Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Cwestiynau Cyffredin ynghylch Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor

 

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

Beth yw Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor?

Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor

  • Mae’n gallu talu’r rhent a threth y cyngor ar eich cartref yn rhannol neu’n gyfan gwbl;
  • Mae modd ei dalu i bobl o bob oed sy’n derbyn incwm isel;
  • Mae modd hawlio’r ddau ar yr un pryd neu’n unigol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 


A oes gennyf hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor?

Efallai y bydd gennych hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor -

  • Os ydych yn gweithio llawn-amser neu ran-amser ac yn derbyn cyflog isel;
  • Os ydych yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd, neu fudd-daliadau eraill y wladwriaeth ar sail cyfraniadau;
  • Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu fudd-daliadau eraill ar sail incwm fel Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm neu elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn;
  • Os ydych wedi ymddeol ac yn derbyn incwm isel;

Yn ôl pob tebyg ni fydd gennych hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor -

  • Os oes gennych gynilion o fwy nag £16,000;
  • Os ydych yn fyfyriwr (oni bai eich bod yn anabl neu fod gennych blant)
  • Os ydych yn talu rhent i fyw gyda pherthynas agos.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Ffordd arall o dalu llai o Dreth y Cyngor:

Mae ffordd arall o dalu llai o Dreth y Cyngor. Gallwch fod â hawl i Ad-daliad Ail Oedolyn os ydych yn atebol am Dreth y Cyngor ac oedolyn arall yn byw gyda chi:

  • Sy’n 18 oed neu hŷn,
  • Sydd heb fod yn bartner i chi,
  • Sy’n derbyn incwm isel,
  • Sydd heb fod yn talu rhent i chi.

Mae’r budd-dal hwn yn cael ei seilio ar incwm yr ail oedolyn, yn hytrach nag ar eich incwm eich hun. Ni allwch gael Budd-dal y Dreth Gyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn ac, felly, byddwn yn gweld pa un o’r budd-daliadau hyn fyddai orau i chi.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Faint o Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor gaf i?

Mae amgylchiadau pawb yn wahanol ac mae’n anodd gwybod faint o Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor allai rhywun ei gael nes byddant wedi cyflwyno a chael gwirio eu holl wybodaeth ar ffurflen hawlio. Bydd y wybodaeth sydd yma’n dweud wrthych a ydych yn debygol o fod â hawl a sut fyddwn yn cyfrif eich hawl. Ar ôl ei ddarllen, os ydych yn meddwl y gallwch fod â hawl, codwch ffurflen hawlio o swyddfeydd y Cyngor neu ysgrifennwch, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut ydych chi’n cyfrif fy hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor?

Pan fyddwn yn cyfrif faint o fudd-dal sydd gennych hawl iddo byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ganlynol:

  • faint o rent a Threth y Cyngor a dalwch;
  • faint o arian y byddwch chi, a’ch partner os oes gennych un, yn ei dderbyn bob wythnos;
  • pwy sy’n byw gyda chi;
  • faint o asedau cyfalafol sydd gennych chi, a’ch partner os oes gennych un.

Eich rhent:

Mae modd talu Budd-dal Tai os ydych yn rhentu gan y cyngor, Cymdeithas Dai neu landlord preifat.    

Os ydych yn rhentu gan y cyngor neu Gymdeithas Dai, y rhent a ddefnyddiwn i gyfrif faint o Fudd-dal Tai i dalu i chi yw union swm y rhent a dalwch.

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, bydd eich Budd-dal Tai ei gyfrif trwy ddefnyddio ffigur rhent sy’n cael ei asesu gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti, yn hytrach nag union swm y rhent a dalwch. Y ffigur hwn yw’r swm y dywed y Swyddog Rhenti sy’n rhesymol i seilio hawliad arno, ac mae’n ystyried faint o bobl sy’n byw gyda chi a nifer yr ystafelloedd gallech fod eu hangen o fewn rheswm.

Nid yw rhai eitemau, fel taliadau tanwydd am wresogi a goleuo ac ati, neu daliadau yswiriant, sy’n cael eu talu weithiau mewn rhent cynhwysol, yn gymwys ar gyfer budd-dal.

Eich incwm:

Byddwn yn asesu’r arian sy’n dod i’ch aelwyd mewn wythnos i gyfrif eich incwm at ddibenion budd-dal. Gall hyn ddod o waith llawn-amser neu ran-amser, pensiwn neu o fudd-daliadau eraill. Nid yw rhai eitemau o incwm, fel Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i’r Anabl, yn cael eu cyfrif fel incwm, ond rhaid i chi ddal i ddweud wrthym am yr holl arian a dderbyniwch er mwyn i ni allu gwneud asesiad cywir. Nid yw incwm o gyfalaf, fel llog neu ddifidendau, yn cael ei gyfrif, ond fe all swm safonol gael ei ychwanegu at eich incwm wythnosol (gwelwch isod).

