Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Cwn



A yw'r warden cwn yn ymdrin â chathod?

Mae'r Gwasanaeth Wardeiniaid Cwn yn ymdrin â chwn yn unig. Mae cathod yn rhydd i grwydro lle y mynnant ac ni chedwir unrhyw reolaeth ar eu crwydro.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Beth yw rhif ffôn yr RSPCA?

Gellir cysylltu â'r RSPCA ar 0870 55 55 999 neu trwy eu gwefan, www.rspca.org.uk

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Mae ci fy nghymydog yn cyfarth trwy'r amser ac yn achosi niwsans swn, beth allaf ei wneud?

Mae pob ci yn cyfarth, ond nid yw'n naturiol nac yn angenrheidiol iddynt gyfarth yn barhaus. Os yw cyfarth ci eich cymydog yn peri problem, mae gennych ddau brif ddewis. Yn gyntaf, er mwyn cadw ar delerau da, dylech ystyried cysylltu â'ch cymydog a rhoi gwybod iddo yn gwrtais bod ei gi yn achosi problem. Yn aml, nid yw perchennog y ci'n ymwybodol bod hyn yn digwydd, a byddai o gymorth iddo pe baech yn rhoi gwybod iddo ar ba adegau y mae'r ci yn tueddu i gyfarth. Mae'n bwysig peidio â bod yn gas gyda'ch cymydog hyd yn oed os yw'r cyfarth wedi peri i chi deimlo'n gas tuag ato.

Yn ail, os yw'r dull hwn o weithredu'n methu, neu os ydych yn teimlo na ellwch gysylltu â'ch cymydog, gellwch gysylltu â'r cyngor i wneud cwyn - gellwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen gwyn ar-lein, neu trwy ffonio 01978 298989, neu trwy'r e-bost: contact-us@wrexham.gov.uk. Bydd angen i chi roi eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill os ydych am i ni ymateb i'ch cwyn. Bydd angen i chi roi'r cyfeiriad lle cedwir y ci yn ogystal. Yn y lle cyntaf, byddwn yn ymateb trwy ysgrifennu atoch gan ofyn i chi lenwi ffurflenni monitro dros gyfnod o 2-4 wythnos a'u dychwelyd atom os yw'r cyfarth yn parhau. Ar yr un pryd byddwn yn ysgrifennu at berchennog y ci i'w hysbysu bod cwyn yn ei erbyn, ond ni ddatgelir eich manylion ar yr adeg honno. Mae'r rhan fwyaf o'r honiadau niwsans swn yn cael eu datrys yn ystod y cyfnod cynnar hwn, ond os yw'r cyfarth yn parhau, bydd y cyngor yn monitro'r sefyllfa ei hunan, ac os penderfynir bod achos o niwsans swn, gellir cyflwyno rhybudd atal swn. Mae peidio â chydymffurfio â rhybudd o'r fath yn drosedd.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Beth os yw'r swn yn digwydd tu allan i'ch oriau swyddfa chi?

Gellir datrys hyn trwy ddefnyddio ein cyfarpar monitro swn, y gellir ei osod yn eich cartref ac sy'n hawdd i'w weithio. Gyda'r offer, gellwch recordio'r cyfarth yn uniongyrchol a'i chwarae'n ôl ar yr un lefel. Fel dewis arall, gallwn gynnig gwneud tri ymweliad un-awr â'ch cartref, yn ystod y dydd neu'r nos,ar yr adegau pan yw'r ci'n fwyaf tebygol o gyfarth. Gwneir hyn yn unig ar ôl rhoi cyfle i berchennog y ci reoli'r cyfarth, ac wedi i chi lenwi a dychwelyd ein ffurflenni monitro swn.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Rwy'n bridio cwn - a oes angen i mi gael trwydded?

