Trethi Busnes
- Trethi Busnes - Trosolwg Cyffredinol
- Sut gaiff fy mil TA ei gyfrifo?
- A oes unrhyw eiddo busnes yn eithriedig rhag TA?
- Sut allaf leihau cyfanswm y TA yr wyf yn ei dalu?
- Eich bil TA
- Sut allaf dalu fy mil?
- Beth os na fyddaf yn talu?
Trosolwg cyffredinol o Trwy Drethi Annomestig (TA) yw hwn. Am ymholiadau penodol neu wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Is-adran Trethi Busnes ar 01978 292030.
Trethi Busnes – Trosolwg Cyffredinol
Trwy Drethi Annomestig (TA) y mae busnesau a defnyddwyr eiddo annomestig eraill yn cyfrannu at gostau gwasanaethau’r awdurdod lleol. Cesglir TA gan yr awdurdod lleol a chaiff ei dalu i gronfa ganolog.
Yna mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfrifo faint y dylid ei ailddosbarthu i bob awdurdod, a defnyddir yr incwm hwn i dalu am wasanaethau penodol yn yr ardal. Am wybodaeth bellach am sut yr ariennir yr awdurdod, ewch i www.communities.gov.uk
^ yn l i'r brig | Yn l i'r Mynegai Cwestiynau
Sut gaiff fy mil TA ei gyfrifo?
Neilltuir Gwerth Trethadwy* (GT) ar gyfer pob eiddo annomestig trethadwy gan y Swyddfa Brisio Ranbarthol. Caiff y GT hwn ei luosi â’r lluosydd** i gyfrifo’r gost flynyddol.
*Gwerth Trethadwy – Dylai’r GT adlewyrchu’n fras y rhent blynyddol y gellid ei gael am yr eiddo pe bai’n cael ei osod ar y farchnad agored ar 01/04/03.
**Lluosydd - Dyma’r dreth yn ôl y bunt a osodir yn flynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i symud yn unol â chwyddiant. Lluosydd 2006/2007 ar gyfer Cymru yw £0.0432. Felly, os oes gennych eiddo busnes sydd â gwerth trethadwy o £5,000, y TA blynyddol fydd £2,160.00 (5,000 x 0.432).
Os teimlwch fod eich gwerth trethadwy yn rhy uchel, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar sut y cyfrifir GT, cysylltwch â’r Swyddfa Brisio Ranbarthol ar 01978 200000 neu ewch i www.voa.gov.uk.
^ yn l i'r brig | Yn l i'r Mynegai Cwestiynau
A oes unrhyw eiddo busnes yn eithriedig rhag TA?
Mae’r canlynol yn eithriedig:
- Tir ac adeiladau fferm
- Ffermydd pysgod
- Eglwysi
- Carthffosydd
- Parciau cyhoeddus
- Angorfeydd symudol i gychod
- Eiddo penodol a ddefnyddir gan yr anabl.
^ yn l i'r brig | Yn l i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf leihau cyfanswm y TA yr wyf yn ei dalu?
Dyma drosolwg cryno o’r rhyddhad sydd ar gael.
Efallai y bydd gennych hawl i ryddhad treth os:
- Oes gennych eiddo gwag nad yw’n cael ei ddefnyddio. Yn yr achos hwn bydd gennych hawl i gael eich eithrio am 3 mis, yna 50% o’r gost nes i’r eiddo gael ei ddefnyddio neu ei werthu. Mae adeiladau rhestredig a’r rheiny â GT o lai na £1,500 yn eithriedig rhag talu trethi gwag.
- Yw eich sefydliad yn elusen gofrestredig neu’n glwb chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig, mae gennych hawl i ryddhad treth o 80%. Rhaid i chi wneud cais i’r cyngor am y rhyddhad hwn.
- Nad yw eich sefydliad yn elusen gofrestredig, ond yn gorff dim am elw. Gall y Cyngor ddewis rhoi rhyddhad 100% os yw’r sefydliad yn un dyngarol, crefyddol neu’n ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llythrennedd neu gelfyddyd gain. Nid oes gan unrhyw un hawl i’r rhyddhad hwn fel mater o drefn a rhaid gwneud cais i’r Cyngor.
- Yw eich busnes mewn ardal anheddol wledig, gyda GT o lai na £6,000 (£9,000 i dafarndai a gorsafoedd petrol). Gall y cyngor hefyd ddewis rhoi Rhyddhad Trethi Gwledig i fusnesau mewn ardal wledig sydd â GT o lai na £12,000.
Dylech gysylltu â’r Is-adran Trethi Busnes am fwy o wybodaeth am y mathau hyn o ryddhad ac am fanylion sut i ymgeisio.
^ yn l i'r brig | Yn l i'r Mynegai Cwestiynau
Mae’r flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1af Ebrill a chewch fil fel arfer bythefnos cyn y dyddiad talu cyntaf ar 10fed Ebrill.
Telir y bil mewn rhandaliadau dros 10 mis, er hynny, efallai y gofynnir i chi dalu dros gyfnod llai os cafodd y bil ei anfon ar ôl diwedd mis Ebrill.
^ yn l i'r brig | Yn l i'r Mynegai Cwestiynau
Gellwch ymweld â swyddfeydd y Cyngor a thalu ag arian parod, siec neu gerdyn debyd, neu gellwch dalu dros y ffôn (01978 292852) trwy gerdyn debyd. Gellwch dalu bob mis trwy ddebyd uniongyrchol/archeb sefydlog neu trwy’r system BACS hefyd.
^ yn l i'r brig | Yn l i'r Mynegai Cwestiynau
Os byddwch yn methu taliad, cewch rybudd atgoffa yn gofyn am y taliad o fewn 7 diwrnod. Os byddwch yn talu’r rhandaliad a fethwyd, gellwch barhau â’r rhandaliadau misol. Os na fyddwch yn talu’r swm gofynnol, cewch eich galw i’r Llys Ynadon a fydd yn golygu costau o £30.30 i chi.
Mae gennych hawl i fynd i wrandawiad llys i roi’ch rhesymau dros beidio â rhoi Gorchymyn Atebolrwydd i chi. Os rhoddir gorchymyn i chi, dylech drefnu i dalu’r ôl-ddyledion gyda’r Cyngor.
Os rhoddir gorchymyn i chi, codir costau arnoch am y Gorchymyn Atebolrwydd sef cyfanswm o £16.50.
Os na fyddwch yn gwneud trefniant neu os byddwch yn methu taliadau ar gynllun rhandaliadau wedi’i drefnu, mae’n bosibl y bydd eich achos yn cael ei anfon at feili’r Cyngor a bydd costau ychwanegol yn cael eu codi arnoch.
^ yn l i'r brig | Yn l i'r Mynegai Cwestiynau
Trosolwg cyffredinol o TA yw hwn. Am ymholiadau penodol neu wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Is-adran Trethi Busnes ar 01978 292030.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?