Mae asesiad o’ch incwm yn cael ei gymharu â chyfres o lwfansau a bennodd y Llywodraeth. Bydd y lwfansau safonol yn cael eu cynyddu dan rai amgylchiadau, fel pan fydd gennych blant dibynnol neu os ydych yn anabl.

Os yw eich incwm yn llai na’ch lwfans, mae gennych hawl i uchafswm Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.

Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn (Credyd Gwarant), Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, mae gennych hawl i uchafswm Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.

Os yw eich incwm yn fwy na’ch lwfans, eich hawl yw eich lwfans uchaf ar ôl tynnu canran o’ch incwm dros ben. Felly, po fwyaf eich incwm, lleiaf fydd eich budd-dal. Os ydych chi, neu eich partner os oes gennych un, yn derbyn Lwfans Gweini neu elfen ofal Lwfans Byw i’r Anabl nid yw eich hawl yn lleihau oherwydd hyn.

Pwy sy’n byw gyda chi:

Mae eich lwfans yn cael ei gynyddu am bob plentyn dibynnol sy’n byw gyda chi. Fodd bynnag, efallai y bydd rhywfaint o arian yn cael ei dynnu o’ch hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor os oes gennych unrhyw oedolion annibynnol dros 18 yn byw gyda chi.

Y Llywodraeth sy’n pennu’r swm a dynnwn ac mae’n cynyddu yn ôl incwm y rhai annibynnol ac, felly, rhaid i ni ofyn i chi am hynny. Os na fyddwch yn rhoi manylion, byddwn yn tynnu’r uchafswm.

Rydym yn lleihau’r lwfans fel hyn am ei bod yn rhesymol disgwyl i rywun yn byw sy’n byw yn eich cartref gyfrannu at y rhent a Threth y Cyngor. Nid ydych yn gorfod dweud wrthym faint a gewch gan aelod annibynnol o’ch aelwyd.

Eich cynilion a buddsoddiadau:

Mae’r ffigurau isod yr un fath i rywun sengl ac i gwpl.

Os oes gennych dros £16,000 mewn asedau cyfalafol, ni fydd gennych hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor, oni bai eich bod dros oed pensiwn ac yn gymwys i dderbyn elfen Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn;

Os oes gennych dan £6,000 mewn asedau cyfalafol, ni fydd yn effeithio ar eich hawl i fudd-dal.

Os oes gennych rhwng £6,000 a £16,000, byddwn yn asesu incwm o’r cyfalaf hwn ac yn ei ychwanegu at asesiad yr incwm.

Hyd yn oed os gwyddoch na fydd eich asedau cyfalafol yn effeithio ar eich hawl, rhaid i chi ddatgan popeth yn eich hawliad er mwyn i ni allu gwneud asesiad cywir.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid pan fyddaf yn hawlio Budd-dal Tai a/neu Fudd-dal y Dreth Gyngor?

Os oes gennych hawl i fudd-dal a’ch amgylchiadau’n newid, rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith. Os na wnewch, efallai y byddwch yn derbyn gormod neu rhy ychydig o Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor. Mae rhai o’r newidiadau mwyaf cyffredin yn cael eu rhestru isod:

  • Unrhyw newidiadau yn eich incwm (neu un eich partner) neu ffynhonnell eich incwm (fel gorffen cael un budd-dal Nawdd Cymdeithasol ac yn derbyn un arall, os bydd eich enillion yn cynyddu neu eich oriau gwaith yn gostwng).
  • Unrhyw newid yn amgylchiadau pobl sy’n byw yn eich cartref (fel dechrau gweithio neu adael yr ysgol).
  • Newidiadau yn nifer y bobl sydd yn eich cartref (fel plant yn gadael cartref neu roi llety i rywun).

Os byddwn yn talu mwy o Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor i chi nag sydd gennych hawl iddynt am na ddywedoch chi wrthym am newid yn eich amgylchiadau ar unwaith, byddwch yn gorfod ad-dalu’r budd-dal dros ben.

Os byddwn yn talu rhy ychydig o fudd-dal i chi am na ddywedoch chi wrthym am newid yn eich amgylchiadau ar unwaith, fe allwch golli hawl i’r budd-dal na thalwyd.

Os nad ydych yn sicr a fydd y newid yn eich amgylchiadau’n effeithio ar eich budd-dal, dywedwch wrthym amdano ar unwaith.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut mae hawlio Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor?

I hawlio, bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio a’i dychwelyd. Gallwch gael hon o’n swyddfeydd yn Stryt y Lampint neu yn unrhyw Swyddfa Stad leol. Fe anfonwn ffurflen atoch os byddwch yn ysgrifennu, ffonio neu’n anfon e-bost i ofyn am un. Mae’r holl fanylion cysylltu i’w cael trwy glicio ar ‘Cysylltu â ni’. Efallai fod gennych hawl i Fudd-dal Tai a/neu Fudd-dal y Dreth Gyngor yn barod ac yn colli arian os nad ydych wedi gwneud cais. Fel arfer mae budd-dal yn cael ei dalu o ddechrau’r wythnos yn dilyn derbyn eich hawliad ac, felly, peidiwch ag oedi. Hyd yn oed os nad ydych yn sicr a oes gennych hawl, mae’n werth gwneud cais er mwyn i ni allu sicrhau hyn ar eich rhan.

Pan fyddwch yn gwneud cais byddwn yn gofyn i chi roi rhai dogfennau gwreiddiol i ni i’w gwirio. Mae arnom angen prawf o bwy ydych, rhif Yswiriant Gwladol, incwm, cyfalaf ac, os ydych yn rhentu gan rywun heblaw’r cyngor, bydd arnom angen tystiolaeth o’ch rhent. Mae dogfennau addas yn cael eu manylu ar y ffurflen gais.

Hyd yn oed os nad oes gennych yr holl ddogfennau sydd arnom eu hangen, peidiwch ag oedi cyn anfon eich ffurflen hawlio atom gan y gallai hyn beri colli budd-dal. Gallwch anfon dogfennau rywbryd eto ond bydd dod â ffurflen hawlio gyda’r holl ddogfennau gwreiddiol sydd gennych yn cynorthwyo i ni wneud penderfyniad ynghylch eich hawliad mor gyflym ag y gallwn.

Dim ond un ffurflen sydd ei hangen i weld a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Gyngor a/neu Ad-daliad Ail Oedolyn.

Os byddwch angen cymorth i lenwi eich ffurflen hawlio, cysylltwch â’n swyddfeydd a bydd aelod o’n staff Budd-daliadau’n falch o’ch helpu. Dan amgylchiadau eithriadol fe allwn drefnu ymweld â’ch cartref.

Ffyrdd eraill o hawlio

Os byddwch yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd o Ganolfan Byd Gwaith, byddwch fel arfer yn gwneud eich cais am Fudd-dal Tai a/neu Fudd-dal y Dreth Gyngor ar yr un pryd.

Ffoniwch Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 600 3016 neu ymweld â www.jobcentreplus.gov.uk

Os ydych yn hawlio’r Credyd Pensiwn, byddwch fel arfer yn gwneud eich cais am Fudd-dal Tai a/neu Fudd-dal y Dreth Gyngor ar yr un pryd.

Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ymweld â www.pensiynau.gov.uk/welsh/home.asp

Adolygu eich hawliad

O bryd i’w gilydd, byddwch yn cael ffurflen adolygu sy’n rhaid i chi ei llenwi a’i dychwelyd er mwyn dal i gael budd-dal. Gall Swyddog Ymweld gasglu hon, neu gallwch ei chyflwyno’n bersonol neu ei hanfon yn ôl drwy’r post – bydd cyfarwyddiadau llawn yn cael eu hanfon gyda’r ffurflen adolygu.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 


Pryd fydd fy nhaliadau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor yn dechrau?

Fel arfer, mae budd-dal yn cael ei dalu o’r wythnos yn dilyn y dyddiad y gwnaethoch eich hawliad. Os oes gennych reswm da dros beidio â bod wedi gwneud cais yn gynharach, gall y Cyngor ystyried ôl-ddyddio eich hawl hyd at 52 wythnos.

Nid yw’n diffinio beth sy’n ffurfio rheswm da, ond nid yw fel arfer yn ddigonol honni nad oeddech yn ymwybodol fod budd-dal ar gael.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 


Sut fydd fy Mudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor yn cael eu talu?

O ran tenantiaid y Cyngor, mae eich taliadau Budd-dal Tai yn cael eu credydu i’ch cyfrif rhent a byddwch yn talu llai o rent.

O ran tenantiaid eraill, fel arfer, bydd taliadau Budd-dal Tai yn cael eu talu i’ch cyfrif banc neu’n uniongyrchol i’ch landlord bob 2 neu 4 wythnos.

Mae taliadau Budd-dal y Dreth Gyngor yn cael eu credydu i’ch cyfrif Treth Gyngor a byddwch yn talu llai o Dreth y Cyngor .

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 


Beth sy’n digwydd os nad wy’n deall penderfyniad y Cyngor ynghylch Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor?