Ym gyffredinol, mae angen trydded arnoch i fridio cwn, ond mae'n dibynnu ar nifer y trollwythi a enir bob blwyddyn. Byddai mwy na phedwar o dorllwythi'r flwyddyn yn cael ei gyfrif fel busnes a byddai'n bendant angen trwydded arnoch. Gellir cael mwy o wybodaeth am y mater hwn gan yr Adran Diogelu'r Cyhoedd ar 01978 298989, e-bost: contact-us@wrexham.gov.uk neu drwy gwblhau'rr ffurflen ymholiad ar-lein.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Mae gen i gwyn ynghylch baw ci, beth allaf ei wneud?

Yn gyffredinol, mae unigolyn sydd â chi yn ei reolaeth ac yn caniatáu iddo faeddu lle cyhoeddus heb gael gwared â'r baw wedyn yn cyflawni trosedd. Wardeiniaid Mwynderau'r Cyngor sydd â'r cyfrifoldeb dros geisio atal ymddygiad o'r fath. Gallwn eich cynorthwyo trwy gynnal patrolau yn eich ardal, ond po fwyaf o wybodaeth y gellwch roi i ni am yr unigolion sy'n caniatáu i hyn ddigwydd, neu'r adegau y byddant yn ymarfer eu ci, mwyaf tebygol ydyw y gallwn weld y drosedd yn digwydd. Os gwelwn y drosedd yn digwydd, byddwn yn ymdrechu i gyflwyno rhybudd cosb benodol o £75 i'r troseddwr.

Dewis arall fyddai i chi roi tystiolaeth eich hunan a gallwn ystyried defnyddio eich tystiolaethi ddwyn achos yn erbyn y troseddwr. Gellwch gysylltu â'r Cyngor i i'w hysbysu ynghylch problem gyda baw ci, neu i holi sut i roi tystiolaeth am drosedd o gi yn baeddu - gellwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen gwyn ar-lein, neu trwy ffonio 01978 298989, neu trwy e-bost: contact-us@wrexham.gov.uk. Bydd angen i chi roi eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill os ydych am i ni ymateb i'ch cwyn.

Os oes llawer o faw ci yn eich cymdogaeth ac yr hoffech i balmentydd penodol gael eu glanhau, gellwch gysylltu â'r Adran Gwasanaethau Cymunedol ar 01978 298989.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



A gawn ni arwyddion 'dim baw ci', os gwelwch yn dda?

Mae llawer o arwyddion "dim baw ci" trwy'r Bwrdeistref Sirol eisoes a rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â chreu dolur llygad gyda gormod o arwyddion. Mae'n ymddangos hefyd mai ychydig o bobl sy'n cymryd sylw o'r arwyddion ar ôl cyfnod hir. Er hynny, gall Wardeiniaid Mwynderau'r cyngor drefnu i osod arwyddion yn eich cymdogaeth, yn enwedig os oes baeddu'n digwydd yn aml. I drefnu hyn, cysylltwch â'r Wardeiniaid Mwynderau ar 01978 298989, e-bost: contact-us@wrexham.gov.uk neu trwy lenwi ffurflen ymholiad ar-lein.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Pam nad oes gennych finiau yn arbennig ar gyfer cwn?

Mae nifer fawr o finiau sbwriel eisoes ar gael trwy'r Bwrdeistref Sirol a gellir defnyddio'r rhain ar gyfer baw ci mewn bag plastig neu mewn teclyn casglu baw pwrpasol ("pooper-scooper"). Byddai'n rhaid prynu biniau baw ci penodol ac y maent yn costio mwy i'w gwagio. Os prynu mwy o finiau, gwell prynu biniau sbwriel ychwanegol sy'n gallu derbyn baw ci a sbwriel. Ein bwriad yw cyfleu neges eglur y dylid glanhau baw ci a'i roi mewn bin sbwriel neu ei gludo adref.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Sut y gallaf gael gosod microsglodyn yn fy nghi?

Gall eich milfeddygfa leol roi gwybod i chi a allant osod microsglodyn yn eich ci. Mae eu manylion cyswllt yn y cyfeiriadur busnes. Mae pob ci gesglir gan ein Gwasanaeth Wardeiniaid Cwn yn cael ei sganio am ficrosglodion a byddwn yn ymdrechu i gysylltu â'r perchennog os yw'r microsglodyn yn datgelu pwy ydyw. Ni allwn roi sicrwydd y canfyddir y microsglodyn ym mhob achos.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Rwyf wedi dod o hyd i gi, beth ddylwn i ei wneud ag o?

Os ydych yn dod o hyd i gi crwydr, gellwch naill ai fynd â'r ci i orsaf agosaf yr heddlu neu at yr awdurdod lleol agosaf at y man y canfuwyd y ci. Yn ymarferol, gyda'r nosau ac ar benwythnosau, prif orsaf heddlu Wrecsam, Bodhyfryd, Wrecsam yn unig fel arfer sydd â'r cyfleusterau i dderbyn cwn crwydr. Yn y mwyafrif o achosion, Gwasanaeth Wardeiniaid Cwn y Cyngor yw'r brif asiantaeth sy'n delio â chwn crwydr; ac yn ystod oriau swyddfa arferol byddwn yn ymdrechu i gasglu'r ci, os gellir ein bodloni nad y chi yw perchennog y ci dan sylw. Mae Gwasanaeth Wardeiniaid Cwn y Cyngor yn gweithredu o 8.45am - 5,15pm dydd Llun i ddydd Iau a 8.45am - 4.45pm ar ddydd Gwener. Os nad yw'r ci wedi ei anafu neu'n sâl, ni ddylech ofyn i filfeddyg gymryd y ci gennych.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Rwyf wedi colli fy nghi, a yw'r Warden Cwn wedi ei gasglu?

Os ydych wedi colli eich ci dylech hysbysu'r Gwasanaeth Wardeiniaid Cwn ar 01978 298989. Os yw'r Warden Cwn wedi casglu eich ci a'i gymryd i'n cynelau penodedig, cewch wybod hynny gan y Warden Cwn. I gael eich ci yn ôl, bydd angen i chi ymweld â'r cynelau a thalu cosb o £60 ynghyd â chostau lletya'r ci, sef £10.42 am bob diwrnod neu ran o ddiwrnod y cadwyd eich ci.

Mae gennych saith diwrnod o'r dyddiad y cymerwyd y ci i'r cynelau i'w hawlio yn ôl. Os methwch â chasglu'r ci o fewn y cyfnod hwnnw, ni fydd modd i chi ei gael yn ôl. Os hysbysir y Warden cwn bod y ci ar goll cyn i neb ei ddal, yna, os deuwn o hyd iddo, a chyn belled nad ydym wedi casglu eich ci chi yn y gorffennol, byddwn yn ceisio ei ddychwelyd atoch heb unrhyw gosb. Os deuir o hyd i'r ci ac nad oes modd cysylltu â chi, bydd yn rhaid mynd â'ch ci i'r cynelau a bydd y taliadau arferol yn ddyledus.

Os ydych wedi colli eich ci, dylech roi gwybod hefyd i'r Heddlu yn Uned Gefnogi Ardal Wrecsam, Bodhyfryd, Wrecsam ar 01978 290222, Llun - Gwener 9am - 6pm a Sadwrn 10am - 4pm, gan holi os yw'ch ci wedi ei gyflwyno i'w gofal hwy.

Cynelau penodedig y Cyngor yw:
Acorn Boarding Kennels
Oakfields
Heath Road
Whitchurch
SY13 2AA

Oriau Agor: 9.00am - 6.00pm, Dydd Sul - Dydd Sadwrn.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Mwy o wybodaeth cyswllt:

Ffôn: 01978 298989

E-bost: contact-us@wrexham.gov.uk

Llenwch y ffurflen ymholiad ar-lein

Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Diogelu’r Cyhoedd
Stryd Fawr
Rhiwabon
Wrecsam
LL14 6NH



Nid yw fy nghwestiwn i yma!

Os nad ydym wedi cynnwys y wybodaeth y mae arnoch ei hangen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda, a gwnawn ein gorau i'ch cynorthwyo:

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint