r ysgol agosaf neu i blant dros 8 oed sy'n byw dros 3 milltir o'r ysgol agosaf neu mewn achosion lle y bernir fod y llwybr i'r ysgol yn un peryglus. Gellir darparu cludiant i rai disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn dilyn asesiad gan y Prif Swyddog Datganiadau.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Gwrthodwyd rhoi cludiant am ddim i'r ysgol ar gyfer fy mhlentyn. Hoffwn apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Sut allaf wneud hyn?
Rhaid gwneud pob apêl trwy ysgrifennu at Mr Alyn Jones, Cydlynydd Cludiant, Adeiladau'r Goron CBSW, Wrecsam, LL13 8BG gan nodi'r rhesymau dros yr apêl.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Rwy'n pryderu am gyflwr caeau chwarae ysgol fy mhlentyn, pwy ddylwn i gysylltu â nhw?
Yn gyntaf, dylech gysylltu â'ch ysgol i fynegi eich pryderon. Os na fydd hynny'n llwyddiant, cysylltwch â Swyddog Cynnal a Chadw Caeau Ysgolion yn Adran yr Amgylchedd, Ffordd yr Abaty, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. 01978 292040.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Gwaith Cymdeithasol Addysg
Nid yw fy mhlentyn am fynd i'r ysgol gan ei fod yn cael ei fwlio. Beth ddylwn ei wneud?
- Gwnewch apwyntiad i weld y pennaeth. Rhowch fanylion llawn i'r ysgol am y bwlio/bwlis honedig. Sicrhewch eich bod yn deall pa gamau y bydd yr ysgol yn eu cymryd a pham. Gofynnwch am gael gweld copi o Bolisi Gwrthfwlio'r ysgol.
- Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru "Parchu Eraill: Cyfawyddyd Gwrthfwlio".
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Mae fy mhlentyn i ffwrdd o'r ysgol gan fod ganddo ef/ganddi hi lau pen.
Ni ellir gwahardd plant o'r ysgol o ganlyniad i lau pen gallant ddychwelyd i'r ysgol yn syth ar ôl iddynt gael eu trin. Gellir cael cyngor pellach gan nyrs yr ysgol. Ni ellwch dynnu eich plentyn o'r ysgol gan fod gan ddisgyblion eraill lau pen.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth fydd yn digwydd i mi os bydd partôl triwantiaeth yn fy ngweld i allan gyda'm plentyn/plant yn ystod oriau ysgol?
Rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad i'r Heddwas a'r Gweithiwr Cymdeithasol Addysg/Swyddog Cefnogi Addysg neu gellir eich arestio. Bydd y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg yn cadw cofnod o'ch manylion ac yn rhoi gwybod i ysgol(ion) eich plentyn/plant.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth fydd yn digwydd i'm plentyn os bydd patrôl triwantiaeth yn ei (d)dal yn ystod oriau ysgol?
Bydd yr Heddlu/Swyddog Cymdeithasol Addysg/Swyddog Cefnogi Addysg yn dychwelyd eich plentyn i'r ysgol. bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i chi os bydd eich plentyn yn cael ei (d)dychwelyd i'r ysgol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Os yw fy mhlentyn yn gwrthod mynd i'r ysgol, a fydd Gweithiwr Cymdeithasol Addysg/Swyddog Cefnogi Addysg yn galw heibio ac yn mynd ag ef/â hi i'r ysgol?
Na fydd. Cyfrifoldeb y rhiant/hieni yw hyn. Dylai rhieni gysylltu ag ysgol y plentyn ac/neu'r Gweithiwr Cymdeithasol Addysg/Swyddog Cefnogi Addysg am gyngor.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A fyddwch yn mynd â fi i'r llys os nad yw fy mhlentyn yn mynd i'r ysgol?
Mae gan yr Awdurdod Addysg Lleol ddyletswydd i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn rhieni/gofalwyr y mae eu plentyn/plant yn peidio â mynd i'r ysgol oni bai bod ganddynt reswm dilys. Gellir cymryd camau cyfreithiol ar ffurf
- erlyniad yn y Llys Ynadon lle gall euogfarnau gynnwys dirwyon o hyd at £2500.00, Gorchymyn Magu Plant neu ddedfrydau cymunedol a gellir eich carcharu mewn rhai achosion, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau;
- cais i'r Llys Teulu am Oruchwyliaeth Addysg i'ch plentyn yn unol â Deddf Plant 1989 neu
- rhoi Rhybudd Cosb Penodol ynghyd â dirwy o £50.00 os caiff ei thalu o fewn 28 diwrnod a £100.00 os caiff ei thalu ar ôl 28 diwrnod ond o fewn 42 diwrnod. (Os byddwch yn methu â thalu'r ddirwy bydd yr Awdurdod yn dechrau ar gamau trwy'r Llys Ynadon (gweler (i) uchod).
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf drefnu gwasanaeth cwnsela i'm plentyn?
Siaradwch gydag ysgol eich plentyn i ddechrau. Mae gan rai ysgolion wasanaeth cwnsela mewnol. Os nad yw'r gwasanaeth hwn ar gael yn yr ysgol, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Mae fy mhlentyn am ddechrau swydd ran-amser.
Caniateir i bobl ifanc sy'n 13 oed neu'n hyn weithio mewn swyddi penodol am nifer gyfyngedig o oriau bob wythnos. Gellir cynyddu nifer yr oriau gwaith unwaith i'r unigolyn ifanc gyrraedd 15 oed. Rhaid i bob unigolyn ifanc sydd am weithio gael Trwydded Waith gan yr Awdurdod Lleol. Mae ffurflenni cais a Thrwyddedau Perfformio ar gael gan y Swyddog Cyflogaeth Plant Ysgol. Mae'r swyddog hwn yn gweithio i'r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg sy'n rhan o'r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc, Ty Henblas, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, LL13 8AZ.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|