Pan fyddwn wedi delio â’ch hawliad Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor byddwn yn anfon llythyr atoch yn egluro ein penderfyniad. Dylech edrych yn ofalus ar y llythyr hwn i sicrhau bod eich holl fanylion yn gywir. Os nad ydych yn deall y llythyr hwn, gallwch gysylltu â ni trwy lythyr neu dros y ffôn neu drwy alw heibio ein swyddfeydd a gallwn ei egluro. Gallwch hefyd ofyn am Ddatganiad Rhesymau trwy ysgrifennu atom; bydd hyn yn egluro sut y cyfrifwyd eich hawl i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 


Beth sy’n digwydd os wy’n anghytuno gyda phenderfyniad y Cyngor ynghylch Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor?

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad a anfonwn atoch ynghylch eich Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor, gallwch ofyn i ni edrych ar y penderfyniad hwnnw eto neu gallwch apelio at dribiwnlys annibynnol sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd.

Rhaid i chi ysgrifennu a dweud wrthym pam y credwch fod eich penderfyniad budd-dal yn anghywir, ac a hoffech i ni edrych eto ar eich hawliad neu ei drosglwyddo i’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, cyn pen mis o’r dyddiad ar y llythyr sy’n egluro ein penderfyniad.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn edrych trwy eich hawliad eto, gan ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol a roddwch yn eich llythyr. Byddwn yn penderfynu naill ai i newid y penderfyniad a thalu mwy neu lai o fudd-dal i chi neu beidio â newid y penderfyniad. Tra byddwn yn ailystyried y penderfyniad, mae’r terfyn amser o fis yn cael ei ohirio. Yna byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud beth a benderfynwyd.

Os penderfynwn na fyddwn yn newid ein penderfyniad neu os penderfynwn dalu llai o fudd-dal i chi a’ch bod eisoes wedi gofyn i ni drosglwyddo’r achos i’r Gwasanaeth Tribiwnlys yna byddwn yn gwneud hynny.

Os penderfynwn na fyddwn yn newid ein penderfyniad neu os penderfynwn dalu llai o fudd-dal i chi, ac nad ydych wedi gofyn i ni drosglwyddo’r achos i’r Gwasanaeth Tribiwnlys, mae’r terfyn amser o fis a ohiriwyd yn ailddechrau o ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol, gan anwybyddu’r amser rhwng derbyn eich cais a’i ateb. Mae hyn yn golygu nad ydych yn colli hawl i broses apelio annibynnol trwy ofyn yn gyntaf i’r Cyngor edrych eto ar y penderfyniad.

Y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd

Os bydd eich apêl yn cael ei throsglwyddo i’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd bydd gofyn i chi anfon copi o achos y Cyngor y dylech ei ddarllen yn ofalus. Os nad ydych yn ei deall gallwch ofyn i ni ei egluro i chi neu gael cymorth canolfan gynghori neu gyfreithiwr. Byddwch hefyd yn derbyn ffurflen TAS1 yn gofyn i chi a ydych yn dymuno cael delio â’ch apêl yn ysgrifenedig neu drwy fynychu’n bersonol. Mae gennych 14 diwrnod i ddychwelyd eich ffurflen TAS1.

Os dewiswch fynychu gwrandawiad yr apêl yn bersonol gallwch fynd â rhywun gyda chi i helpu i chi gyflwyno eich achos, fel cyfreithiwr neu gyfaill. Fel arfer bydd rhywun o’r Cyngor yno i gyflwyno ein hachos ni ac fe all aelodau’r Tribiwnlys eich holi ynghylch pam y credwch fod penderfyniad y Cyngor yn anghywir.

Os dewiswch beidio â mynychu’r gwrandawiad, bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ynghylch eich apêl ar sail yr hyn a ysgrifennwyd gennych.

Yn y ddau fath o wrandawiad, bydd aelodau’r Tribiwnlys yn edrych ar y dystiolaeth, y gyfraith a’r amgylchiadau ar yr adeg y gwnaethom y penderfyniad yr ydych yn apelio yn ei erbyn. Byddant yn ysgrifennu atoch ac at y Cyngor gyda’u penderfyniad, a bydd y Cyngor yn ei weithredu ar unwaith.

Cysylltu â Cysylltu â Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor

Ffoniwch yr Adran Budd-daliadau ar:

Tenantiaid preifat neu berchen-feddianwyr – 01978 292032
Tenantiaid y Cyngor – 01978 292033

Mae ein swyddfeydd ar agor i ymwelwyr rhwng 8.45 a 5.15 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.45 i 4.45 ar ddydd Gwener.  Neu gallwch ein ffonio rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ymwelwch â’ch Swyddfa Stad leol neu brif swyddfeydd y Cyngor:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

Mae ein swyddfeydd ar agor i ymwelwyr rhwng 8.45 a 5.15 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.45 i 4.45 ar ddydd Gwener.  Neu gallwch ein ffonio rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

E-bost: housingbenefits@wrexham.gov.uk

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint